Arestio nifer wedi anhrefn treisgar yng Nghasnewydd

- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi arestio saith o bobl mewn cysylltiad ag adroddiad o anhrefn treisgar yng Nghasnewydd ddydd Gwener 1 Awst.
Cafodd swyddogion eu galw i Ffordd Commercial ar ôl i grŵp o ddynion gael eu gweld yn ymladd ar y stryd tua 15.20.
Cafodd chwe dyn ac un bachgen 17 oed eu harestio ar amheuaeth o achosi anhrefn treisgar ac mae pob un ohonynt yn parhau yn y ddalfa.
Aeth pedwar o'r dynion i'r ysbyty - mae dau o'r dynion yn parhau i gael triniaeth tra bod dau arall wedi gadael.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.