Protest yn erbyn cau canolfannau dydd yn Sir Benfro

protest
Disgrifiad o’r llun,

Daeth dros ugain o brotestwyr ynghyd tu allan i adeilad Cyngor Sir Penfro

  • Cyhoeddwyd

Ers iddi adael ysgol mae Melanie Llewelyn, 51, sydd wedi'i geni gydag anghenion arbennig, wedi bod yn mynychu canolfannau dydd i dderbyn gofal.

Ond ddydd Iau roedd Cyngor Sir Penfro yn trafod cau tair canolfan ddydd yng ngogledd y sir er mwyn gwneud arbedion.

Yn ystod y cyfarfod daeth degau o bobl ynghyd y tu allan i adeilad y cyngor i brotestio yn erbyn cau’r canolfannau y maen nhw’n eu disgrifio fel “ail gartref.”

Dywed Cyngor Sir Penfro bod angen gwneud arbedion yn sgil sefyllfa ariannol "enbyd".

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl ei mam, Ann Llewelyn, mae'r posibilrwydd o gau Canolfan Ddydd Bro Preseli yn achosi pryder i’w merch Melanie

Yn ystod ei hoes mae Melanie wedi mynychu saith canolfan ddydd gwahanol ar draws Sir Benfro.

Yn ôl ei mam, Ann Llewelyn, 73, mae newidiadau yn achosi pryder i’w merch.

“Mae Melanie weid bod yn gofidio ambythdi hwn. Mae o hyd yn gofyn lle bydd hi’n gweld ei ffrindiau. A fi ffili gweud dim byd wrthi.”

Mae Cyngor Sir Penfro yn bwriadu cau Canolfan Bro Preseli, yr Anchorage a Chanolfan Ddydd Lee Davies - mae pob un o'r canolfannau yng ngogledd y sir.

Byddai cludo Melanie i’r ganolfan ddydd agosaf nesaf yn Hwlffordd yn golygu y byddai Ann yn teithio dros 30 milltir bob dydd.

“Sai'n gweld siwd gallwn ni fynd â hi i Hwlffordd bob dydd. Mae’n edrych yn debyg bydd hi’n colli’r gofal dyddiol a byddwn ni’n gorfod cadw hi gytre.

“Dyw hynny ddim yn fair arni. Mae isie cwmni arni hi.”

Ychwanegodd Ann Llewelyn byddai cau’r ganolfan yn “drychinebus”.

“Ni’n ofnadwy o agos. Bob tro mae 'na benb-lwydd ma 'na gacs, ma' nhw’n dathlu rhywbeth bob wythnos!

“Ni fel rhieni yn cwrdd a’n rhoi’r byd yn ei le.”

'Nid dyma sut mae trin pobl'

Ddydd Iau roedd y galeri cyhoeddus yn llawn wrth i deuluoedd wrando ar Gyngor Sir Penfro yn trafod y penderfyniad.

Roedd dros ugain o pobl tu allan adeilad y cyngor yn Hwlffordd yn protestio.

Yn ôl Peter Welsh, 73, mae ei ferch Abbie sy’n 32 oed yn ddibynnol ar ganolfan Yr Anchorage yn Noc Penfro.

Wrth siarad yn y cyfarfod yn Hwlffordd dywedodd fod targedu'r rhai sydd ag anableddau yn “anfaddeuol”.

Disgrifiodd canolfan yr Anchorage fel "ail gartref" ei ferch.

Dywedodd wrth y siambr “Dychmygwch os mai eich mab, merch, brawd neu chwaer chi fyddai rhain.”

Ychwanegodd does dim ymghynghori wedi bod gyda theuluoedd am gau’r canolfannau.

Ychwanegodd: “'Na gyd ni wedi derbyn yw llythyr. Mae’n anghywir, nid dyma sut mae trin pobl.”

Fe dderbyniodd gymeradwyaeth o’r siambr ac o’r galeri wedi iddo siarad.

Ffynhonnell y llun, BBC News
Disgrifiad o’r llun,

Mae’r cyfle i rieni gael gorffwys yn “hanfodol” yn ôl Georgina Knowles

Yn gynharach eleni fe ddywedodd Cyngor Sir Penfro eu bod yn wynebu heriau ariannol wrth iddyn nhw ostwng treth y cyngor i 12.5%.

Dywed Georgina Knowles o Dredeml fod Cyngor Sir Penfro yn blaenoriaethu’r pethau anghywir.

Mae merch Georgina, Saphire, yn 28 ac yn mynychu Canolfan Ddydd Bro Preseli dair gwaith yr wythnos.

“Ni’n gwybod beth yw blaenoriaethu’n harian fel mae’r cyngor yn gwneud.”

Ychwanegodd: “Beth fydden i’n dweud yw peidiwch a bwrw lawr meysydd parcio sy’n costio 90 miliwn o bunnoedd a pheidiwch adeiladu pontydd sy’n costio 6 miliwn o bunnoedd.”

Yn ôl Georgina mae’r cyfle i rieni orffwys yn “hanfodol”.

“Os ti’n edrych ar ôl rhywun 24 awr o’r dydd mae’n werthfawr iawn.”

Ychwanegodd: “Dyw'r ferch ddim eisiau eistedd adref gyda’i mam a’i thad, mae’n caru’r lle.”

'Sefyllfa ariannol enbyd'

Doedd yr aelod o’r cabinet dros ofal cymdeithasol, Tessa Hodgson, ddim am wneud cyfweliad.

Yn y cyfarfod fe ddisgrifiodd hi “sefyllfa ariannol enbyd’ Cyngor Sir Penfro.

Ychwanegodd Ms Hodgson: “Dyma’r cyfnod anoddaf i mi yn fy saith mlynedd fel aelod cabinet."

Fe ddywedodd bod penderfyniad y cyngor i ostwng treth y cyngor o 16% i 12.5% yn gynharach eleni yn golygu bod rhaid gwneud arbedion.

Clywodd cabinet y cyngor yr wythnos diwethaf fod yr awdurdod yn wynebu bwlch ariannol o £32.3m ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol (2024-5).