Dafydd Iwan i berfformio gyda'i fand am y tro olaf

Dafydd IwanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Dafydd Iwan yn chwarae gyda'i fand am y tro olaf yng Ngŵyl Llanuwchllyn

  • Cyhoeddwyd

Mae Dafydd Iwan wedi dweud y bydd yn chwarae gyda'i fand am y tro olaf mewn gŵyl yng Ngwynedd yn yr haf.

Bydd yn perfformio yng Ngŵyl Llanuwchllyn ar 23 Awst - diwrnod cyn ei ben-blwydd yn 82 oed.

Dywedodd y canwr, a gafodd ei fagu yn Llanuwchllyn, fod yr ŵyl yn gyfle i "gau'r cylch" ar ei gyfnod gyda'r band.

"Mae'n rhaid i bawb gydnabod bod yna adeg yn dod i weindio lawr ac i gymryd llai o straen," meddai wrth siarad â Cymru Fyw.

Ond er fod ei amser gyda'r band yn dod i ben, bydd yn parhau i ganu ar gyfer cymdeithasau lleol ac mewn digwyddiadau arbennig, meddai.

Dafydd Iwan

Mae trefnu cyngherddau gyda'r band bob blwyddyn "yn dechrau mynd yn drwm", meddai.

"Y rheswm dros hynny mewn gwirionedd ydi mod i'n mynd i oed.

"Mae'n rhaid i bawb gydnabod bod yna adeg yn dod i weindio lawr ac i gymryd llai o straen, ond ma'n siŵr fyddai'n ei golli o."

Ychwanegodd: "Mae perfformio efo'r band yn brofiad hollol wahanol achos mae'r gynulleidfa'n fwy ac mae o'n 'chydig bach mwy o bwysau ar rywun a mwy o baratoi.

"Dwi'n teimlo hefyd mod i'n dechrau ailadrodd fy hun 'chydig bach gormod - dydi'r setlist heb newid llawer ers dipyn.

"Ond faint bynnag o straen ydi o, mae o'n ryw fath o gyffur hefyd - mae rhywun yn trio gwneud hebddo fe ond yn ei golli o'r un pryd."

'Dod â phethau i ben cyn dwi'n gorfod'

Dywedodd y canwr ei fydd yn dal i "wneud cân yma ac acw i fudiadau lleol ac i gymdeithasau lleol ac yn y blaen, ond fydd y cyngherddau mawr yn dod i ben rŵan".

"Er mai'r nosweithiau mawr sy'n cael y sylw, dwi'n brysur trwy'r amser yn canu mewn cymdeithasau lleol a does 'na'm pwrpas stopio hynna - mae'n rhan o fy mywyd i a'n cyfrannu rhywfaint at ddiwylliant Cymru," meddai.

"Mae pob perfformiwr yn dweud yr un fath, os mae'r gynulleidfa yn ymateb a phawb mewn hwyliau yna mae o'n wefr gewch chi ddim byd tebyg iddo fo.

"Yn ddiweddar rydyn ni wedi cael aml un noson sy'n gystal â ddim byd dwi 'di cael erioed.

"Mae'r cynulleidfaoedd yn gymysgedd o oedran ac yn ymateb yn dda, ond dwi isio dod â phethau i ben cyn dwi'n gorfod."

Dafydd IwanFfynhonnell y llun, Outwest Images
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Iwan yn perfformio gyda'i fand yng Ngŵyl Rhuthun yn 2022

Dywedodd y canwr mai yng Nglan-llyn yn Llanuwchllyn y gwnaeth o berfformio gyda'r gitâr am y tro cyntaf.

"O ran fy ngyrfa i fel canwr gyda'r gitâr ac fel cyfansoddwr, yn Llanuwchllyn fe gychwynnodd y cyfan, ac yng Nglan-llyn - i fyny'r ffordd o le o'n i'n byw - yn fan 'na wnes i berfformio gyntaf gyda'r gitâr.

"Felly mae'n cau pen y mwdwl ar y stori yn yr ystyr yna. A phan ofynnodd Gŵyl Llanuwchllyn i fi i ganu yno eleni wnes i weld y cyfle i gyfuno'r ddau beth a dod â chyfnod y band i stop."

'Gorffen y daith' yn Llanuwchllyn

Ychwanegodd: "Dwi'n ffeindio bod Llanuwchllyn yn le arbennig iawn ac yn y dyddie yma pan mae pobl ifanc yn llifo o gefn gwlad Cymru i Gaerdydd neu i drefi mwy mae cadw pethau i fynd yng nghefn gwlad Cymru yn dipyn o gamp.

"Ac mae Llanuwchllyn yn llwyddo i wneud o, yn llwyddo i gadw pobl ifanc, yn llwyddo i ddenu pobl ifanc.

"Dwi'n meddwl bod yr hyn sy'n digwydd yn Llanuwchllyn yn esiampl ac yn ysbrydoliaeth i bentrefi eraill felly dwi'n meddwl bod o'n beth da iawn bod ni'n gorffen y daith yng Ngŵyl Llanuwchllyn.

"Mae'r gwyliau yma'n bwysig iawn i ddiwylliant Cymru a'r ffaith eu bod nhw'n digwydd yn y canolfannau gwledig yma."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig