Plant ag anghenion dysgu 'ddim yn cael eu clywed' ar newid hinsawdd

Ciaran Fitzgerald
Disgrifiad o’r llun,

"Yn gyffredinol ma lleisiau pobl ag anableddau yn cael eu hanghofio neu eu hanwybyddu," meddai Ciaran Fitzgerald

  • Cyhoeddwyd

Dyw lleisiau plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ddim yn cael eu clywed yn y drafodaeth am sut mae taclo newid hinsawdd.

Dyna mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe a Cadw Cymru'n Daclus yn ei ddweud.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi addo y byddai dysgu am yr amgylchedd yn rhan o brofiad pob plentyn, mae'r ymchwilwyr yn dweud fod plant sydd mewn ysgolion arbennig yn aml iawn yn methu cael cyfle i gael y profiad o ddysgu am yr amgylchedd.

Mae'r ymchwilwyr yn dweud mai dyma'r gwaith cyntaf o'i fath yn y byd, ac mae'n sôn fod nifer o heriau wedi dod i'r amlwg gan gynnwys "prinder adnoddau, dim digon o hyfforddiant i staff a hefyd athrawon yn teimlo eu bod wedi eu hynysu a heb y gefnogaeth sydd angen".

Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadw Cymru'n Daclus
Disgrifiad o’r llun,

"Mae mor bwysig fod pob un plentyn a phob un disgybl yng Nghymru â'r wybodaeth ma' nhw angen," meddai Owen Derbyshire

Owen Derbyshire yw Prif Weithredwr Cadw Cymru'n Daclus, sy'n rhedeg rhaglen eco ysgolion yng Nghymru - un o'r rhaglenni addysg amgylcheddol fwyaf yn y byd.

Dywedodd: "Mae mor bwysig fod pob un plentyn a phob un disgybl yng Nghymru â'r wybodaeth ma' nhw angen i daclo'r heriau sydd o'n blaenau ni achos eu dyfodol nhw yw e, ac ma' ganddyn nhw fel pawb arall rôl i chware yn taclo'r heriau hynny."

Mae'r adroddiad yn rhybuddio y gallai dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol gael eu gadael allan o'r drafodaeth ynglŷn â datrys newid hinsawdd.

'Pwysig fod pawb yn cael llais'

Dywed Dr Dai Thomas o Brifysgol Abertawe: "Os ydyn ni am gael cymdeithas gyfartal a theg mae'n bwysig fod pob un yn cael eu dysgu ac yn cael llais am be' sy'n digwydd i'r byd."

Er bod y darlun yn gyffredinol yn un sy'n peri pryder, mae'r ymchwil yn sôn hefyd am arfer da mewn rhai llefydd.

Yn ysgol arbennig Hendrefelin, Castell-nedd mae newid hinsawdd yn bwnc sy'n uchel ar agenda addysg yr ysgol.

Lisa Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lisa Jones bod amser yn cael ei neilltuo bob dydd i drafod newid hinsawdd gyda'r plant yn ysgol arbennig Hendrefelin

Dywedodd Lisa Jones, athrawes sy'n helpu plant ag awtistiaeth: "Mae plant yn yr uned yn becso am bopeth ac ma' nhw yn clywed shwd gymaint o wybodaeth am newid hinsawdd ar y radio, teledu, YouTube ac ati ac ma nhw ishe trafod hyn ac ma' nhw yn poeni amdano fe.

"Ry' ni yn neilltuo amser bob dydd i drafod hyn gyda'r plant a chlywed ei perspective nhw, sydd yn aml iawn yn wahanol i sut i ni yn gweld pethe."

Dexter
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dexter yn dweud ei fod yn mwynhau dysgu am newid hinsawdd a'r amgylchedd

Un o ddisgyblion yr ysgol yw Dexter, sy'n 14 oed.

Mae'n dweud ei fod yn mwynhau dysgu am newid hinsawdd a'r amgylchedd ac yn dweud bod angen llai o sbwriel a mwy o ailgylchu.

Dywedodd bod angen i bawb chwarae eu rhan er mwyn sicrhau na fydd y "byd yn bennu lan yn erchyll".

'Lleisiau pobl ag anableddau yn cael eu hanghofio'

Mae Ciaran Fitzgerald o Bort Talbot yn ddramodydd ac yn ymgyrchydd dros hawliau pobl ag anableddau.

Dywedodd: "Yn gyffredinol ma' lleisiau pobl ag anableddau yn cael eu hanghofio neu eu hanwybyddu.

"O ran newid hinsawdd ma' pobl ag anableddau weithiau yn defnyddio mwy o ynni na rhai sy' ddim yn anabl, er enghraifft defnyddio gwres canolog yn fwy, cael bath yn amlach, weithiau mae'r anghenion hynny yn cael eu hanghofio."

Ar lefel bersonol mae'n dweud fod ei gyflwr yn golygu bod ganddo lawer o egni, a phan bod y tywydd yn boeth iawn, mae'n anodd iddo weithio a chanolbwyntio a chymdeithasu.

"Mae newid hinsawdd yn cael effaith ar bobl ag anableddau fel fi ond efallai ddim yr un ffordd â phobl sy' heb anabledd," meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i sicrhau fod pob dysgwr, beth bynnag yw ei anghenion unigol, yn cael mynediad i addysg sydd yn gynhwysol, ystyrlon ac yn eu hysbrydoli".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.