'Maen nhw'n aros i ni farw' - dioddefwr sgandal gwaed

Tony Summers
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tony Summers yn dweud mai'r frwydr am gyfiawnder i'w fab "yw'r peth pwysicaf yn fy mywyd"

  • Cyhoeddwyd

Mae tad a gollodd ei fab wedi iddo gael HIV a Hepatitis C ar ôl derbyn gwaed heintiedig, yn dweud bod amser yn brin iddo fe a miloedd o bobl eraill sydd yn dal i aros am iawndal.

Cafodd mwy na 30,000 o bobl driniaethau gwaed wedi'u heintio â HIV a Hepatitis C rhwng diwedd y 1970au a dechrau'r 1990au, gan arwain at fwy na 3,000 o farwolaethau yn y DU.

Dywedodd Tony Summers, 89, ei fod wedi cael gwybod efallai na fyddai'n derbyn iawndal tan 2029 a'i fod yn ofni na fyddai'n fyw i weld canlyniad brwydr 40 mlynedd am gyfiawnder.

Dywedodd yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig (IBCA) - gafodd ei sefydlu ym mis Mai y llynedd yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus - eu bod am "barhau i gynyddu nifer y taliadau iawndal sy'n cael eu gwneud".

Fe wnaeth Llywodraeth y DU neilltuo £11.8bn i ddioddefwyr - gan gynnwys rhieni, plant, brodyr a chwiorydd. Mae'n bosib bod cymaint â 140,000 yn gymwys am iawndal.

Ond mae nifer o ddioddefwyr, elusennau a chadeirydd yr ymchwiliad cyhoeddus, Syr Brian Langstaff, wedi mynegi rhwystredigaeth gyda'r amser mae Llywodraeth y DU wedi ei gymryd i roi cynllun iawndal at ei gilydd.

Er i bron i flwyddyn fynd heibio ers yr ymchwiliad, dim ond 18 o bobl sydd wedi derbyn iawndal hyd yn hyn yn ôl IBCA, sef llai na 1% o'r rhai sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun cymorth gwaed heintiedig.

Yn ôl yr awdurdod, mae 40 o bobl wedi derbyn eu cynigion gwerth cyfanswm o £44.8m.

Paul SummersFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw mab Tony, Paul Summers, yn 2008

Cafodd mab Mr Summers, Paul, ddiagnosis o HIV yn 1984 ar ôl cael cynnyrch gwaed a ddefnyddiwyd i drin hemoffilia.

Bu farw yn 2008 yn 44 oed.

"Rwy'n teimlo mor falch o'r hyn a gyflawnodd, oherwydd roedd ganddo gymaint i'w gynnig," meddai Tony Summers.

"Hoffwn deimlo bod popeth a ddechreuon ni yn 1984, sydd wedi bod yn daith hir, na fydd hynny i gyd yn mynd yn ofer.

"Dyma'r peth pwysicaf yn fy mywyd - i gyrraedd diwedd hyn, i gael closure. Dwi eisiau i hyn fod drosodd."

'Dau ddioddefwr yn marw bob wythnos'

Mae Mr Summers yn honni ei fod wedi cael gwybod efallai na fydd yn derbyn iawndal tan 2029 - bum mlynedd ar ôl i adroddiad terfynol yr ymchwiliad gael ei gyhoeddi.

"Erbyn hynny byddaf yn 93, rydych chi'n dechrau cael amheuon," meddai.

"Mae pobl yn dal i farw o salwch. Mae rhieni'n marw. Felly mae'n teimlo bod yna bolisi 'os ydym yn aros yn ddigon hir ni fydd rhaid i ni dalu'.

"Mae dau ddioddefwr yn marw bob wythnos."

Lynne Kelly
Disgrifiad o’r llun,

Mae dioddefwyr wedi cael eu hanwybyddu ers 40 mlynedd, yn ôl Lynne Kelly

Dywedodd Lynne Kelly, cadeirydd Hemoffilia Cymru, fod pobl eisiau gweld diwedd i'r sgandal ar ôl ymgyrchu am fwy na phedwar degawd.

"Mae dau berson yr wythnos yn marw ar hyn o bryd, felly rydyn ni mewn sefyllfa anodd iawn," meddai.

"Maen nhw'n oedi ac yn oedi oherwydd bod mwy a mwy o bobl yn marw. Bydd llai a llai o bobl yn gymwys i gael iawndal a bydd llai o arian yn cael ei dalu.

"Maen nhw wedi cael eu hanwybyddu am 40 mlynedd, maen nhw wedi ymgyrchu ers 40 mlynedd. Rydyn ni'n teimlo bod hanes yn ailadrodd ei hun. Mae'n dorcalonnus."

Faint o iawndal gall dioddefwyr ei dderbyn?

Cyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves ffigwr iawndal o £11.8bn yn ystod Cyllideb yr Hydref yn 2024.

Gall person sydd wedi'i heintio â HIV ddisgwyl cael iawndal o rhwng £2.2m a £2.6m.

Gallai'r rhai sydd â haint hepatitis C cronig ddisgwyl rhwng £665,000 ac £810,000.

Fe allai partner rhywun sydd wedi'i heintio â HIV sy'n dal yn fyw heddiw ddisgwyl derbyn tua £110,000.

Mae tua 4,000 o oroeswyr neu eu teuluoedd mewn profedigaeth hefyd wedi derbyn taliadau interim gwerth hyd at £310,000 ers 2022.

Tony a Pat Summers
Disgrifiad o’r llun,

Tony a Pat Summers yn ymweld â bedd eu mab

Dywedodd yr AS Llafur, Clive Efford, Cadeirydd y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol (APPG) ar Hemoffilia, fod y sefyllfa yn "embaras i'r llywodraeth".

"Mae'n peri pryder pa mor gyflym y byddwn yn gallu delio â'r honiadau hyn yn y dyfodol. Heb os, dyma'r sgandal fwyaf yn hanes ein gwasanaeth iechyd.

"Mae angen i'r bobl hyn gael yr iawndal cyn gynted â phosib oherwydd eu bod wedi bod yn dioddef ers blynyddoedd lawer - maen nhw wedi cael eu gorfodi i herio'r wladwriaeth."

Dywedodd David Foley, Prif Weithredwr Dros Dro yr IBCA, mai ei flaenoriaeth oedd talu "cymaint o bobl cyn gynted â phosib wrth i ni ddylunio ac adeiladu gwasanaeth hawlio iawndal".

Dywedodd Mr Foley fod yr IBCA bellach wedi cysylltu â mwy na 250 o bobl ond eu bod yn "gwybod yn iawn fod llawer mwy yn aros am iawndal".

"Rydym wedi ymrwymo i wneud taliadau i fwyafrif y bobl heintiedig erbyn 2027 a mwyafrif y bobl gafodd eu heffeithio erbyn 2029 - gan wneud y taliadau hyn yn gyflymach lle bynnag y bo modd."

Mae modd gweld mwy am y stori hon ar raglen BBC Wales Investigates.

Pynciau cysylltiedig