Dau wedi eu cyhuddo ar ôl canfod corff menyw oedd ar goll

Cafodd corff Ms Veisi ei chanfod mewn cyfeiriad ym Mhenylan, meddai'r heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae ditectifs wedi darganfod corff menyw 37 oed oedd ar goll, ar ôl i ymchwiliad llofruddiaeth gael ei lansio.
Cafodd Paria Veisi, o ardal Waun Ddyfal y brifddinas, ei gweld ddiwethaf am 15:00 ddydd Sadwrn pan adawodd ei man gwaith yn ardal Treganna yn gyrru Mercedes GLC 200 du.
Mae dyn o Benylan, Caerdydd, a menyw o White City Estate, Llundain, wedi eu cyhuddo.
Mae'r ddau wedi ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn ac wedi eu cadw yn y ddalfa.
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Cafodd corff Ms Veisi ei chanfod mewn cyfeiriad ym Mhenylan, meddai'r heddlu.
Mae'r dyn 41 oed o Benylan wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, o beidio claddu corff marw mewn modd cyfreithlon a gweddus, ac ymosod ar berson gan achosi niwed corfforol.
Mae'r fenyw 48 oed o Stryd Awstralia, White City Estate, Llundain, wedi ei chyhuddo o beidio claddu corff marw mewn modd cyfreithlon a gweddus ac o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, Matt Powell: "Mae hwn yn dod a'n chwilio i Paria i ddiweddglo trist a thrasig. Bydd teulu Paria, pawb oedd yn ei hadnabod, a'r bobl yn ei chymuned leol, yn drist ac wedi synnu o glywed y datblygiadau diweddaraf."
Ychwanegodd y bydd ditectifs ac ymchwilwyr lleoliadau trosedd ym Mhenylan dros yr wythnosau nesaf.
Mae disgwyl i'r rhai sydd wedi eu cyhuddo ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 22 Ebrill.