Y Llais wedi 'newid bywyd' menyw a gafodd strôc yn 21

Nia TylerFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nia bellach yn gweithio fel cantores llawrydd ac wedi symud i Gaerdydd i fyw

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw 26 oed o Rydaman a gafodd strôc pan oedd yn 21 yn dweud bod perfformio ar raglen Y Llais "wedi newid ei bywyd".

Roedd Nia Tyler yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Royal Holloway pan gychwynnodd deimlo'n anhwylus gyda'r hyn yr oedd hi'n meddwl oedd meigryn ar y pryd.

Ar ôl dychwelyd at ei rhieni yn Sir Gâr ac ymweld â sawl doctor gwahanol, cafodd wybod ei bod wedi profi strôc.

Ers hynny mae ei bywyd wedi newid yn llwyr, ac erbyn hyn mae'n gweithio fel cantores lawrydd.

Dywedodd fod cael strôc wedi newid y ffordd mae'n gweld y byd, a'i bod yn benderfynol o godi ymwybyddiaeth ynghylch y cyflwr yn ogystal â llwyddo yn ei gyrfa er gwaethaf heriau ei hiechyd.

'Cyfnod trawmatig'

Fe ddisgrifiodd y cyfnod pan brofodd hi'r strôc fel un "caled iawn" a hithau mor ifanc.

Bu'n rhaid iddi adael y brifysgol a chanolbwyntio ar ei hiechyd, profiad anodd meddai.

"Ro'n i wedi gadael y brifysgol tra roedd fy ffrindiau yn dal i fynd allan a byw eu bywyd.

"Roedd yn gyfnod trawmatig, ond ar yr adeg nago'n i'n sylwi pa mor drawmatig oedd e ar y pryd," meddai.

Nia TylerFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Er ei bod yn teimlo'n well erbyn hyn, dywed Nia ei bod yn dal i brofi sgil effeithiau'r salwch

Ond er y cyfnod tywyll, dywedodd fod y salwch wedi newid ei meddylfryd.

"Ma' fe wedi newid sut dwi'n gweld bywyd, ond ar y pryd ro'n i byth yn meddwl bydden ni'n llwyddiannus mewn unrhyw beth eto.

"Mae'n rhaid i fi edrych 'nôl a meddwl 'mod i wedi gwneud yn really dda," meddai.

Erbyn heddiw mae'n gweithio fel cantores llawrydd, rhywbeth oedd yn teimlo mor bell i ffwrdd iddi ar ôl y salwch.

"Mae [canu] wastad wedi bod yn release, yn therapi a wastad wedi bod 'na i fi, ond nago'n ni wedi meddwl am e fel gyrfa.

"Ar ôl dioddef y strôc ro'n ni'n meddwl, you might as well give it a go.

"Os byddwn ni heb gael y strôc sain meddwl y byddwn i wedi mynd head first i ganu.

"Ma' bywyd llawer rhy fyr, o'n ni literally bron wedi marw, beth yw'r pwynt os na ti am geisio mynd am dy freuddwydion."

'Sneb yn gallu gweld e'

Er ei bod yn teimlo'n llawer gwell erbyn hyn ac wedi symud i Gaerdydd i fyw, dywedodd ei bod yn parhau i brofi sgil effeithiau'r salwch yn ddyddiol.

"Chronic fatigue yw'r peth mwyaf debilitating.

"Mae e'n really galed achos s'neb yn gallu gweld e, achos weithie fi'n stryglan ond dyw e ddim yn amlwg i bobl eraill faint dwi'n dioddef.

"Ond dyna sut ma'n mywyd i'n edrych so s'dim amser da fi i eistedd a phwdu, mae'n rhaid i fi glatcho bant 'da pethe."

Nia Tyler ar Y Llais Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Syr Bryn Terfel oedd hyfforddwr Nia ar Y Llais

Fe gyrhaeddodd Nia Tyler rownd gynderfynol cyfres ddiweddar Y Llais ar S4C, "profiad anhygoel" meddai.

Dywedodd fod y sioe wedi "rhoi real motivation i fi lwyddo am 'mod i wedi cael blas o be' all fy ngyrfa i fod".

"Mae wedi rhoi'r tân yna yn fy mol i lwyddo."

Mae dau fideo o Nia yn canu ar Y Llais wedi cyrraedd cynulleidfa o dros 100,000 ar TikTok, ac nid yw'n gallu credu'r ymateb.

"Mae'n bonkers bo' cymaint o bobl wedi clywed fi'n canu.

"Mae wedi rhoi mwy o hyder i fi feddwl mod i yn ddigon da... ma' 'da fi bach llai o imposter syndrome nawr fi'n credu."

Wrth edrych at y dyfodol, mae Nia yn gobeithio gallu parhau â'i gyrfa fel cantores ac yn gobeithio cyfansoddi ei cherddoriaeth ei hun.

Pynciau cysylltiedig