AS Llafur 'ddim yn gwybod' os fydd Gething yn gallu parhau

Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Vaughan Gething pleidlais o hyder yn y Senedd ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae aelod Llafur o Senedd Cymru wedi dweud nad yw hi’n gwybod a fydd Vaughan Gething yn gallu parhau fel prif weinidog ar ôl colli pleidlais o hyder ynddo.

Dywedodd Jenny Rathbone, AS dros Ganol Caerdydd, ei bod hi’n "sefyllfa ansicr iawn a bydd rhaid i ni ddisgwyl a gweld".

Yn siarad ar raglen BBC Radio Wales Drive, dywedodd Ms Rathbone bod enw da'r Senedd mewn perygl a bod derbyn rhodd gan unigolion sydd wedi cael eu canfod yn euog o droseddau amgylcheddol “yn broblem”.

Ychwanegodd Ms Rathbone bod y mater wedi cael ei godi wrth ymgyrchu ar gyfer yr etholiad cyffredinol.

Daw wrth i BBC Cymru gael gwybod bod y grŵp Llafur yn y Senedd yn cynnal cyfarfod ddydd Gwener yn sgil anfodlonrwydd ymysg aelodau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jenny Rathbone bod y sefyllfa yn "ansicr iawn"

Fe gollodd Mr Gething bleidlais o hyder ddydd Mercher yn sgil absenoldeb dau aelod Llafur yn y Senedd, Hannah Blythyn a Lee Waters, oherwydd salwch.

Dywedodd Ms Rathbone ei bod hi “ddim yn gwybod” os fydd Mr Gething yn gallu symud ymlaen o’r golled: “Mae’n anghyfforddus achos ‘da ni i gyd wedi cael ein llusgo mewn iddo."

Ar ôl cael ei holi a oes gan Mr Gething hyder y Senedd, ychwanegodd Ms Rathbone: “Wel, mae e wedi colli’r bleidlais. Mae hynny ar gofnod yn gyhoeddus.

"Dwi’n meddwl y byddai'n rhaid i chi gyfeirio eich sylwadau ato fe.”

Daeth y bleidlais ar ôl wythnosau o ffraeo, wedi i Mr Gething dderbyn rhodd o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch arweinyddol gan gwmni a oedd yn cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog ddwywaith o droseddau amgylcheddol.

Daeth i'r amlwg ddydd Llun bod y dyn tu ôl i'r rhoddion, David Neal, dan ymchwiliad troseddol pan wnaed y cyfraniad i ymgyrch Mr Gething.

Mae hefyd wedi ei ganfod bod Mr Gething wedi ceisio rhwystro rhyddhau manylion am ei lobio dros un o gwmnïau Mr Neal.

Mae Mr Gething yn gwadu gwneud unrhyw beth o'i le, gan ddweud ei fod wedi "dilyn pob rheol".

Cyfarfod grŵp Llafur

Ddydd Iau dywedodd cadeirydd y grŵp Llafur yn y Senedd ei bod hi'n hyderus y byddai'r aelodau a fethodd y bleidlais wedi ei gefnogi petai modd.

Disgrifiodd AS arall y bleidlais fel "stynt wleidyddol ddi-chwaeth".

Mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod y grŵp Llafur yn y Senedd yn cynnal cyfarfod ddydd Gwener.

Nid yw'n glir pam bod y cyfarfod wedi ei alw, ond mae rhywfaint o anfodlonrwydd o fewn y grŵp yn dilyn canlyniad y bleidlais ddydd Mercher.

Mae'r grŵp fel arfer yn cyfarfod ar ddydd Mawrth, a'r tro diwethaf iddyn nhw gyfarfod ar ddydd Gwener oedd yn sgil diwedd y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Ar y panel roedd Sioned Williams (chw), Aled Davies, Jane Dodds ac Owain Williams

Yn siarad ar raglen Hawl i Holi Radio Cymru nos Iau, dywedodd Owain Williams ar ran y Blaid Lafur nad yw'n meddwl bydd y bleidlais yn effeithio ar berfformiad Llafur yn yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd Mr Williams: “Dwi yn credu bod pobl yn eithaf soffistigedig, yn deall fod dewis yn nhermau pwy sydd yn rhif 10 Downing Street, a bod dydd y farn i Lywodraeth Cymru yn dod yn ddigon buan yn 2026.

“Dwi’n credu bydd pobl yn gwahaniaethu rhwng hwnna.”

Mae Mr Williams yn credu bod gan Mr Gething "bob cyfle" i arwain Llafur yn etholiadau Senedd Cymru yn 2026.

“Yn amlwg os mae o am ‘neud hynna, bydd rhaid i rywbeth newid o ble ydy o heddi.

“Mae rhaid i fe ‘neud rhywbeth, mae rhaid i ni fel plaid wneud rhywbeth i ddangos bod ni’n clywed y feirniadaeth a bod ni’n gwrando.”

Pynciau cysylltiedig