Miloedd i elwa o ddeddf newydd sy'n gwella tegwch tipio
- Cyhoeddwyd
Bydd miloedd o staff sy’n gweithio mewn llefydd fel bwytai a siopau trin gwallt ar draws Cymru yn elwa o ddeddf newydd fydd yn sicrhau eu bod yn derbyn pob tip sy’n cael ei roi gan gwsmeriaid am wasanaeth da.
Ar hyn o bryd, pan mae cwsmer yn ychwanegu tip at daliad cerdyn mae’r cwmni yn gallu dewis i gadw’r arian yn hytrach na’i drosglwyddo i staff.
Mae tip arian parod yn eiddo i’r staff yn syth.
Yn 2021 dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod 80% o’r holl dipio bellach yn digwydd gyda cherdyn, gan awgrymu fod hyn wedi’i gwneud hi’n haws i fusnesau gadw’r arian.
Bydd deddf newydd – fydd yn dod i rym yn yr hydref – yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i fusnesau beidio pasio'r tipiau ymlaen i’w staff.
Mae disgwyl i filoedd o bobl yng Nghymru elwa o’r newid, a dros ddwy filiwn o weithwyr ar draws y Deyrnas Unedig.
Yn ôl Dr Robert Bowen – darlithydd busnes ym Mhrifysgol Caerdydd – fe allai’r newid fod yn hwb i’r sector lletygarwch.
“Mae tua £200m yn mynd i gael eu dyrannu allan mewn tipiau - dyna beth mae’r ymchwil yn dangos gan y llywodraeth - felly mae hwnna yn swm eitha' sylweddol.
"Wi’n credu y peth mwyaf pwysig yw bod y bobl sy’n gweithio yn y swyddi sydd yn derbyn tipiau, fel yn y diwydiant lletygarwch er enghraifft, mae hyn yn mynd i roi mwy o sicrwydd iddyn nhw.
"Ers Covid mae swyddi fel hyn wedi bod yn llai deniadol i rai pobl, felly mae cael mwy o arian trwy tipiau yn mynd i roi mwy o hwb i bobl weithio yn y diwydiant.”
'Gwella tegwch i weithwyr'
O dan y drefn newydd fe fydd cod ymddygiad ar dipio teg a thryloyw yn dod yn weithredol – bydd hyn yn rhoi’r hawl i weithwyr weld polisi tipio eu cyflogwr a chofnod o faint o dipiau sy’n cael eu rhoi.
Hefyd, fe fydd y cod ymddygiad yn statudol a bydd modd i staff ei ddefnyddio fel tystiolaeth mewn tribiwnlysoedd cyflogaeth.
Mae’r cod yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban ac mae’n dod o fewn cwmpas y Ddeddf Cyflogaeth (Dyrannu Tipiau) 2023.
Mae disgwyl i’r ddeddf a’r cod ddod i rym ar 1 Hydref.
Yn ôl y cod ymarfer, amcan y ddeddf newydd yw “gwella tegwch i weithwyr trwy sicrhau bod y tipiau y mae cwsmeriaid yn gadael i gydnabod gwasanaeth da a gwaith caled yn mynd at y gweithwyr fel y bwriadwyd".
"Nod y ddeddf yw cynyddu tegwch mewn arferion tipio a chreu chwarae teg i gyflogwyr sydd eisoes yn dyrannu pob tip i weithwyr drwy sicrhau bod pob cyflogwr yn dilyn yr un rheolau.”
Mae bwyty Baravin ar bromenâd Aberystwyth yn derbyn taliadau trwy gerdyn yn unig – mae cwsmeriaid yn gallu ychwanegu tip wrth dalu, ac mae gan y busnes system sy’n rhannu tips rhwng y staff ar ddiwedd bob mis.
Dywedodd Gareth Evans, rheolwr a chyd-berchennog y bwyty: “Ni wastod wedi gwneud yr un peth – mae’r tips i gyd yn mynd mewn i un pot, ac mae hwnna yn cael ei rannu mas rhwng yr holl staff, o flaen y tŷ a’r cefn.
"Mae’n cael ei rannu mas gan ddibynnu ar faint o oriau mae staff wedi gweithio.
“I ni, pan mae taliad o gerdyn yn mynd trwy’r til mae botwm ar wahân [ar gyfer tip] felly mae’n cael ei logio ar wahân i’n sales ni ar gyfer bwyd a diod.
"Ar ddiwedd y mis, ni’n cyfri' hynny i gyd lan ac mae’n cael ei rannu mas.”
Ychwanegodd Mr Evans ei fod wedi clywed am rai busnesau sy’n cadw tips ac yn synnu bod angen deddf i atal hynny.
“Dwi’n meddwl ei bod hi’n anhygoel bod rhaid i hyn fod yn rheol ac yn gyfraith – mae unrhyw fusnes sy’n cadw arian bant o’i staff, mae’n hollol annheg, a dwi ddim yn meddwl y dylai unrhyw un allu gwneud hynny.”
Mae Amber Blair wedi gweithio yn y bwyty ers 2021, gan wneud shifftiau rhan amser fel arfer, ond bob dydd dros wyliau’r haf.
Dywedodd hi bod y tips yn bwysig iddi hi: “Mae’n rili bwysig i helpu i annog pobl i weithio’n dda ac mae’n helpu’r wage hefyd.
"Yn ystod yr haf ni’n gallu cael £50 [mewn tips] am y mis, sy’n gwneud gwahaniaeth mawr.”
Ar y stryd yn Aberystwyth roedd pobl yn gefnogol i’r newid i’r ddeddf ac yn awyddus i weld staff yn derbyn y tips yn llwyr.
Dywedodd Dyfan Havard ei fod yn rhoi tip os yw'n teimlo bod staff wedi gwneud gwaith da.
“Dwi’n meddwl bod y newid i’r rheolau yn dda. Sai’n deall pam dylai’r cwmnïau gadw fe – wi’n teimlo bod yr unigolyn wedi haeddu fe, maen nhw wedi gweithio’n galed a felly dylen nhw gadw fe.”
Mae gan Haf ap Robert a’i gŵr Joe Mitchell blant sydd wedi gweithio yn y sector lletygarwch.
Dywedodd Haf: “Mae’r plant wedi dod adre a chyfeirio at faint o dips maen nhw wedi cael, a dwi’n gwybod pa mor bwysig yw e.
"A dwi’n cofio fy hun pa mor bwysig oedd cael tips, felly dw i’n trio tipio bob tro dwi’n cael pryd o fwyd allan.”
Ychwanegodd Joe bod Haf yn fwy hael na fe wrth "roi cildwrn bach", gan ddweud hefyd: “Cyn belled bod y staff yn gwybod hefyd bod pawb i fod cael yr un driniaeth ynde.
"Bod nhw ddim yn rhoi triniaeth arbennig dim ond i rywun sy’n tipio’n dda!”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2022