Sioe Môn eisiau barn y bobl ar ddatblygu i'r dyfodol

Elliw Haf Griffith ydy llysgennad Cymdeithas Amaethyddol Môn eleni
- Cyhoeddwyd
Mae'n bwysig cael barn y bobl ynglŷn â datblygu Sioe Môn ar gyfer y dyfodol, yn ôl llysgennad Cymdeithas Amaethyddol Môn.
Elliw Haf Griffith sydd wedi ei dewis yn llysgennad y gymdeithas eleni.
Yn siarad gyda rhaglen Post Prynhawn ddydd Llun, dywedodd ei bod yn "bwysig cael adborth er mwyn datblygu ac adeiladu ar y llwyddiant".
"Ar ddiwedd y dydd mae'r gymdeithas a'r sioe yn perthyn i'r bobl a'r gymuned, felly mae'n bwysig er mwyn datblygu a symud ymlaen ein bod ni'n cael barn a llais y bobl sy'n dod i fwynhau'r sioe ac i ddefnyddio'r maes.
Mae'r gymdeithas yn annog y cyhoedd i gysylltu â nhw hefo syniadau ar gyfer sicrhau dyfodol llewyrchus i'r sioe - neu'r Primin fel mae'n cael ei alw yn lleol - a sut y gellid datblygu'r safle hefyd.
Ymhen 12 mis mi fydd y safle yn gartref i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Safle Sioe Môn fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd y flwyddyn nesaf
Mae Elliw - sy'n gweithio fel saer maen ac i fusnes trefnwyr angladdau ei theulu - yn dweud bod y sioe yn agos at ei chalon am sawl rheswm.
"Dwi wedi bod yn ffodus iawn i weld y sioe o sawl wahanol agwedd," meddai.
"Dwi wedi cystadlu yn y prif gylch hefo ceffylau gwedd, dwi wedi bod ar stondin mudiad y ffermwyr ifanc yn gwirfoddoli pan oeddwn i'n aelod, a rŵan dwi'n gweld yr holl waith caled sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni.
"Dwi isio gweld parhad y gymdeithas a'r sioe a gweld dyfodol llewyrchus ar gyfer y genhedlaeth nesa'."
Yn ei swydd fel llysgennad mae Elliw wedi bod yn ymweld â sioeau eraill er mwyn denu mwy o gystadleuwyr, arddangoswyr a chefnogaeth i Sioe Môn ym mis Awst - gan adeiladu ar waith llysgenhadon y gorffennol.
"Mae'r hyn 'da chi yn ei 'neud fel llysgennad - y mwyaf 'da chi yn ei 'neud, y mwyaf 'da chi yn gael allan ohono fo," ychwanegodd.
Bydd y cyfweliad llawn ar Post Prynhawn, BBC Radio Cymru, rhwng 17:00 a 17:30 ddydd Llun.