Tarddiad 5 o eiriau ac ymadroddion Y Pasg
- Cyhoeddwyd
Mae'r Pasg a'r gwanwyn wedi cyrraedd ac mae arwyddion o fywyd newydd ar hyd y lle - yr ŵyn bach yn prancio a byd natur yn blaguro.
Yr Athro Ann Parry Owen, Golygydd Hŷn Geiriadur Prifysgol Cymru, sy'n egluro beth yw ystyr rhai o'r geiriau a'r ymadroddion Cymraeg sy'n dathlu'r tymor.
Cwningod

Yn gam neu'n gymwys, mae'r gwningen bellach wedi dod yn rhan annatod o ddathliadau'r Pasg, er bod delweddau o gwningod yn cludo basgedi llawn wyau yn peri peth dryswch i blant bach!
Benthyciad o hen air Saesneg 'konyng' ('coney', yn ddiweddarach), yw'r gair 'cwningen', a chyda'r Normaniaid y daeth y gwningen fodern i Brydain gyntaf. Roedd cwningod yn bwysig o ran eu cig, a chwninger (o'r Saesneg 'conyger') y gelwid darn o dir a oedd wedi ei neilltuo ar gyfer eu magu.
Mae Gwninger yn enw cyffredin ar ffermydd mewn sawl ardal o Gymru. Yn wahanol i'r gwningen, mae'r sgwarnog yn greadur cynhenid, fel y mae tarddiad ei enw yn profi. Hen air am glust oedd 'ysgyfarn' (fel yn y Llydaweg 'scouarn'), felly ystyr ysgyfarnog yw creadur ac iddo glustiau amlwg!
Hirlwm

Dyma air a'i wreiddiau yng nghymdeithas amaethyddol y gorffennol.
Fe'i defnyddid erstalwm am y cyfnod 'hir' a 'llwm' rhwng diwedd y gaeaf a dechrau'r gwanwyn, pan fyddai'r bwyd a gedwid mewn storfeydd ar gyfer bwydo'r teulu a'r anifeiliaid dros y gaeaf ar ddarfod, neu hyd yn oed wedi darfod.
Disgrifid misoedd Mawrth ac Ebrill fel 'hirlwm y gwanwyn', ac edrychid allan yn ofalus am unrhyw arwydd fod y tywydd yn cynhesu a'r ddaear yn ailddeffro ac felly'n barod i ddechrau cynhyrchu bwyd ar gyfer y flwyddyn i ddod.
'Un wennol ni wna wanwyn' fyddai rhybudd y dyn a'i wydr yn hanner gwag wrth weld ambell lygedyn o obaith, ond i'w gymar a'i wydr yn hanner llawn, ergyd dros dro fyddai'r ambell gawod aeafol a geid yn y cyfnod hwn, roedd pethau'n gyffredinol yn gwella. Meddai'r hen bennill:
Er maint sydd yn y cwmwl tew
O law a rhew a rhyndod,
Fe ddaw eto haul ar fryn,
Nid ydyw hyn ond cawod.
'Tridiau'r deryn du a dau lygad Ebrill'

Roedd deall y tymhorau a'r tywydd, a'u heffaith ar y tir, y cnydau a'r anifeiliaid yn gwbl allweddol i'r ffermwr llwyddiannus erstalwm (fel heddiw), gan gynnwys gwybod pryd byddai'r amser gorau i hau hadau.
Rwy'n arbennig o hoff o'r hen ymadrodd hwn sy'n nodi'r amser gorau ar gyfer hau hadau ceirch yn y gwanwyn: sef yn ystod tridiau olaf Mawrth a dau ddiwrnod cyntaf Ebrill; neu, yn ôl eraill, ar ôl gweld yr aderyn du yn nythu ers tridiau, a gweld dau flodyn llygad Ebrill, sef blodyn menyn neu felyn y gwanwyn (lesser celandine).
Llygaid y dydd

Fel y mae'r haul yn cryfhau bob dydd, braf yw gweld llygaid y dydd yn addurno'r gweirgloddiau a'r lawntiau. Yn ogystal ag edrych fel llygaid (gyda'r gannwyll felyn yn y canol wedi ei hamgylchynu gan betalau gwynion), mae'n agor yn y bore wrth i'r haul ddechrau tywynnu, ac yn cau gyda'r nos wrth i'r haul ymachlud. (Yr un yw'r esboniad am yr enw Saesneg 'daisy', a ddaw o 'day's eye'.)
Gallwn olrhain yr enw llygaid y dydd yn ôl i'r bedwaredd ganrif ar ddeg, gan fod ei flodau a'i ddail yn cael eu defnyddio at wneud meddyginiaethau erstalwm.
Y ddraenen ddu a'r ddraenen wen

Blodau gwyn sydd gan y ddraenen ddu a'r ddraenen wen, ond y ffordd hawdd i gofio'r gwahaniaeth rhyngddynt yw bod blodau gwyn y ddraenen ddu yn blodeuo cyn i'r dail ymddangos. Felly mae brigau du'r llwyn yn amlwg pan fydd yn ei flodau yn gynnar yn y gwanwyn. Dyma blackthorn y Sais.
Mae'r ddraenen wen, ar y llaw arall, yn blodeuo ym mis Mai a dechrau Mehefin, pan fydd y tywydd wedi cynhesu: 'Pan flodeua'r ddraenen wen, / Y mae'r tymor rhew ar ben', meddai'r hen air. Dyma hawthorn y Sais.
Enw arall ar y ddraenen wen yn Gymraeg yw 'ysbyddaden', ac os cofiwch, Ysbaddaden Bencawr oedd enw tad Olwen yn y chwedl 'Culhwch ac Olwen', am fod ei farf yn bigog fel drain!
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2024