Menyw wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng car a bws yng Ngheredigion

A487Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A487 rhwng pentrefi Plwmp a Phost-mawr ddydd Gwener

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a bws yng Ngheredigion.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r digwyddiad ar yr A487 rhwng pentrefi Plwmp a Phost-mawr tua 10:30 ddydd Gwener.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng car Ford Fiesta arian, a bws Volvo un llawr.

Cafodd y fenyw oedd yn gyrru'r car ei hedfan i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr, ond bu farw'n ddiweddarach ddydd Gwener.

Fe gafodd dyn oedd yn teithio yn y car hefyd anafiadau difrifol, ac mae'n parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog.

Cafodd y dyn oedd yn gyrru'r bws fân anafiadau, ond doedd dim angen triniaeth ysbyty arno.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â lluniau dashcam i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig