Y nifer sy'n derbyn £40 at gostau coleg wedi haneru mewn degawd
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y myfyrwyr o deuluoedd incwm isel sy'n derbyn help ariannol gyda chostau coleg wedi haneru yn y 10 mlynedd ddiwethaf.
Mae llai yn gymwys yn bennaf oherwydd dydy'r trothwy heb newid ers 2011/12 ac mae yna alwadau i'w gynyddu i adlewyrchu chwyddiant a chyflogau uwch.
Gall myfyrwyr 16 i 18 oed, sy'n astudio mewn colegau addysg bellach neu chweched dosbarth ysgolion, hawlio £40 yr wythnos os yw incwm y teulu yn is na lefel penodol - tua £21,000.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried argymhellion adolygiad o'r lwfans.
'Mam ddim yn gallu fforddio fo'
Mae Izzy, 17, o Bwllheli yn dilyn cwrs Celf a Dylunio yng Ngholeg Menai, Bangor.
Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) yn helpu talu am ddeunyddiau yn ogystal â chostau eraill mynd i'r coleg.
"Dwi’n gorfod talu am supplies art... fel paent a canvases," meddai.
"Mae’n helpu fi gyda’r trips. Blwyddyn dwytha roedd 'na trip i fynd i Leeds am £300. Byswn i ddim yn gallu talu amdano fo heb yr EMA."
Mae gan Izzy bas bws ond os nad oes ganddi wersi ac mae hi angen gadael yn ystod y dydd mae'n costio £7 i fynd adre i Bwllheli.
"Dwi’n gorfod talu am ginio, mae'n expensive, a dwi’n gorfod talu am ddiodydd o’r vending machine ac maen nhw’n expensive hefyd.
"Dwi’n gorfod talu am hygiene products fy hun - dydy Mam ddim yn gallu fforddio fo.
"Dwi’n gw'bod am rywun sy'n gorfod talu am sgidia’i hun achos 'di teulu nhw ddim yn g'neud digon i dalu am 'sgidia," meddai.
Beth yw'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg?
Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg - neu EMA - yn daliad sy'n cael ei wneud bob pythefnos i fyfyrwyr cymwys 16-18 oed sy'n aros mewn addysg.
I gael y taliadau, rhaid i incwm blynyddol yr aelwyd fod yn £20,817 neu lai os mai’r ymgeisydd yw’r unig ddibynnydd, neu £23,077 neu lai os oes dibynyddion eraill.
Dydy'r trothwy heb newid ers 2011/12.
Yn ôl adroddiad i Lywodraeth Cymru, mae nifer y myfyrwyr sy'n derbyn y lwfans wedi mwy na haneru o 36,000 ym mlwyddyn academaidd 2010/11 i 16,000 yn 2023/24.
Yn Ebrill 2023, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynyddu'r taliadau o £30 i £40 yr wythnos.
Mae'n gallu cael ei hawlio gan fyfyrwyr sy'n astudio mewn chweched dosbarth ysgolion neu mewn colegau addysg bellach - ond roedd 76% o geisiadau gafodd eu cymeradwyo yn 2023/24 mewn colegau.
Roedd y lwfans yn wreiddiol yn un ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan ond cafodd ei ddileu yn Lloegr yn 2011. Mae dal yn bodoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae Lana-Marie, sy'n 16 ac o Lanrug, yn gorfod gwario ar ddillad ar gyfer ei chwrs celfyddydau perfformio yng Ngholeg Menai.
"Dwi’n cael clothing i ddawnsio a costumes, a jazz shoes i allu dawnsio.
"Amser cinio dwi’n mynd i vending machines i gael paced o greision neu ddŵr.
"Mae'n ceisio cynilo rhywfaint o'r lwfans hefyd.
"Dwi yn limitio fy hun hefo £10 ac mae’r rest yn mynd i fy savings i gael car neu ffôn newydd neu helpu Mam, petha' fel ’na.
"Mae’n helpu loads i fi a Mam," meddai.
Dywedodd adolygiad o'r Lwfans Cynhaliadaeth Addysg gafodd ei gyhoeddi yn gynharach eleni bod yna "gonsensws cyffredinol" ymhlith y cyfranwyr bod y trothwy incwm "bellach yn rhy isel" gan nad yw wedi cynyddu yn unol â chwyddiant a chodiadau incwm.
Yn ôl Aled Jones-Griffith, prif weithredwr Grwp Llandrillo Menai, roedd y cynnydd i'r taliadau llynedd i'w groesawu ond rhaid ystyried y trothwy.
"Er fod 'na fwy o bres i’r unigolion, mae 'na lai yn gallu cymeryd mantais ohono fo, a dwi’n meddwl fod hwnnw wir angen ei edrych arno fo," meddai.
Mae'n poeni gallai costau effeithio ar brofiadau pobl ifanc.
"Rwy’n pryderu’n fawr na fydd pobl ifanc yn gallu cael mynediad at yr ystod o brofiadau ac yr ystod o gynigion sy' 'na," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried casgliadau'r adolygiad "gan gynnwys yr argymhelliad bod y trothwy incwm aelwyd yn cynyddu ychydig".
Ychwanegodd bod y lwfans wedi cael ei amddiffyn yng Nghymru, yn wahanol i Loegr ble cafodd ei ddiddymu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2023