Arestio tri o fechgyn ar ôl bygwth staff ysgol

Cymuned Ddysgu AbertyleriFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Mae tri o fechgyn yn eu harddegau wedi cael eu harestio ar ôl mynd i mewn i ysgol heb ganiatâd a bygwth staff.

Dywedodd Heddlu Gwent fod y bechgyn wedi mynd i mewn i Gymuned Ddysgu Abertyleri ym Mlaenau Gwent tua 08:45 fore Llun.

Cafodd y llu eu galw wedi iddyn nhw fygwth aelodau staff a rhoi'r larwm tân ymlaen.

Mae'r bechgyn - dau 15 oed ac un 14 oed - wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi cythrwfl (affray) ac achosi difrod troseddol.

Pynciau cysylltiedig