Creu rym o weddillion cig eidion Wagyu

GwarthegFfynhonnell y llun, Snowdonia Wagyu
  • Cyhoeddwyd

Saith mlynedd ers arallgyfeirio i gynhyrchu cig eidion Wagyu, mae ffermwyr o Bontnewydd ger Caernarfon wedi mynd gam ymhellach, drwy ddechrau creu rym allan o weddillion y gwartheg.

Yn ôl y perchnogion, Sioned Pritchard a Meilir Breese, mae cynaliadwyedd a lleihau gwastraff wrth galon busnes Snowdonia Wagyu, ac maen nhw bob amser yn chwilio am ffyrdd i ddefnyddio pob un darn o'r fuwch.

Un datblygiad diweddar yw i greu rym gyda'r hyn sydd ar ôl, eglurai Sioned.

"Ddatblygon ni Wagyu Rum, sydd yn rhywbeth sydd yn swnio'n hollol boncyrs!

"Ond i ni, roedd o'n ymdrech i fod yn fwy cynaliadwy, lleihau y gwastraff o'r carcas. O'dd o'n bwysig i ni ein bod ni'n cynhyrchu rhywbeth efo'r gweddillion.

SionedFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sioned yn cydnabod fod y syniad "yn swnio'n hollol boncyrs!"

"Mae o'n cael ei 'neud gyda'r esgyrn, y cig wast a 'chydig o'r braster sydd ar ôl. 'Dan ni'n gallu mynd â hwnna a'i distyllu i lawr i greu rym, sydd yn creu product reit wahanol, reit ddyfeisgar.

"A mae o'n blasu'n dda – dyna be' sy'n bwysig!"

O Japan i Gymru

RymFfynhonnell y llun, Snowdonia Wagyu

Cafodd Sioned a Meilir eu magu ar ffermydd, ond yn ôl yn 2018, penderfynon nhw arallgyfeirio a dewis brîd gwahanol i'w ffermio; Wagyu oedd y dewis, math o fuwch sy'n hannu o Japan. Mae'r cig eidion yn cael ei ystyried yn un o'r cigoedd drytaf yn y byd.

Roedd yn dipyn o dalcen caled i ddechrau, eglurodd Sioned ar Troi'r Tir ar BBC Radio Cymru, am ei fod yn fath o gig eidion oedd ddim yn gyfarwydd ar y pryd, ond mae'n sicr wedi dod o hyd i gwsmeriaid bellach, meddai.

"Yr adeg yna, roedd o'n rhywbeth hollol newydd ar y farchnad, so o'dd hi'n dipyn o job yr adeg yna i gysylltu efo pobl leol. O'dd o'n rhywbeth hollol newydd ar y pryd, a doedd pobl ddim yn gwybod beth oedd Wagyu neu hyd yn oed sut i'w goginio.

cig eidionFfynhonnell y llun, Snowdonia Wagyu
Disgrifiad o’r llun,

Mae cig eidion Wagyu yn adnabyddus am y braster sydd wedi ei fritho drwy'r cig

"'Naethon ni ddechrau'r busnes drwy werthu blychau cig premiwm, ond yn gyflym 'naethon ni sylweddoli nad oedd pawb yn mynd i brynu bocs cyfa' o gig. 'Naethon ni ddechrau cynnig darnau unigol, a dysgu'n gyflym fod ganddon ni lot o gwsmeriaid o'dd isho chydig bach mwy na jyst stecen neu joint."

Bellach, mae'r cwmni wedi datblygu i gynnig cynhyrchion eraill o'r cig eidion, fel pastai stêc a chig charcuterie, ac yn cynnig cyngor i'w cwsmeriaid am beth i'w wneud gyda gweddillion y bwyd.

Gwell lles ac ansawdd

Ynghyd â ffermio a chreu cynnyrch mewn modd cynaliadwy, mae lles y gwartheg yn bwysig i'r cwmni hefyd, eglurai Sioned.

"'Dan ni wedi ymrwymo i ddulliau ffermio sy'n sicrhau fod ein gwartheg ni'n byw yn naturiol ac yn ddi-straen gan obeithio arwain at gynnyrch ci eidion premiwm.

Meilir a buwchFfynhonnell y llun, Snowdonia Wagyu

"Mae'n gwartheg ni yn cael eu magu efo cyn lleied â phosib o ymyrraeth, a thrwy reoli porfeydd yn effeithlon – pori cylchol – 'dan ni'n gneud y mwya' o'r tir a'r glaswellt yn naturiol.

"'Dan ni'n gobeithio fod hyn, nid yn unig yn gwarchod lles yr anifail, ond hefyd yn gwella ansawdd ein cig, sydd wrth gwrs yn adnabyddus am ei farblo."

Pynciau cysylltiedig