Y Prif Weinidog Vaughan Gething yn colli pleidlais o ddiffyg hyder
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething wedi colli pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth.
Y Ceidwadwyr wnaeth y cynnig yn dilyn wythnosau o feirniadaeth, yn cynnwys gan rai o fewn Llafur, o roddion dadleuol i ymgyrch arweinyddol Mr Gething.
Gan fod yr un nifer o aelodau Llafur ag aelodau'r gwrthbleidiau yn y Senedd, roedd Mr Gething angen cefnogaeth pob aelod o'i blaid.
Ond fe ddaeth i'r amlwg bod dau aelod Llafur yn sâl ac felly ddim yn gallu pleidleisio.
Fe wnaeth 29 o aelodau bleidleisio o blaid y cynnig, tra bod 27 wedi pleidleisio yn erbyn.
Dyw'r canlyniad ddim yn golygu bod yn rhaid iddo ildio'r awenau, ond mae'r gwrthbleidiau wedi galw arno i ymddiswyddo.
Y ddau AS wnaeth fethu'r bleidlais oedd Hannah Blythyn, gafodd ei diswyddo o Lywodraeth Cymru gan Vaughan Gething am ryddhau gwybodaeth, rhywbeth y mae hi'n ei wadu, a Lee Waters, y cyn-weinidog trafnidiaeth.
Doedd yr un o'r ddau yn siambr y Senedd ddydd Mawrth chwaith, a doedd gan yr un o'r ddau bleidlais procsi - sy'n cael ei ganiatáu pan fydd absenoldeb hir dymor.
Wedi'r canlyniad - a ddaeth am tua 17:30 ddydd Mercher - dywedodd Mr Gething fod canlyniad y bleidlais yn "siomedig" ond nad oedd yn bwriadu ymddiswyddo.
Mynnodd ei fod am "barhau a'i waith" gan ychwanegu fod misoedd ar fisoedd o gwestiynu ei onestrwydd wedi achosi poen meddwl iddo.
Fe ategodd Mr Gething sylwadau cadeirydd y grŵp ASau Llafur, Vikki Howells hefyd, wedi iddi alw'r bleidlais yn "gimic".
Mewn datblygiad dramatig yn y Senedd, mae Prif Weinidog Cymru Vaughan Gething wedi colli pleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth.
Does dim gorfodaeth arno i ildio'r awenau, a does dim awgrym y bydd yn gwneud hynny o'i wirfodd ei hun chwaith, ond does dim dwywaith bod y pwysau arno yn fwy nag erioed.
Roedd yna ddigon o gefnogaeth a chymeradwyaeth iddo yn y galeri cyhoeddus heddiw, ac fe bleidleisiodd y mwyafrif o aelodau Llafur o'i blaid.
Ond gyda dau aelod Llafur yn absennol am eu bod yn sâl doedd gan Vaughan Gething ddim digon o gefnogaeth i drechu’r bleidlais.
Roedd y ddadl ddaeth cyn y bleidlais yn un o'r rhai mwyaf syfrdanol i mi ei wylio yn y Senedd.
Er i rai aelodau Llafur ddisgrifio’r bleidlais o hyder fel "gimic", roedd yr awyrgylch yn hynod o sobr ac yn anghyfforddus i'w wylio ar adegau.
Roedd yna ddicter amlwg gan rai aelodau Llafur wrth i'r gwrthbleidiau ymosod ar grebwyll y Prif Weinidog.
A chryn dipyn o emosiwn hefyd gyda Vaughan Gething yn ei ddagrau wrth i gyd aelodau Llafur amddiffyn ei waith.
Y cwestiwn mawr rŵan yw beth nesaf i'r prif weinidog, sydd wedi bod dan y lach fyth ers iddo gael ei benodi yn arweinydd rai misoedd yn ôl?
Yn y lle cyntaf fe fydd o'n rhuthro i Ffrainc, er mwyn gallu ymuno a digwyddiad coffa D-Day fore dydd Iau.
Ond mae'r pwysau arno yn fwy nag erioed. Ac efallai mai'r cwestiwn pwysicaf oll yn hyn yw beth yw barn yr arweinydd Llafur Syr Keir Starmer ynglŷn â hyn ag yntau yn gwneud popeth o fewn ei allu i gipio grym yn San Steffan.
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2024
Cyn y bleidlais, fe soniodd Ms Howells am y broses o baru aelodau gyda'r pleidiau eraill - cytundeb gwirfoddol sy'n golygu na fydd aelod o wrthblaid yn pleidleisio os oes aelod o'r brif blaid yn methu â bod yn bresennol.
Roedd y Ceidwadwyr wedi gwrthod cytundeb o'r fath ddydd Mercher.
Dywedodd Ms Howells, AS Cwm Cynon: "Hoffwn ddweud ein bod ni fel grŵp Llafur wedi paru yn gyson gyda'r pleidiau eraill pob tro maent wedi gofyn.
"Dyma'r traddodiad hiraf mewn gwleidyddiaeth ac mae'r ffaith eu bod nhw [y gwrthbleidiau] yn gwrthod gwneud hyn heddiw yn dangos faint o gimic ydy'r bleidlais a'r bwriad yw tanseilio ein democratiaeth."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd nad oedd "yn bersonol wedi cael cais ynghylch paru", ond bod trafodaethau rhwng rheolwyr ar y mater.
Ychwanegodd Andrew RT Davies na fyddai ei blaid yn paru gan nad oedd hynny'n addas ar bleidlais diffyg hyder.
Wrth ymateb i ganlyniad y bleidlais, dywedodd Mr RT Davies: "Mae Vaughan Gething wedi colli hyder pobl Cymru.
"Mae wedi colli hyder y Senedd. Yr unig berson sy'n dal i fatio dros Vaughan Gething yw Keir Starmer."
Galw am ymddiswyddiad
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi galw ar Vaughan Gething i ymddiswyddo.
"Mae'r Senedd wedi siarad ar ran pobl Cymru – does gennym ni ddim hyder yn y prif weinidog Llafur," meddai.
"Heb i bob aelod Llafur ei gefnogi yn y bleidlais heno, rhaid i Vaughan Gething wneud y peth anrhydeddus ac ymddiswyddo i sicrhau na fydd ansefydlogrwydd pellach wrth galon Llywodraeth Lafur Cymru.
"Mae ei lywodraeth yn amlwg mewn anhrefn ac felly ni all wynebu'r heriau sylweddol sydd i ddod i Gymru.
"Drwy anrhydeddu canlyniad y bleidlais, gall Llywodraeth Cymru a'n Senedd symud ymlaen o'r bennod anffodus hon."
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hefyd wedi galw am ymddiswyddiad y Prif Weinidog.
Dywedodd eu harweinydd Jane Dodds: "Mae’r Senedd wedi siarad, a nawr rhaid i Vaughan Gething fynd.
"Byddai unrhyw ymgais i ddal gafael ar rym yn mynd yn groes i normau ein democratiaeth seneddol.
"Heb fandad y Senedd, does gan y Prif Weinidog ddim hawl i aros yn ei swydd."
Pam bod Vaughan Gething wedi wynebu pleidlais o ddiffyg hyder?
Enillodd Vaughan Gething arweinyddiaeth Llafur Cymru ym mis Mawrth ond roedd yna gysgod dros ei ymgyrch yn sgil rhodd o £200,000 gan gwmni Dauson Environmental Group.
Perchennog y cwmni yw David John Neal, sydd wedi ei gael yn euog ddwy waith o droseddau amgylcheddol.
Daeth i'r amlwg bod Mr Gething wedi lobïo ar ran un o gwmnïau Mr Neal, cyn ymgeisio am amrweinyddiaeth y blaid y tro cyntaf yn 2018.
Cadw'n dawel i raddau helaeth wnaeth ASau Llafur yn ystod yr ymgyrch, ond mae'n ymddangos bod dicter preifat yn codi i'r wyneb erbyn hyn.
Fe alwodd un cyn-aelod o'r cabinet, Lee Waters, am ddychwelyd y rhodd i'r cwmni, ac mae'r Blaid Lafur wedi penderfynu rhoi'r arian dros ben at "achosion blaengar ehangach" yn hytrach na'i choffrau ei hun.
Mae Mr Gething yn mynnu o'r cychwyn ei fod wedi dilyn y rheolau priodol wrth dderbyn yr arian.
Mae'r prif weinidog hefyd wedi gorfod amddiffyn neges a yrrodd yn ystod y pandemig, tra'n weinidog iechyd, yn dweud wrth gydweithwyr ei fod yn dileu negeseuon testun o grŵp tecstio.
Aeth ati i ddiswyddo Hannah Blythyn, gan honni taw hi oedd wedi rhannu'r wybodaeth yna gyda gwefan Nation.Cymru. Mae hi'n gwadu hynny, a dydy hi heb siarad yn y Senedd ers hynny.
Mae'r gwrthbleidiau wedi mynnu tystiolaeth, ond mae Mr Gething wedi gwrthod gwneud hynny.