Oriel: Plygain Llanerfyl 2024

Triawd Plygain
  • Cyhoeddwyd

Mae'n hen draddodiad Nadoligaidd sydd wedi ei gynnal yn ddi-dor mewn rhai ardaloedd o Gymru ers cenedlaethau.

Mae gwasanaeth y Plygain, lle mae pobl yn cymryd eu tro i ganu carolau digyfeiliant o flaen y gynulleidfa, wedi cael adferiad yn ddiweddar - ond wedi parhau yn gryf dros y blynyddoedd yn ardal Sir Drefaldwyn.

Ar ddydd Sul cynta'r flwyddyn bydd Eglwys Sant Erfyl, Llanerfyl, yn agor ei drysau i'r gwasanaeth ac fel sy'n amlwg o'r lluniau yma eleni mae'n ardal sy'n dal i fod yn gadarnle i'r Plygain.

Disgrifiad o’r llun,

Tra bod y ffordd drwy Lanerfyl yn dawel ar nos Sul, 7 Ionawr, mae Eglwys Sant Erfyl yn dechrau llenwi

Disgrifiad o’r llun,

Cyfle am sgwrs a dal i fyny cyn y gwasanaeth

Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl gweddi a chanu carol gynulleidfaol, mae'r carolwyr yn dod ymlaen i ganu

Disgrifiad o’r llun,

Roedd unigolion, deuawdau, triawdau a phartïon yn canu yng ngwasanaeth Llanerfyl

Disgrifiad o’r llun,

Does dim trefn benodol i'r gwasanaeth, ond mae'r pwyslais ar ganu carolau traddodiadol Cymraeg - a hynny'n ddigyfeiliant. Yn ôl confensiwn does dim cymeradwyo ar ddiwedd unrhyw garol, sy'n adlewyrchu'r ffaith mai gwasanaeth ac nid cyngerdd ydi'r Plygain

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl traddodiad, does neb yn canu carol sydd eisoes wedi ei chanu yn ystod y gwasanaeth - felly mae nifer yn paratoi stoc o ganeuon o flaen llaw, ac mae llyfrau carolau yn gallu bod yn fuddiol iawn

Disgrifiad o’r llun,

Gall unrhywun godi a chanu mewn Plygain, o berson sydd erioed wedi canu nodyn o flaen cynulleidfa o'r blaen i gerddorion proffesiynol fel y gantores a'r delynores Siân James, sy'n dod o Lanerfyl

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Plygain yn cloi gyda'r dynion yn canu Carol y Swper, cyn i bawb fynd dros y ffordd i'r neuadd bentref am baned a rhywbeth i'w fwyta