Aleighcia Scott: 'Dwi'n caru dysgu Cymraeg'
- Cyhoeddwyd
"Dwi moyn parhau dysgu Cymraeg, dwi moyn cyflwyno yn Gymraeg ac yn Saesneg ychydig mwy a gobeithio mynd â Cymru ar draws y byd."
Mae'r gantores reggae, cyflwynydd a'r cynhyrchydd Aleighcia Scott wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dros flwyddyn bellach ac mae hi wedi siarad gyda Cymru Fyw am sut mae pethau'n mynd.
"Dwi'n caru dysgu Cymraeg. Mae tipyn bach yn hard ond ie, dwi'n mwynhau," meddai Aleighcia, sy'n dod o Gaerdydd.
"Dwi'n meddwl mae'n mynd yn ok. Dwi moyn dysgu mwy ond oherwydd dwi'n brysur iawn yn trafeilio weithiau dwi ddim yn ymarfer as much as dwi moyn.
"Dwi wastad wedi bod moyn dysgu. Online roedd tipyn bach yn dweud 'oh you're too black to be Welsh... you're not Welsh'. Oni'n meddwl nawr oedd yr amser i ddechrau felly ie, blwyddyn yn ôl-ish nes i ddechrau.
"Dwi ddim yn siŵr pam, ond dwi'n hoffi 'alla'i ddim' a 'siomedig'... dwi'n hoffi "siomedig" dwi ddim yn siŵr pam! A 'cyn bo hir' hefyd."
Reggae yn 'rhan bwysig iawn o fy niwylliant'
A chyn bo hir mae Aleighcia yn gobeithio dychwelyd i Jamaica i recordio mwy o gerddoriaeth pan mae hi'n cael y cyfle.
Mae mynd yno i greu cerddoriaeth yn bwysig iawn iddi nid yn unig oherwydd mai fanno yw cartref reggae ond oherwydd mae'n rhoi cyfle iddi ail-gysylltu a'i gwreiddiau.
"Mae fy Mamgu a Tadcu yn dod o Trelawny. Wnaethon nhw symud yma yn rhan o Windrush yn 1961," meddai.
"Dwi'n caru reggae achos mae'n gerddoriaeth neges ac mae'n rhan bwysig iawn o fy niwylliant ac o ble mae fy nheulu yn dod. Mae ganddo hanes cyfoethog ac mae'r music yn dda."
Mae Aleighcia wedi cydweithio a rhannu llwyfan ag artistiaid reggae mawr fel Julian Marley, Tarrus Riley, Soul ll Soul a Gyptian mewn gwyliau o Brydain i Jamaica.
"Dwi'n recordio lot o'r gerddoriaeth yn Jamaica. Mae'n bwysig iawn i recordio yn Jamaica oherwydd mae'n talu teyrnged i Jamaica a lle mae reggae yn dod."
Yn ddiweddar mae'r gantores wedi darganfod ei hoff grŵp iaith Gymraeg hefyd...
"Diwrnod o'r blaen nes i glywed Eden 'Paid a Bod Ofn' - oh my goodness, an absolute tune. Dwi'n caru Eden!"
Cyngor ar ddysgu Cymraeg
Mae Aleighcia yn benderfynol o barhau i ddysgu Cymraeg ac yn awyddus i rannu ei chyngor gydag eraill sydd eisiau dechrau dysgu hefyd.
"Dwi'n dysgu gyda Say Something in Welsh a dwi'n caru e oherwydd mae'n good for me achos dwi'n brysur," meddai.
"Roeddwn i'n meddwl byddai pobl ddim yn hapus achos dwi ddim yn siarad proper Welsh, ond mae pobl yn lyfli a moyn helpu fi.
"Felly ie, siarad gyda phobl a ffeindio grwpiau. Ar-lein mae 'na grwpiau i ddysgwyr ac mae podcast Sgwrs yn dda.
"Dwi moyn parhau dysgu Cymraeg, dwi moyn cyflwyno yn Gymraeg ac yn Saesneg chydig mwy a gobeithio mynd â Chymru ar draws y byd."