Galw'r fyddin i ysgol ar ôl canfod 'cemegion allai achosi niwed'

Bu'n rhaid i staff a disgyblion Ysgol Uwchradd Dinbych adael y safle brynhawn Mawrth
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd ysgol uwchradd yn y gogledd ei gwagio a'r fyddin eu galw ar ôl i "gemegion allai fod yn niweidiol" gael eu darganfod ar y safle.
Dywedodd Ysgol Uwchradd Dinbych fod staff a disgyblion wedi cael gorchymyn i adael y safle ar ôl iddyn nhw ddod o hyd i "gemegion hanesyddol" mewn cwpwrdd.
Yn ôl Heddlu'r Gogledd, cafodd tîm arbenigol o'r fyddin eu galw i'r digwyddiad ac maen nhw bellach wedi cael gwared â'r eitemau ac wedi cynnal ffrwydrad dan reolaeth.
Ychwanegodd y llu mewn datganiad nad oes unrhyw bryderon diogelwch pellach, a bod swyddogion wedi gadael y safle.
Mae disgwyl i'r ysgol fod ar agor ddydd Mercher.