Nifer teithwyr Maes Awyr Caerdydd wedi haneru

  • Cyhoeddwyd
maes awyrFfynhonnell y llun, Maes Awyr Caerdydd

Mae nifer y teithwyr sy'n defnyddio Maes Awyr Caerdydd wedi gostwng yn sylweddol ers y pandemig, ôl data trafnidiaeth awyr.

Er bod nifer y teithwyr wedi codi i 857,397 y llynedd maen nhw 48% yn is na niferoedd 2019.

Ar gyfartaledd roedd nifer defnyddwyr y maes awyr yn 1.3m yn ystod y 10 mlynedd cyn Covid.

Fe brynodd Llywodraeth Cymru Faes Awyr Caerdydd ym mis Mawrth 2013 i "sicrhau ei ddyfodol" wedi cwymp yn nifer y teithwyr.

Mae sawl cwmni hedfan wedi rhoi'r gorau i hedfan oddi yno, gyda WizzAir yn cyhoeddi yn gynharach eleni eu bod yn stopio eu gwasanaeth o Gaerdydd.

Yn y blynyddoedd ar ôl i Lywodraeth Cymru gymryd drosodd, cynyddodd nifer y teithwyr i 1.7 miliwn ond roedd yna gwymp sylweddol wedi hynny yn sgil Covid.

Disgrifiad o’r llun,

Ken Skates: “Petai Covid ddim wedi digwydd byddem wed sicrhau dwy filiwn o deithwyr y flwyddyn”

Ken Skates oedd gweinidog economi Llywodraeth Cymru rhwng 2016-2021.

"Dwi'n sicr petai Covid ddim wedi digwydd byddem wedi pasio dwy filiwn o deithwyr y flwyddyn erbyn hyn ac y byddem yn cystadlu gyda meysydd awyr eraill," meddai wrth raglen Politics Wales y BBC.

Llai yn defnyddio meysydd awyr yn Ewrop

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fis diwethaf: "Ers y pandemig, mae'r galw am deithiau awyr ar draws y byd wedi gostwng.

"Er y dirywiad yn economi'r DU, rydym wedi ymrwymo i gynnal maes awyr yng Nghymru.

"Rydym wedi rhoi pecyn adfer ar waith sydd wedi'i gynllunio i wneud Maes Awyr Caerdydd yn hunan-gynhaliol a phroffidiol ar gyfer y dyfodol."

Ond nid Maes Awyr Caerdydd yw'r unig un sydd wedi gweld gostyngiad mewn teithwyr.

Ers 2019, mae sawl maes awyr wedi dilyn yr un patrwm - Amsterdam (-61% o gwymp mewn teithwyr), Dulyn (-37%) a Paris (-70%).

Dywedodd Spencer Birns, Prif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd wrth raglen BBC Politics Wales, fod y maes awyr am sicrhau "cynaladwyedd" yn dilyn gostyngiad mawr yn nifer y teithwyr wedi'r pandemig.

"Cyn Covid roedden ni'n sicrhau gwerth economaidd sylweddol - £240m," meddai.

"Mae'r galw am deithio yno, mae ein hediadau allan o Gaerdydd yn llawn - prin iawn yw'r awyrennau na sy'n llawn."

Pynciau cysylltiedig