Gwylwyr y Glannau yn chwilio am ddyn sydd ar goll o gwch hwylio

- Cyhoeddwyd
Mae criwiau achub yn parhau i chwilio am ddyn a oedd wedi disgyn o gwch hwylio.
Mae'n debyg fod y cwch wedi bod yn teithio o Brighton i Abertawe, gan fynd heibio Falmouth yng Nghernyw ddydd Sadwrn.
Fe dderbyniodd Gwylwyr y Glannau Iwerddon alwad tua 22:55 nos Sadwrn, ac fe gafodd hofrennydd achub ei anfon i gynorthwyo'r chwilio.
Mae'r chwilio yn parhau fore Sul.