Cân Gymraeg yn cyrraedd brig siart reggae iTunes

Disgrifiad,

Aleighcia Scott

  • Cyhoeddwyd

Mae cân Gymraeg wedi cyrraedd brig siartiau reggae iTunes am y tro cyntaf erioed.

Mae Dod o'r Galon yn gân gan y gantores adnabyddus, a'n fwyaf diweddar yn un o feirniaid cystadleuaeth Y Llais, Aleighcia Scott.

Dywedodd Aleighcia ei bod hi'n "anhygoel" gallu rhoi'r Gymraeg ar "y llwyfan rhyngwladol".

Dywedodd hefyd ei bod wedi "gwireddu breuddwyd yn cymysgu cerddoriaeth Jamaica gydag iaith ac enaid Cymru".

'Methu credu'

Gyda chanu a cerddoriaeth wedi bod yn rhan annatod o'i bywyd erioed, dywedodd ei bod yn "fraint" i allu cyrraedd brig y siartiau.

Aeth ymlaen i ddweud "nad oedd yn medru credu" ei bod wedi gwneud "hanes cerddorol gyda fy ngwreiddiau reggae a fy angerdd tuag at fy mamiaith".

Fe gyrhaeddodd albwm Aleighcia, Windrush Baby, frig siartiau Itunes Rggae yn 2023.

"Mae'n wyllt i feddwl fod y gân yn cael ei chwarae o amgylch y byd, yn yr Eidal, America, Japan a'r Almaen".

Aleighcia yn cyflwyno yn y stiwdioFfynhonnell y llun, Mefus photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aleighcia yn cyflwyno rhaglen wythnosol ar BBC Radio Wales

Ag hithau â gwreiddiau diwylliannol o Jamaica a Chymru, dywedodd ei bod "mor bwysig" iddi gynrychioli'r ddau ddiwylliant.

"Fe wnes i ddod â cherddorion o'r ddau fyd ynghyd i wneud y trac hwn yn un hynod arbennig.

"Dwi wedi gwireddu breuddwyd yn cymysgu cerddoriaeth Jamaica gydag iaith ac enaid Cymru."

Gyda'i hangerdd at y Gymraeg yn amlwg, fe gychwynnodd Scott ar ei thaith o ddysgu'r iaith wedi iddi ymddangos ar raglen Iaith ar Daith ar S4C yn 2023.

Erbyn hyn mae nifer o Gymry yn adnabod Aleighcia fel un o feirniaid cyfres newydd S4C, Y Llais.

Aleighcia yn saith oed yn canu Ffynhonnell y llun, Aleighcia Scott
Disgrifiad o’r llun,

Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan annatod o fywyd Aleighcia erioed

Dywedodd fod canu wedi bod yn rhan o'i bywyd erioed: "Ro'n i wastad yn cyfansoddi, ac yn canu o amgylch y tŷ.

"Roedd fy rhieni yn caru cerddoriaeth, er doedd y naill na'r llall yn gallu canu, ond roedd cerddoriaeth o'm hamgylch o hyd."

Dywedodd iddi ddilyn y llwybr traddodiadol o fynychu ysgol, coleg a phrifysgol, ond mai'r cyfan yr oedd eisiau gwneud oedd cerddoriaeth.

"Ro'n i'n mynychu clwb ieuenctid ac yn recordio, pan o'n i'n 15 fe wnes i gychwyn sianel YouTube, a phan ro'n i'n 18 fe wnes i gychwyn mynd i Lundain i recordio am nad oedd unman yng Nghymru lle y gallwn ni recordio reggae," meddai.

Wedi ei chyfnod yn y brifysgol aeth ymlaen i fod yn gymhorthydd mewn ysgol awtistiaeth, wrth geisio parhau â'i cherddoriaeth.

Aleighcia yn perfformio ar lwyfan Ffynhonnell y llun, Wheatle photography
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Aleighcia: "Dyw pobl methu coelio 'mod i'n berson du gydag acen Gymraeg"

Er gwaethaf ei llwyddiannau, dywedodd fod pobl yn parhau i fod yn gymysglyd wrth iddyn nhw glywed hi'n siarad.

"Dyw pobl methu coelio 'mod i'n berson du gydag acen Gymraeg, oherwydd mai Saesneg a Llundain yw canolbwynt cerddoriaeth," meddai.

"Mae'n frwydr, ond mae 'na bobl yng Nghymru sy'n gwneud pethau gwych, ac er bod pethau yn newid, dwi eisiau parhau i wthio'r bariau ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

"Mae'n anhygoel i gael y gân Gymraeg gyntaf yn rhif un siart reggae iTunes.

"O ganu mewn clwb ieuenctid i gyrraedd rhif un, a rhoi reggae cyfrwng Cymraeg ar y llwyfan rhyngwladol."