Carcharu dyn am ddallu dioddefwr mewn ymosodiad hylif cyrydol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a daflodd hylif cyrydol ar wyneb dyn arall wrth ei rybuddio i gadw draw oddi wrth ei gariad wedi’i garcharu.
Ymosododd Jivan Dean, 24, ar Raven Riley, 21, yn ardal ‘Tipi Valley’ ger Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin ar 14 Awst.
Clywodd Llys y Goron Abertawe nad yw golwg Mr Riley wedi dychwelyd, a bod ganddo greithiau ar ei ben, ei wyneb, ei wddf a'i frest.
Fe blediodd Dean yn euog mewn gwrandawiad blaenorol i achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, a hefyd o achosi i rywbeth peryglus neu wenwynig ddod i gyswllt â rhywun, gyda’r bwriad o losgi.
Dywedodd y barnwr Geraint Walters fod yr ymosodiad yn “weithred oer, bwriadol a chreulon”, gan garcharu Dean am 15 mlynedd. Bydd hefyd ar drwydded am bedair blynedd ar ôl ei ryddhau.
'Wedi difetha fy mywyd'
Clywodd y llys gan fargyfreithiwr yr erlyniad, Carina Hughes, fod Mr Riley yn ymweld â ffrind yn yr ardal pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
Eglurodd Ms Hughes fod Dean wedi dod i’r tŷ gyda bag y diwrnod hwnnw a’i fod yn ymddwyn yn anarferol, cyn mynd i’r gegin a phoethi “dŵr a phowdr gwyn” mewn padell.
Yna cerddodd Dean i mewn i’r ystafell lle’r oedd Mr Riley yn eistedd a thaflu’r hylif poeth tuag ato, o ryw bedair neu bum troedfedd, cyn dweud, "cadwa draw oddi wrth fy nghariad".
“Doedd hynny ddim yn golygu dim i Raven Riley,” meddai Ms Hughes, gan esbonio mai dim ond unwaith yr oedd wedi cwrdd â chariad y diffynnydd.
Roedd yn “teimlo’n syth ei fod yn llosgi”, dywedodd y bargyfreithiwr, ac aeth Mr Riley allan o’r tŷ, gan sgrechian: "Help, help, mae’n llosgi. Alla’ i ddim gweld."
“Roedd mewn sioc ofnadwy, roedd ei gorff yn crynu.”
Roedd y sylwedd sodiwm hydrocsid wedi llosgi’r gadair a’r lledr yn toddi, clywodd y llys.
- Cyhoeddwyd25 Medi
- Cyhoeddwyd19 Awst
Cafodd Mr Riley gymorth ac aeth i'r ysbyty lle cafodd driniaeth ar gyfer llosgiadau cemegol difrifol.
Mewn datganiad a ddarllenodd ei fargyfreithiwr ar ei ran, dywedodd Mr Riley ym mis Hydref fod ei “fywyd mewn limbo” yn dilyn yr ymosodiad ddeufis yn ôl.
“Mae fy ngallu i fod yn annibynnol wedi ei gymryd oddi arnaf, yn greulon. Dwi ddim teimlo'n ddiogel mwyach.
"Dyw fy ngolwg ddim wedi dychwelyd. Mae gen i olion llosg a chreithiau o hyd.
“Ni fydd ef [Dean] byth yn gwybod faint o boen y mae wedi’i achosi i fi a fy nheulu. Mae wedi difetha fy mywyd.”
Cafodd Dean ei arestio deuddydd yn ddiweddarach yn ardal Llanelli, ac roedd profion a gafodd eu cynnal ar ei ddillad yn dangos olion sodiwm hydrocsid, sef y sylwedd a gafodd ei ddefnyddio i ymosod ar Mr Riley.
Ar ran yr amddiffyniad, dywedodd y bargyfreithiwr Richard Ace, fod Dean yn “anaeddfed” ac nad oedd ganddo unrhyw gymwysterau ar ôl cael ei addysgu gartref.
Roedd yn derbyn y byddai’r ddedfryd yn “sylweddol” ond awgrymodd y dylid ystyried “diffyg hanes troseddol” y diffynnydd.
Dywedodd y barnwr Geraint Walters fod ffeithiau’r achos yn “wirioneddol ysgytwol”.
“Fe ddaethoch chi â sodiwm hydrocsid, gan fwriadu ei ddefnyddio ar wyneb eich dioddefwr,” meddai wrth Dean.
“Yr argraff rydw i’n ei gael yw eich bod chi wedi’ch plesio… na fyddai unrhyw bartner byth eisiau edrych arno eto.
“Mae’r malais yn mynd y tu hwnt i ddirnadaeth. Dydych chi ddim wedi dangos unrhyw edifeirwch o gwbl am yr hyn a wnaethoch.”
Dedfrydodd Dean i 15 mlynedd o garchar, yna pedair blynedd ar drwydded, a rhoddwyd gorchymyn atal gydol oes iddo rhag cysylltu â Mr Riley.
Dywedodd Craig Harding o Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru fod ymosodiad Dean yn gwbl “ddideimlad”.
“Rydym yn gobeithio y bydd adferiad Mr Riley yn parhau ac y gall gael cysur o wybod bod ei ymosodwr wedi’i roi o flaen ei well.”