'Angen cydbwysedd' rhwng twristiaeth a chadwraeth

Carys Rees ar gopa Pen y FanFfynhonnell y llun, the girl walks
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carys Rees yn rhannu nifer o luniau o Fannau Brycheiniog ar ei chyfrif instagram

  • Cyhoeddwyd

Gyda'r tymor gwyliau yn ei anterth, mae 'na alw yn un o barciau cenedlaethol Cymru am gadw cydbwysedd rhwng denu pobl i'r rhannau mwyaf poblogaidd trwy'r cyfryngau cymdeithasol a'u gwarchod.

Mae pobl sy'n gweithio ym Mannau Brycheiniog yn dweud bod lluniau ar wefannau fel Instagram wedi arwain at gynnydd mawr yn nifer yr ymwelwyr i lefydd fel Pen y Fan a'r Sgydau yn ardal Pontneddfechan.

"Mae social media yn gallu bod yn bositif i'r parc," meddai Steffan Edwards, sy'n warden gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, "ond hefyd mae'n achosi lot o broblemau".

"Mae lot o lefydd oedd yn brysur o'r blaen wedi mynd yn fwy prysur a hefyd mae llefydd oedd yn dawel o'r blaen wedi mynd yn brysur hefyd," meddai.

Mae'r awdurdod yn dweud nad ydyn nhw eisiau gofyn i dwristiaid gadw draw, ond maen nhw'n annog pobl i ymweld â'r ardal y tu hwnt i'r cyfnodau prysuraf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Steffan Edwards yn warden gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae Dorien Thomas yn arwain teithiau ym Mannau Brycheiniog a thu hwnt, ac yn dweud ei fod yn ceisio annog ymwelwyr i fynd i rai o'r ardaloedd llai amlwg.

"Dwi wedi bod yn cyfeirio pobl at daith yr ochr draw i Ben y Fan.

"Dwi wedi gwneud y daith sawl gwaith eleni, ac mae pobl wedi bod wrth eu bodd - ry'n ni wedi cwrdd ag un neu ddau o bobl yn unig yno, ac mae ganddo chi olygfeydd godidog o'r Bannau yn gyfan."

'Mwy na chael y llun perffaith'

Mae gan Carys Rees gyfrif instagram o'r enw 'This girl walks', ac mae hefyd yn gweithio gyda thîm achub mynydd Bannau Brycheiniog.

Mae hi'n pwysleisio pwysigrwydd paratoi cyn mentro i gerdded yno.

"Rwy'n meddwl bod mwy iddo na chael y llun perffaith yn unig," meddai.

"Mae llawer o bobl yn gweld y lleoedd anhygoel hyn ac ishe mynd yna a does dim byd yn bod ar hynny.

"Beth dwi'n dweud yw jyst gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud eich ymchwil yn gynta', mae llawer o wybodaeth ar gael ar-lein, ac mae arweinwyr mynydd sy'n gallu helpu chi hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lucie Kolarikova a Katerina Mrázková a'u ci, Gwaii, wedi mentro i Ben y Fan ar ôl gweld lluniau ar gyfryngau cymdeithasol

Ymhlith y cannoedd fu'n ceisio dringo Pen y Fan yr wythnos ddiwethaf, roedd Lucie Kolarikova a Katerina Mrazkova o'r Weriniaeth Tsiec - y cyfryngau cymdeithasol oedd wedi eu denu i Fannau Brycheiniog.

"Dyna pam ry'n ni yma - roedden ni eisiau tynnu lluniau" meddai Katerina.

"Dwi'n meddwl ei fod yn rhywbeth cyffredin iawn nawr i fynd i lefydd mae pobl wedi'u gweld ar instagram".

Mae'r warden Steffan Edwards yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi fod pobl yn paratoi cyn ymweld.

"Ni'n gweld pobl sydd jyst yn gweld pethe ar instragram a neidio yn y car a dod fan hyn i Fannau Brycheiniog.

"Falle bod y tywydd yn y dref neu'r ddinas yn braf, a phryd maen nhw'n dod i'r mynyddoedd mae'r niwl lawr ac mae'n bwrw, a dydyn nhw ddim wedi paratoi - heb got, heb boots neu fap neu compass.

"Ni moyn i bobl ddod i'r parc i fwynhau ond hefyd wedi paratoi ar gyfer dydd ar y mynydd."

Mae rhyw 4 miliwn o bobl yn ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn flynyddol, gyda chyfran helaeth ohonyn nhw'n mynd i'r ardaloedd mwyaf poblogaidd fel Pen y Fan.

Ffynhonnell y llun, trigpointadventures.co.uk
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dorien Thomas, rhan o apêl Pen y Fan yw ei fod yn hawdd i'w gyrraedd

Un o'r rhesymau am boblogrwydd y mynydd yw'r ffaith ei fod yn hawdd ei gyrraedd, yn ôl y tywysydd Dorien Thomas.

"Os yw'r haul yn gwenu, mae Pen y Fan yn brysur," meddai.

"Dwi'n osgoi'r lle ar benwythnosau, a cheisio mynd a phobl ganol yr wythnos.

"Dwi wastad yn dweud wrth bobl, os y'ch chi'n mynd i wneud Pen y Fan, disgwyliwch iddo fod yn brysur."

Ymhlith y mesurau eraill sy'n cael eu cyflwyno i geisio lleihau'r pwysau yno yw gwasanaeth bws o Ferthyr Tudful ac Aberhonddu, er mwyn ceisio annog pobl i beidio â defnyddio'u ceir.

Mae 'na bwysau hefyd gyda chymaint o bobl eisiau ymweld â'r sgydau neu raeadrau yn ardal Pontneddfechan.

Ffynhonnell y llun, trigpointadventures.co.uk
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dorien Thomas yn dweud fod Pen y Fan yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid

"Mae 'na lwybrau cul iawn ac anwastad yno," meddai Dorien Thomas, "rych chi'n gweld llawer yn troi eu pigyrnau.

"Hefyd mae pobl eisiau mynd i nofio sydd yn beryglus iawn iawn.

"Ryn ni wedi gweld ambell achos o fewn y flwyddyn ddiwetha', lle mae pobl wedi boddi yno," meddai.

Mae Mr Thomas yn pwysleisio ei bod hi'n gallu bod yn anodd tynnu pobl i ffwrdd o'r teithiau mwyaf poblogaidd.

"Dwi wedi trio gwerthu teithiau ar y Mynydd Du, ond a bod yn onest, dy'n nhw ddim yn gwerthu.

"Cyn gynted â'u bod yn gweld enw Pen y Fan - dyna ni!

"Dyna'r daith sy'n gwerthu."