Arestio dyn, 54, yn dilyn marwolaeth dynes yn Ynys Môn

swyddog heddluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo ym mhentref Gwalchmai ar 6 Chwefror

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o glwyfo yn dilyn marwolaeth dynes yn Ynys Môn yr wythnos ddiwethaf.

Bu farw dynes 47 oed yn dilyn digwyddiad mewn eiddo yng Ngwalchmai ddydd Iau, 6 Chwefror.

Fe gadarnhaodd Heddlu'r Gogledd fod dyn 54 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o glwyfo mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'r dyn wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.

Pynciau cysylltiedig