Ymddiswyddiad Welby i gael effaith ar waith yr eglwysi?
- Cyhoeddwyd
Fe allai ymddiswyddiad Archesgob Caergaint effeithio ar genhadaeth eglwysi, yn ôl un o offeiriaid Eglwys Loegr.
Ond dywedodd y Parchedig Ariadne van de Hof - fu'n gwasanaethu yn ardal Blaenau Ffestiniog am gyfnod - mai'r hyn sy'n bwysig yw'r dioddefwyr.
Nododd adolygiad annibynnol damniol diweddar y gallai - ac y dylai - Justin Welby fod wedi dweud wrth yr heddlu yn 2013 am droseddau rhyw John Smyth.
Dywed yr adolygiad fod Smyth - a oedd yn fargyfreithiwr ac yn gyfrifol am wersylloedd Cristnogol plant - wedi cam-drin hyd at 30 o fechgyn yn y DU ac yna hyd 100 o fechgyn yn Zimbabwe a De Affrica. Bu farw yn 2018.
Yn dilyn pwysau cynyddol, fe ymddiswyddodd Mr Welby o'i rôl fel Archesgob Caergaint yr wythnos ddiwethaf.
Wrth siarad yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ar Radio Cymru dywedodd y Parchedig van de Hof ei bod yn credu "bod yr Archesgob Welby wedi 'neud y peth iawn ond dylai'r pwyslais fod ar y rhai a gafodd eu cam-drin".
"Dylid canolbwyntio ar bawb y mae Eglwys Loegr wedi methu â'u hamddiffyn," meddai'r Parchedig Ariadne van de Hof, sydd bellach yn offeiriad ar Eglwys Crist yn Shooter's Hill, Llundain.
"Be sy'n bwysig yw sicrhau bod yr eglwys yn lle saff a bod prosesau cadarn yn sicrhau hynny.
"Does gan yr Eglwys Loegr ddim prosesau digon cadarn ar hyn o bryd er eu bod yn well nag y buon nhw - rhaid gwella'r sefyllfa yn fwy dwi'n meddwl.
"Be 'dan ni isio rŵan ydy Archesgob newydd sy'n sicrhau bod Eglwys Loegr yn lle saff i bawb.
"Mae'n bwysig iawn i'r Eglwys wrando ar ddioddefwyr er mwyn gwneud y prosesau yn well ac yn saffach."
'Mae o wedi mynd o'r diwedd'
"Fy ymateb cyntaf i oedd 'mae o [Welby] wedi mynd o'r diwedd'," meddai'r Parchedig Margaret Quayle sydd yn gweinidogaethu yn ardal Lerpwl.
"Ar un adeg roeddwn ni'n brifathrawes a 'tasai rhywbeth yn digwydd yn yr ysgol efo'r staff neu efo'r plant a finnau'n dweud 'o doeddwn i ddim yn gwybod' wel fy nyletswydd i oedd cael gwybod.
"Os oedd o wedi clywed rhywbeth - ei ddyletswydd o oedd mynd ar ôl y peth.
"'Dan ni'n dod i'r eglwys i fynd at Grist. Ddylai hyn ddim fod wedi digwydd. Mae Crist a'r eglwys yn fwy na hyn," ychwanegodd.
Mae dydd Sul, 17 Tachwedd yn Sul Diogelu, sy'n gyfle i gynulleidfaoedd wrando a siarad gyda’i gilydd am greu lleoedd sy’n fwy diogel i bawb.
Mae'r pwyslais eleni ar y rheidrwydd i siarad.
"Mae Dydd Sul Diogelu yn ffordd wych o hyrwyddo cymunedau eglwysig iach a diogel," meddai Julie Edwards, Swyddog Diogelu y Panel Diogelu Cydenwadol, sy'n trefnu'r digwyddiad.
"Mae diogelu wrth gwrs yn cynnwys gwaith papur a phrosesau penodol ond mae creu diwylliant gofalgar ac iach, lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel ac yn hyderus y bydd unrhyw bryderon, ymddygiad amhriodol neu ddifrïol neu gamddefnyddio awdurdod yn cael eu herio, wrth wraidd creu eglwys fwy diogel.
"Rydym yn gofyn i bob eglwys sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed, benodi cydlynwyr diogelu gwirfoddol, y mae eu rôl yn hollbwysig i wneud eu heglwys yn lle mwy diogel i bawb."
Ychwanegodd y Parchedig van de Hof bod Archesgob Caergaint yn "teimlo fel person pell iawn i'r plwyfolion" ond bod yr hyn sydd wedi digwydd "yn effeithio ar genhadaeth yr eglwys mae'n siŵr".
"Dwi'm yn meddwl bydd e'n effeithio ar bobl sy'n dod i'r eglwys yn aml ond dwi'n poeni am bobl sydd ddim yn dod i'r eglwys yn aml iawn."
Dywedodd hefyd y gallai'r broses o ddewis Archesgob newydd fod yn un hir a'i bod yn poeni y gallai hynny gael effaith ar bolisi 'Living in Love and Faith' Eglwys Lloegr, sy'n cynnwys trafodaethau ar agweddau yr eglwys at y gymuned LHDTC+.
Gwrandewch ar Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds