O'r 'Steddfod i'r Coroni: 5 uchafbwynt gyrfa Syr Bryn Terfel

Bryn Terfel mewn cyfnodau gwahanol o'i fywyd
  • Cyhoeddwyd

Gyda Syr Bryn Terfel yn rhagweld y bydd yn ymddeol o’r byd canu opera o fewn y ddwy neu dair blynedd nesaf, Cymru Fyw sy’n edrych ar rai o uchafbwyntiau ei yrfa hyd yma.

Ac fel mae’r fideos yma yn ei ddangos mae wedi bod yn dipyn o daith - o ddisgybl ysgol yn canu ar faes yr Eisteddfod cyn i’w lais bariton-bas enwog ddatblygu, i ganu yng nghoroni’r Brenin Charles gyda miliynau yn gwylio.

O 'steddfod i 'steddfod

Disgrifiad,

Y Bryn Terfel ifanc yn canu ar faes Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1978

Fel gyda chymaint o berfformwyr Cymraeg, yn yr eisteddfod ddechreuodd y daith.

Wedi ei fagu ar fferm mewn cymuned Gymraeg yn Nyffryn Nantlle, does ryfedd bod y Bryn Terfel ifanc wedi cael profiad cynnar o fod ar y llwyfan mewn eisteddfodau, a chael llwyddiant fel mae'r clip uchod yn ei ddangos.

Yr uchafbwynt iddo oedd ennill Gwobr Osborne Roberts, Y Rhuban Glas, i rai o dan 25 oed yn Eisteddfod Porthmadog yn 1987. Roedd Bryn Terfel yn 22 oed ac yn astudio canu yn y Guildhall yn Llundain ac mae'r canwr wedi sôn sut roddodd y llwyddiant hyder iddo ac yntau ar fin cychwyn gyrfa yn y byd opera.

Dyma oedd y tro olaf iddo gystadlu yn yr Eisteddfod, ond mae’r cysylltiad yn parhau - mewn perfformiadau yng nghyngherddau’r Brifwyl a’r Urdd, fel aelod yr Orsedd ers 1992 ac fel sylfaenydd Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel i berfformwyr ifanc.

BBC Canwr y Byd Caerdydd

Disgrifiad,

Daeth y llais bariton-bas yn fwy adnabyddus diolch i'r perfformiad yma yng Nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd yn 1989

Ddwy flynedd ar ôl ennill un o brif wobrau’r Brifwyl gyda'r Rhuban Glas, roedd nifer o bobl tu hwnt i Gymru hefyd yn dechrau clywed am yr enw Bryn Terfel.

Mae cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd, sefydlwyd yn 1983, yn cael ei gydnabod fel un o brif wobrau’r byd canu opera. Ac roedd 1989 yn flwyddyn i’w chofio, yn enwedig ‘Brwydr y Baritonau’ rhwng Bryn Terfel a’r diweddar Dmitri Hvorostovsky.

Y gŵr o Rwsia gipiodd y brif wobr a’r dyn o Bant-glas gipiodd y wobr Lieder, ac aeth y ddau ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus iawn.

Gŵyl y Faenol

Disgrifiad,

Bryn Terfel oedd yn gyfrifol am drefnu Gŵyl y Faenol rhwng 2000 a 2009

Andrea Bocelli, Shirley Bassey, Van Morrison, Jools Holland… mae’r rhain i gyd wedi perfformio mewn cae dafliad carreg o’r Felinheli diolch i'r Cymro gafodd ei fagu 15 milltir i ffwrdd.

Am ddegawd o 2000 ymlaen, roedd Gŵyl y Faenol - neu Brynfest - yn denu enwau mawr o’r byd opera, canu poblogaidd a’r byd canu pop Cymraeg dros benwythnos gŵyl y banc mis Awst.

Daeth yr ŵyl i ben wrth i ddiddordeb bylu, ond am nifer o flynyddoedd fe gafodd degau o filoedd y profiad o fwynhau picnic yn Stad y Faenol, waeth beth oedd y tywydd, wrth wylio perfformiadau gan gerddorion byd enwog.

Mozart, Wagner a Verdi

Disgrifiad,

Bryn Terfel yn perfformio mewn cynhyrchiad o Die Walküre gan Richard Wagner

Trwy gydol ei yrfa mae Syr Bryn wedi dangos parodrwydd i ganu gwahanol fathau o gerddoriaeth - ac mae'n canu deuawd efo Sting ar ei albwm diweddaraf - ond wrth gwrs ym myd yr opera mae o wedi serennu.

Anodd dewis un perfformiad gan ei fod wedi chwarae cymaint o’r prif rannau sydd ar gael i’r llais bariton-bas yn ystod ei yrfa, a hynny ar lwyfannau opera enwog mewn dinasoedd fel Efrog Newydd, Milan, Paris a Llundain.

Hyd yn oed yn nyddiau cynnar ei yrfa, roedd sôn y byddai'r canwr o Bant-glas rhyw ddydd yn datblygu i fod yn fariton-bas gyda’r gallu i berfformio rhai o rannau anoddaf operâu Wagner, yn cynnwys y cymeriad Wotan - ac fe lwyddodd i wneud hynny am y tro cyntaf yn 2004.

Ar raglen Bore Sul dywedodd Syr Bryn bod ei yrfa fel canwr opera yn debygol o ddod i ben yn weddol fuan. Bydd nifer yn gobeithio bod hyn yn rhyddhau amser fydd yn arwain at brosiectau cerddorol eraill.

Coroni Charles III

Disgrifiad,

Bryn Terfel yn canu yn seremoni goroni’r Brenin Charles

Pan berfformiodd Syr Bryn yn Abaty Westminster ar 6 Mai, 2023 roedd o’n creu hanes fel y person cyntaf i ganu mewn seremoni Coroni yn y Gymraeg.

Roedd tua 20 miliwn yn gwylio’r Tywysog Charles yn cael ei goroni’n Frenin Charles III yn fyw ar y teledu, ac mae 400 miliwn wedi gwylio’r digwyddiad ar draws y byd.

Roedd Syr Bryn yn canu darn y cyfansoddwr Cymreig Paul Mealor Kyrie Eleison, a bu hefyd yn rhan o’r dathliadau mewn cyngerdd yng Nghastell Windsor y diwrnod canlynol yn canu deuawd gydag Andrea Bocelli.

Pynciau cysylltiedig