Car wedi gyrru drwy brif fynedfa Ysbyty Maelor Wrecsam

- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n ymchwilio ar ôl i gar gael ei yrru i mewn i ddrysau Ysbyty Maelor Wrecsam.
Mae un person yn cael triniaeth am fân anafiadau.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yn Wrecsam am tua 14:00 ddydd Mercher.
Mae prif fynedfa'r ysbyty wedi cau am y tro, ac mae cais i'r cyhoedd gadw draw wrth i'r gwasanaethau brys ddelio â'r digwyddiad.
Dywedodd Adele Gittoes, y Cyfarwyddwr Gweithredol dros dro: “Ni chafodd unrhyw aelod arall o staff neu glaf eu hanafu ac mae'n gwasanaethau yn weithredol fel arfer.
"Hoffwn ddiolch i gydweithwyr a'r gwasanaethau brys am ymateb mor sydyn i'r digwyddiad ac am sicrhau bod ardal y fynedfa yn ddiogel i gleifion ac ymwelwyr."