Maes awyr Caerdydd ar gau am gyfnod

Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Maes Awyr Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd yr adeilad ei wagio am gyfnod ond ei ailagor toc wedi 11 y bore

  • Cyhoeddwyd

Bu maes awyr Caerdydd ar gau am gyfnod fore Iau yn sgil pryderon am nwy yn gollwng.

Fe gafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i gynorthwyo gydag uned aerdymheru yn ffrwydro.

Mae’n debyg bod teithwyr wedi cael cais i adael rhan o’r brif adeilad tra bod y pryderon am nwy yn cael eu hymchwilio.

Yn ôl y gwasanaeth tân, roedd pwysedd uchel wedi cronni mewn pibell aerdymheru ac wedi rhyddhau nwy oergell.

Cafodd y maes awyr ei wagio a'i ailagor yn fuan ar ôl 11 y bore.

Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans wedi dweud eu bod wedi cael eu galw hefyd a bu'n rhaid mynd ag un person i'r ysbyty.

Mewn datganiad, nododd y maes awyr, bod digwyddiad wedi bod yn “gysylltiedig â nwy yn y system aerdymheru yn ardal y gwaith adeiladu yn y derfynfa.

“Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth, felly gwagiwyd yr ardal tra bod ein tîm yn cynnal gwiriadau diogelwch.”

Ychwanegodd y llefarydd: “Fe wnaethon ni brofi mân oedi i hediadau, ond mae'r derfynfa bellach yn ôl ar agor.”

Mae nhw’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Pynciau cysylltiedig