Treth twristiaeth yn peryglu cyfleoedd i bobl ifanc - Sgowtiaid

Mi allai cynlluniau am dreth twristiaeth beryglu cyfleoedd i bobl ifanc, meddai'r SgowtiaidFfynhonnell y llun, Adrian Williamson
Disgrifiad o’r llun,

Mi allai cynlluniau am dreth twristiaeth beryglu cyfleoedd i bobl ifanc, meddai'r Sgowtiaid

  • Cyhoeddwyd

Gallai pobl ifanc yng Nghymru golli allan ar gyfleoedd arbennig i wella eu bywydau os bydd cynlluniau am dreth twristiaeth yn parhau, yn ôl mudiad y Sgowtiaid yng Nghymru.

Byddai cynlluniau Llywodraeth Cymru'n golygu codi 75c ar bawb sy'n aros mewn hosteli a meysydd gwersylla, a £1.25 am aros mewn gwestai, a hynny erbyn 2027.

Nod y llywodraeth ydy rhoi'r hawl i gynghorau sir weithredu'r cynllun os ydyn nhw'n dymuno, gyda'r gobaith y byddai'r arian yn cael ei ail-fuddsoddi i wella adnoddau ar gyfer twristiaeth a phobl leol.

Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod yn deall "cyfraniad pwysig" twristiaeth i economi Cymru, a'u bod am "sicrhau ei gynaliadwyedd hirdymor".

Ffynhonnell y llun, Adrian Williamson
Disgrifiad o’r llun,

Y cynnig ydy i godi 75c ar bawb sy'n aros mewn hosteli a meysydd gwersylla, a £1.25 am aros mewn gwestai

Ond mae gan nifer o sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc bryderon am y cynllun.

Mae sefydliad y Sgowtiaid - sy'n gwasanaethu 14,000 o bobl ifanc rhwng pedwar a 25 oed - yn galw am gael eu heithrio o'r cynllun gan ddweud nad yw'n gwahaniaethu rhwng busnesau preifat masnachol a sefydliadau sy'n dibynnu'n helaeth ar wirfoddolwyr.

Mi fyddai'r dreth yn cynnwys pob arhosiad dros nos ac yn bwgwth codi costau aros o 25%, yn ôl y Sgowtiaid.

Ar hyn o bryd maen nhw'n codi tua £3 neu £4 y noson ar bobl ifanc i gael aros mewn neuaddau, i fod yn fforddiadwy i deuluoedd.

'Peryglu carreg filltir pobl ifanc'

Dywedodd Rhian Moore, prif swyddog gwirfoddoli'r Sgowtiaid yng Nghymru: "Mae'r profiad syml o gael aros dros nos yn rhywle yn eu cymuned fel sgowt yn aml y profiad cynta' mae plant yn ei gael o fod oddi cartref am y tro cynta' ac mae'r garreg filltir yma mewn perygl os bydd 'na gostau ychwanegol."

Ychwanegodd Kerrie Gemmill, prif swyddog ScoutsCymru: "Mae'n hadnoddau yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr a dydy o ddim yn gwneud synnwyr i roi'r un rheolau i neuaddau sgowtiaid ag sydd na i westai masnachol.

"Mi fyddai'r lefi yn cael ei godi os byddai sgowtiaid yn aros mewn neuadd neu mewn neuadd eglwys o fewn eu cymuned… does bosib mai dyna oedd pwrpas y cynllun."

Disgrifiad o’r llun,

Ni ddylai plant ar dripiau ysgol dalu'r dreth, meddai Ed Jones

Mae Ed Jones yn rhedeg canolfan addysg awyr agored Rhos y Gwaliau ger Y Bala.

Mae'r rhan fwyaf o'r tua 2,000 o blant sy'n ymweld â'r ganolfan yn flynyddol yn dod o Loegr a Berkshire yn benodol, meddai Mr Jones.

"Dwi ddim yn meddwl bod y tourist tax yn beth drwg yn hollol ond dwi ddim yn meddwl dylai bod plant yn talu yn enwedig os ma' nhw'n mynd am drip trwy'r ysgol - tydi o ddim yn gwneud sense i mi."

Dywedodd Mr Jones fod 60 o blant wedi aros yn y ganolfan am yr wythnos, a'i fod o wedi gallu codi pris cystadleuol ar yr ysgol am y gwasanaeth.

"Roedd hynna'n tua £300 i'r ysgol ffeindio a bydd canolfannau yn Lloegr ddim yn chargio hynny so fyddan ni ddim yn competitive.

"Mae'r rhan fwyaf o'r plant yn dod atom ni o Loegr… de ni'n cael ysgolion o'r Bala yn dod a fel mae o byddan nhw yn talu hefyd 75 ceiniog y noson i aros yn yr un dre'.

"Am y wider implications hefyd os ma' plant yn mynd i ffwrdd i'r Eisteddfod bu nhw yn talu hefyd a'r Royal Welsh, tydi o ddim yn gwneud sense."

Ffynhonnell y llun, Adrian Williamson

Mae gan fudiad yr Urdd bryderon am y dreth newydd hefyd.

Dywedodd Ceren Roberts, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Caerdydd, bod y mudiad yn "croesawu'r dreth dwristiaeth a deall y pwrpas".

"Mae o'n rhywbeth de ni'n hapus iawn i dalu amdano pan mae'n dod i wyliau teulu neu benwythnosau rygbi fan hyn yng ngwersyll Caerdydd.

"Ond beth sydd yn poeni ni yw, ar hyn o bryd fel mae'n sefyll, mae'r sesiynau preswyl addysgol yn dod o dan y dreth ac fel llawer o wledydd yn Ewrop sydd yn codi'r trethi yma, tydi cyrsiau preswyl ddim yn rhan ohono fo.

"Mae plant yn aml iawn ddim yn gorfod talu felly de ni'n gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried gwneud yr un peth.

"Mae'r dreth yma yn mynd i gostio tua £77,000 i'r Urdd ac mae hynny yn golygu yn anffodus does dim modd i ni ysgwyddo'r costau yma ac mi fydd y costau yma yn cael eu pasio 'mlaen i'r plant sydd yn dod i'r gwersyll a de ni'n gwybod yn iawn fod 'na gynnydd mewn costau wedi bod o drafnidiaeth i fwyd."

Beth ydy'r buddion posib?

Mae Walis George o Gymdeithas yr Iaith yn cefnogi'r dreth yn gyffredinol.

"Mae'n hen bryd i rywbeth fel treth twristiaeth gael ei chyflwyno", meddai.

"Mae'n drefn sy'n bodoli mewn cymaint o wledydd a rhanbarthau ar draws cyfandir Ewrop ac mae rhywun yn gweld yn glir y buddion sy'n dod i'r ardaloedd yma, nid yn unig o ran gwella profiad ymwelwyr, ond hefyd y buddion i'r gymuned leol."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r cyngor wedi gwario yn ddiweddar iawn ar wella cyfleusterau parcio a lle i gerbydau aros dros nos yn Llanberis," meddai Mr George

Ychwanegodd Mr George: "Mae'r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn sôn yn amlwg am reoli a gwella cyfleusterau yn benodol ar gyfer ymwelwyr ond mae hefyd yn cynnwys camau i liniaru effeithiau ymwelwyr gan gynnwys cynnal a hybu'r Gymraeg, ac yn sicr fyddwn i yn awyddus iawn i weld awdurdodau lleol yn manteisio ar hynny fel bod y budd mwyaf yn dod i'r gymuned leol.

"Mae 'na esiamplau yma yng Ngwynedd, yn Llanberis lle mae'r cyngor wedi gwario yn ddiweddar iawn ar wella cyfleusterau parcio a lle i gerbydau aros dros nos.

"Mae'r gost yma wedi cael ei ysgwyddo yn llwyr gan y cyngor ei hun ond wrth gwrs mae 'na gostau cudd i'r diwydiant ymwelwyr yna yn Llanberis - mae gennyt ti grŵp o wirfoddolwyr yn mynd allan yn ddyddiol yn ystod tymor yr haf i hel ysbwriel oherwydd mae gwasanaethau'r cyngor yn annigonol ar hyn o bryd.

"A de ni hefyd wrth gwrs yn gweld yr effaith ar y farchnad dai yn lleol a'r cynnydd sydd wedi bod mewn ail gartrefi a llety gwyliau.

"Mae 'na fwy na 360 o dai Dyffryn Peris yn y categori yma ac mae 'na fwy na 180 o geisiadau ar y gofrestr tai ar gyfer tai cymdeithasol ym mhentref Llanberis yn unig."

'Osgoi cymhlethdod'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru ac i fywyd Cymru. Rydym am sicrhau ei gynaliadwyedd hirdymor.

"Rydym wedi cymryd dull teg a syml o gymhwyso'r lefi. Mae'r Bil yn cynnig cadw cyfraddau'n isel, gan osgoi'r angen am eithriadau pellach a fyddai'n ychwanegu cymhlethdod i ddarparwyr ac ymwelwyr.

"Fel y nodir yn y Bil, byddai'n rhaid i unrhyw arian a godir gael ei ail-fuddsoddi yn yr ardal leol i ddarparu a gwella gwasanaethau i ymwelwyr a thrigolion."