Diffyg cymorth cyfreithiol ar fewnfudo yn 'artaith emosiynol'

Mae gan Elinor gwallt hir brown, ac mae'n gwenu wrth edrych i'r camera. Mae hi'n gwisgo siaced lliw niwtral.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elinor Mattey o Sefydliad Bevan yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau'r pwysau ar ddarparwyr cymorth cyfreithiol presennol

  • Cyhoeddwyd

Mae "diffyg gwasanaethau cyfreithiol ar fewnfudo" yng Nghymru yn cael effaith ddifrifol ar bobl - ac mewn rhai achosion yn arwain at ecsbloetio, yn ôl melin drafod.

Yn ôl gwaith ymchwil gan Sefydliad Bevan, mae 60% o swyddfeydd darparwyr cymorth cyfreithiol ar fewnfudo wedi cau yng Nghymru ers 2018.

Disgrifiodd un gwirfoddolwr, sy'n gweithio gyda cheiswyr lloches, bod y system yn "artaith emosiynol" i lawer.

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi adolygu cymorth cyfreithiol sifil ac wedi ymgynghori'n ddiweddar ar gynyddu'r gwariant ar ffioedd mewnfudo a lloches o 30%.

'Colli egni, ffydd a chred'

Mae cymorth cyfreithiol yn gronfa gyhoeddus sy'n cynnig help i dalu am gyngor cyfreithiol, trafod teuluol (mediation) a chynrychiolaeth mewn llys neu dribiwnlys.

Daeth newidiadau eang i rym i gymorth cyfreithiol sifil ym mis Ebrill 2013, gan dorri cyllid o feysydd gan gynnwys ysgariad, tai, dyled a mewnfudo nad oedd yn ymwneud â cheiswyr lloches.

Ar y pryd dywedodd Llywodraeth y DU mai'r bwriad oedd targedu adnoddau at y rhai oedd fwyaf mewn angen, a lleihau'r bil cymorth cyfreithiol o £350m y flwyddyn erbyn 2015.

Dynes gyda thop gwyn a sgarff pen yn eistedd mewn cadair swyddfa goch gyda'i chefn i'r camera
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Yasmin, mae pobl yn cael trafferth dod o hyd i gyfreithiwr ac yn aros cyfnod hir am gyfweliadau

Ar ôl gadael ei chartref yn Irac dros 15 mlynedd yn ôl, dywedodd Yasmin, nid ei henw iawn, fod ei phrofiad o geisio am loches yng Nghymru yn un cyflym.

Ond tra'n gwirfoddoli gyda ffoaduriaid eraill yn ystod y degawd ddiwethaf, dywedodd bod y system wedi wynebu trafferthion.

Disgrifiodd profiad rhai pobl bu'n eu cefnogi fel "artaith emosiynol", wrth iddyn nhw fethu a dod o hyd i gyfreithiwr am fisoedd, eraill ddim yn ymwybodol o'u hawl i gwyno ar ôl cael eu cam-drin, a blynyddoedd o aros am benderfyniad.

"Maen nhw wedi colli cymaint o egni a ffydd a chred, eu bod nhw bellach wedi torri," ychwanegodd.

Yn ôl Yasmin, sydd bellach yn astudio ar gyfer gradd mewn cwnsela a seicoleg, mae yna ddigon o bobl fel hi oedd eisiau defnyddio "eu hamser a'u profiad" o'r system i wneud y broses yn haws.

"Mae angen i ni gynyddu'r cymorth cyfreithiol i gael mwy o gyfreithwyr, oherwydd mae mwy o bobl cyrraedd y wlad", meddai.

O dan y system bresennol, mae achosion ceiswyr lloches arferol fel arfer yn derbyn ffioedd sefydlog, yn seiliedig ar nifer cyfartalog yr oriau o waith sydd eu hangen.

Ar hyn o bryd y ffi sefydlog yw £413 yn seiliedig ar gyfradd sylfaenol fesul awr o £48.24 y tu allan i Lundain, a £52.65 yn Llundain.

Ar ôl adolygiad o'r system cymorth gyfreithiol sifil, mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnig cynyddu'r gyfradd ar gyfer gwaith mewnfudo i isafswm cyfradd yr awr o £65.63 y tu allan i Lundain, a £69.30 yn Llundain, a fyddai'n cynyddu'r ffi sefydlog i £559.

Dywedodd yr adolygiad fod y ffioedd presennol yn creu "pwysau dybryd o amgylch cynaladwyedd y sector".

Yn 1996 cynyddwyd cyfraddau'r awr ar gyfer gwaith mewnfudo ddiwethaf.

'Mae pobl yn methu dod o hyd i gyfiawnder'

Mae ymchwil Sefydliad Bevan yn awgrymu fod chwech ymhob 10 o swyddfeydd darparwyr cymorth cyfreithiol ar fewnfudo Cymru wedi cau, gyda phum darparwr bellach yn gweithredu chwe swyddfa.

"Mae'n gyfradd wirioneddol frawychus a does dim arwydd bod y dirywiad hwnnw'n mynd i arafu," meddai Elinor Mattey.

Yn ôl Ms Mattey, swyddog polisi mynediad at gyfiawnder Sefydliad Bevan, mae pobl yn cael eu heffeithio'n ariannol, ac yn agored i gael eu hecsbloetio gan rai sy'n sefyll fel cynghorwyr mewnfudo.

"Heb y mynediad at gyfiawnder, ni allwch gael eich statws ffoadur, a heb eich statws ffoadur, ni allwch weithio na integreiddio cymaint ag yr hoffech; rydych yn cael eich gadael mewn cyflwr o limbo," ychwanegodd.

Dywedodd y swyddog 25 oed, er y byddai unrhyw gynnydd mewn ffioedd gan Lywodraeth y DU yn cael ei groesawu, doedd hi ddim yn credu y byddai'n ddigon.

Ychwanegodd y gallai Llywodraeth Cymru hefyd gynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau trydydd sector, er mwyn lleihau'r pwysau ar ddarparwyr cymorth cyfreithiol presennol.

Dynes gyda gwallt byr llwyd sy'n gwisgo ffrog flodeuog
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ruth Brown yn dweud bod rhai pobl yn aros saith mlynedd am eu cyfweliad lloches

Ruth Brown yw cyfarwyddwr cyfreithiol Asylum Justice, cwmni cyfreithiol sy'n darparu cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol gan ddefnyddio grantiau elusennol.

Mewn blynyddoedd diweddar, dywedodd fod y gwaith wedi "trawsnewid" o ddelio'n bennaf ag apeliadau, i ateb galwadau ceisiadau lloches cychwynnol ar ôl i swyddfeydd cymorth cyfreithiol gau.

Disgrifiodd achosion anarferol o hir, gyda rhai pobl yn aros saith mlynedd am eu cyfweliad lloches, gyda lleiafrif bach yn aros pedair neu bum mlynedd.

Dywedodd y gyfreithwraig mewnfudo bod y maes yma o'r gyfraith yn arbennig o anodd i weithio ynddo, gydag "oriau hir iawn, iawn i gau'r bwlch rhwng faint o waith sydd ei angen i wneud swydd iawn, a faint o amser sy'n cael ei dalu mewn arian cyhoeddus".

Dywedodd Ms Brown y gallai'r cynnig i gynyddu'r ffi fod wedi gwneud gwahaniaeth ddwy flynedd yn ôl, ond bellach y gallai hynny fod ychydig yn rhy hwyr i ddenu cyfreithwyr yn ôl.

'Ymgynghori ar godi'r ffi'

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod wedi cwblhau adolygiad llawn o gymorth cyfreithiol sifil ac wedi "ymgynghori'n ddiweddar ar godiadau a fyddai'n cynyddu'r gwariant ar ffioedd mewnfudo a lloches 30%".

"Mae'r adran hefyd wedi sicrhau cyllid ychwanegol i gynyddu nifer y dyddiau y bydd y Tribiwnlys Mewnfudo a Lloches yn eistedd yn 2025/26, gan helpu i gyflymu'r gwaith o brosesu apeliadau lloches" ychwanegodd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi darparu cyllid grant gwerth £120,000 y llynedd "i gefnogi darparwyr cyngor cyfreithiol ar fewnfudo i gyflawni prosiectau wedi'u hanelu at gynyddu'r ddarpariaeth yng Nghymru".

"Byddwn yn parhau i weithio ar hyn gyda'r rhwydwaith Cyngor Cyfreithiol ar Fewnfudo, sy'n cynnwys Sefydliad Bevan, a byddwn yn parhau â thrafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar y mater."

Pynciau cysylltiedig