Yr AS Ceidwadol Russell George yn rhoi'r gorau i fod yn ymgeisydd

Russell George
Disgrifiad o’r llun,

Mae Russell George yn un o 15 o bobol sydd wedi'u cyhuddo

  • Cyhoeddwyd

Mae aelod Ceidwadol o'r Senedd sydd wedi ei gyhuddo o droseddau betio yn ymwneud â'r etholiad cyffredinol y llynedd wedi rhoi'r gorau i fod yn ymgeisydd ar gyfer yr etholiad nesaf i'r Senedd.

Mae Russell George ymysg 15 o bobl sydd wedi cael eu cyhuddo gan y Comisiwn Hapchwarae.

Roedd Mr George wedi cael ei ddewis yn gynharach y mis hwn i fod yn ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer sedd newydd Gwynedd Maldwyn yn etholiad y Senedd yn 2026, ond dywedodd ei fod yn tynnu'n ôl o restr y Torïaid er mwyn "canolbwyntio ar frwydro i glirio fy enw".

Yr wythnos ddiwethaf cafodd ei wahardd o grŵp y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru o ganlyniad i'r cyhuddiad.

'Sioc'

Mae'r cyn-AS Craig Williams a Thomas James, 38, o Aberhonddu, sef cyfarwyddwr y Ceidwadwyr Cymreig, ymysg 15 o bobl sydd wedi cael eu cyhuddo gan y Comisiwn Hapchwarae.

Cafodd ymchwiliad ei lansio y llynedd yn dilyn betiau a roddwyd ar amseriad etholiad cyffredinol 2024.

Ar Facebook dywedodd Russell George ei fod wedi cael "sioc" o glywed ei fod yn "wynebu cyhuddiadau am dwyllo".

"I fod yn glir, nid wyf erioed wedi twyllo," meddai.

"Fodd bynnag, o ystyried penderfyniad y Comisiwn Hapchwarae, a'm dealltwriaeth o'r hyn a fydd yn dilyn, mae hon yn debygol o fod yn broses hir na chaiff ei datrys o bosib erbyn mis Mai 2026.

"O dan yr amgylchiadau, rwy'n teimlo nad oes dewis arall gennyf ond tynnu fy ymgeisyddiaeth yn ôl ar gyfer etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf er mwyn i mi allu canolbwyntio ar frwydro i glirio fy enw.

"Byddaf wrth gwrs yn parhau i wasanaethu pobl Maldwyn hyd eithaf fy ngallu."

Bydd y 15 sydd wedi eu cyhuddo yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ym mis Mehefin.