Cyflwyno parth dan waharddiad ar ran o arfordir Môn er mwyn 'atal difrod'

Clogwyni Ynys Cybi
  • Cyhoeddwyd

Mae parth dan waharddiad wedi cael ei gyflwyno am chwe mis ar safle gwarchodedig ar Ynys Môn.

Does dim modd i bobl fynd i'r parth newydd sydd oddeutu 1.8 milltir o arfordir Ynys Cybi tan 15 Medi eleni.

Bwriad y parth newydd yw ceisio gwarchod bywyd gwyllt ac atal difrod sy'n cael ei achosi yn bennaf gan weithgareddau antur, yn ôl swyddogion.

Mae modd i gerddwyr barhau i gerdded llwybr yr arfordir sydd yn mynd heibio'r parth newydd.

Lleoliad 'arbennig'

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi caniatáu'r parth gwahardd newydd yn dilyn cais gan yr RSPB.

Mae'n cynnwys rhan o gomin Penrhosfeilw, sydd o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Glannau Ynys Gybi, ar dir sy'n cael ei brydlesu i'r RSPB gan Gyngor Sir Ynys Môn.

Yn ôl swyddogion, roedd y cais yn ymateb i gynnydd yn y difrod gafodd ei achosi gan weithgareddau antur masnachol heb ganiatâd.

Mae'r gweithgareddau antur yn cynnwys pethau fel croesi clogwyni môr (coasteering), dringo, neidio, a nofio, yn ystod y tymor bridio adar.

Y fran goesgochFfynhonnell y llun, Sion Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y fran goesgoch

Dywed Alun Prichard, cyfarwyddwr RSPB Cymru, bod lleoliad y parth newydd "yn un o'r rhai mwyaf arbennig ym Mhrydain".

"Rydyn ni'n gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn i greu parth i wahardd pobl rhag mynd yno.

"Mae pawb dal yn gallu dod yma i fwynhau y llwybr, ond be 'da ni isio ydi creu ardal i neud yn siŵr fod y rhywogaethau sydd yma ddim yn cael eu haflonyddu."

Alun Prichard - RSPB Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Prichard o RSPB Cymru y bydd swyddogion yn monitro'r safle yn rheolaidd

Mae modd gweld rhywogaethau fel y frân goesgoch, hebog tramor a llu o blanhigion prin yn yr ardal.

Ychwanegodd Mr Prichard mai un o'r pethau pwysicaf yw "addysgu pobl" am fyd natur.

"Y mwyaf o bobl sy'n deall a pharchu byd natur y gorau fydd hi. Rydyn ni'n edrych at y genhedlaeth nesaf i edrych ar ôl ein llefydd pwysig.

"Mae cael pobl yma i fwynhau yr ardal yn bwysig er mwyn y dyfodol, ond wrth gwrs, er mwyn y dyfodol mae'n rhaid i ni ei pharchu hefyd."

Emily Sian Ashton-Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig bod plant yn cael mynediad i'r safle, meddai Emily Sian Ashton-Hughes

Mae Emily Sian Ashton-Hughes yn gweithio i gwmni antur awyr agored yn Llanrug, ac mae hi wedi siomi o glywed eu bod nhw am golli mynediad i'r safle.

"'Da ni wedi colli cyfle dros y flwyddyn ddiwethaf, a dros y gaeaf i roi pethau mewn lle - i ni gael access i'r lle heb gael yr effaith negyddol maen nhw'n deud bo' ni'n ei gael. Mae 'di dod fel sioc rili.

"Mae'n ardal sensitif... ond mae'n rili pwysig i ddod â phlant i lefydd fel 'na, fel eu bod nhw'n gallu deall. 'Da ni'n dysgu nhw sut i fihafio mewn llefydd fel hyn.

"Ond os 'da ni ddim yn cael y siawns i roi'r addysg yna i'r plant, 'da ni'm yn sicrhau pethau at y dyfodol, felly mae'n bwysig i ni allu mynd i lefydd fel 'ma a bihafio mewn ffordd sy'n parchu'r ardal.

"Mae'n bwysig i gael cyfarfod efo nhw [RSPB] mor fuan â phosib, a 'da ni'n edrych ymlaen at weithio efo nhw."

Arwydd RSPB ar Ynys Cybi
Disgrifiad o’r llun,

Mae arwyddion wedi eu gosod ar y safle yn nodi lleoliad y parth newydd

Dywedodd llefarydd ar ran yr RSPB: "Ers 2017, rydym wedi lleisio ein pryderon gyda nifer yn y sector dwristiaeth antur ynglŷn â'r defnydd anghynaladwy o ardal Penrhosfeilw ar Ynys Cybi.

"Yn anffodus, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu, ac mae'r nifer aruthrol o gyflenwyr gweithgareddau sydd yn defnyddio'r safle heb ganiatâd wedi cynyddu.

"Dros y misoedd nesaf, byddwn yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn a darparwyr gweithgareddau i ddod o hyd i ateb hirdymor."

'Cais anarferol'

Dywedodd Euros Jones, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer gogledd orllewin Cymru: "Mi ydan ni wedi derbyn cais gan yr RSPB ar gyfer cau ardal o dir ar yr arfordir.

"Mae'n gais anarferol... ond 'dan ni wedi penderfynu bod y cais yn rhesymol ac wedi cytuno.

"Bydd y parth dan waharddiad yn atal aflonyddu ar adar... sy'n bridio megis brain coesgoch a hebogiaid tramor, morloi a bywyd gwyllt prin arall gan gynnwys gloÿnnod byw gleision serennog".

Ond ychwanegodd nad ydi'r parth "yn atal y gweithgareddau hyn rhag digwydd mewn mannau eraill a byddwn yn gweithio gyda'r cyngor i amlygu lle y gellir eu cynnal heb darfu ar fywyd gwyllt a rhywogaethau sydd mewn perygl.

"Byddwn yn monitro'r hyn sy'n digwydd trwy gydol y cyfnod gwahardd ac yn adolygu'r sefyllfa ar ôl cyfnod o chwe mis."

Euros Jones CNC
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Euros Jones fod y cais i gyflwyno parth dan waharddiad gan yr RSPB yn "gais anarferol" ond yn gais "rhesymol"

Ychwanegodd Andy Godber, Rheolwr Economi Ymwelwyr ac Ardaloedd Arfordirol Cyngor Ynys Môn eu bod yn "cydnabod yr angen am gydbwyso gwarchod bywyd gwyllt â gweithgareddau hamdden awyr agored a'r heriau sydd ynghlwm wrth hynny.

"Tra bod y brydles yn caniatáu i'r RSPB wneud penderfyniadau o'r fath yn annibynnol, byddem yn annog deialog bellach gyda'r sector awyr agored, yn ystod ac ar ôl y cyfnod prawf, i weld a oes modd dod o hyd i ateb ymarferol," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig