Cefnogwyr Caerdydd yn protestio yn erbyn perchennog y clwb

Cefnogwyr Caerdydd yn protestio Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
  • Cyhoeddwyd

Bu cannoedd o gefnogwyr clwb pêl-droed Dinas Caerdydd yn protestio ar strydoedd Treganna, Caerdydd, cyn y gêm ddarbi yn erbyn Abertawe brynhawn dydd Sadwrn.

Daeth y cefnogwyr ynghyd i brotestio yn erbyn bwrdd y clwb.

Roedd mwg glas i'w weld yn yr awyr, gyda'r cefnogwyr yn cario baneri ac yn galw ar y perchennog, Vincent Tan, i adael ei rôl.

Fe ddaeth y brotest i ben wrth brif fynedfa stadiwm Dinas Caerdydd, lle dangosodd y cefnogwyr eu teimladau cryfion ynghylch y modd y mae'r clwb wedi ei reoli yn ystod y degawd a mwy o dan berchnogaeth Tan.

Cafodd y cefnogwyr brynhawn i'w gofio, serch hynny, wrth i'r tîm roi cweir o dair gôl i ddim i Abertawe.

Pynciau cysylltiedig