Angen i Jane Dodds 'ystyried ei rôl' gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol
- Cyhoeddwyd
Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey, mae’n rhaid i arweinydd Cymreig ei blaid “fyfyrio” dros y modd y gwnaeth hi ddelio ag achos o gam-drin rhywiol pan oedd hi'n gweithio i Eglwys Loegr.
Mae adroddiad yn 2021 wedi canfod bod Jane Dodds AS, sy'n arwain y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, wedi gwneud "camgymeriad dybryd" drwy beidio trefnu cyfarfod i drafod achos penodol o gamdriniaeth.
Daw wedi i Archesgob Caergaint, Justin Welby, ymddiswyddo yr wythnos ddiwethaf am fethu a dweud wrth yr heddlu yn 2013 am droseddau rhyw John Smyth.
Mae Ms Dodds, unig Aelod Seneddol y blaid ym Mae Caerdydd, wedi derbyn bod "diffygion" ac yn dweud ei bod hi am barhau yn ei rôl.
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd25 Mai 2024
Roedd Syr Ed Davey yn trafod y mater ar raglen BBC Sunday with Laura Kuenssberg.
Pan ofynnwyd iddo a ddylai Ms Dodds i gamu i lawr, dywedodd bod angen iddi "fyfyrio ar hyn yn ofalus iawn" a "meddwl am beth arall y gallai fod angen iddi ei wneud".
Mae Jane Dodds wedi ei chyhuddo i fethu a threfnu cyfarfod am achos o gam-drin person gafodd ei datgelu yn adroddiad A Betrayal of Trust yn 2021.
Fe wnaeth yr adroddiad yma ddatgelu bod y cyn-esgob Hubert Victor Whitsey, fu farw yn 1987, wedi gam drin pobl ifanc yn rhywiol.
Ychwanegodd Syr Ed Davey: "Rwy'n derbyn ei bod wedi ymddiheuro, ond mae hwn yn fater mor ddifrifol.
“Rwy'n credu bod angen iddi feddwl am beth arall y gallai fod angen iddi ei wneud.
"Rydw i wedi gwneud fy nheimladau'n glir iawn iddi am yr hyn rwy'n credu y dylai hi ei wneud ac rwy'n credu ei bod hi'n myfyrio. Gobeithio y bydd hi'n gwneud hynny."
Mewn cyfweliad ar wahân ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales, dywedodd Ms Dodds yr oedd hi'n hyderus y byddai hi yn parhau yn ei rôl tan ar ôl etholiadau nesaf Senedd Cymru yn 2026.
'Hyder i barhau yn y rôl'
Mewn datganiad, dywedodd Ms Dodds ei bod hi wedi penderfynu i barhau yn y rôl fel Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
"Yn dilyn sgwrs ffôn gydag Ed Davey, siaradais yn uniongyrchol â chydweithwyr lleol y blaid a chwrdd â Bwrdd Cymru, sydd wedi mynegi eu hyder yn fy arweinyddiaeth.
"Rwyf wedi gwneud amddiyffyn plant yn rhan o fy ngwaith bywyd, ar ôl gweithio yn y maes am dros ugain mlynedd cyn mynd i mewn i wleidyddiaeth.
"Mae fy nghalon yn mynd allan i ddioddefwyr y gamdriniaeth erchyll hon. Fel y manylwyd yn yr adroddiad hwn, gweithiais yn agos gyda'r awdurdodau.
“Fe wnes i dderbyn ar y pryd fod diffygion wrth drefnu’r cyfarfodydd ac yn yr adroddiad roeddwn yn cydnabod y diffygion hyn.
"Rwy'n ymddiheuro i'r dioddefwyr am yr oedi y cyfrannodd hyn ato."
Dywedodd Tim Sly, Llywydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, bod y bwrdd wedi mynegi hyder yn arweinyddiaeth Ms Dodds.