Menyw â ffeibrosis systig yn torri record byd wrth rwyfo'r Iwerydd

Sophie (ail o'r chwith) yn dathlu gyda gweddill y criw ar ôl torri record byd
- Cyhoeddwyd
Mae menyw sy'n byw â chyflwr genetig sy'n effeithio ar ei gallu i anadlu wedi torri record byd ar ôl rhwyfo Cefnfor Iwerydd.
Sophie Pierce, 32, o Glwb Rhwyfo Neyland yn Sir Benfro yw'r person cyntaf â ffibrosis systig i gwblhau'r her.
Fe wnaeth y tîm o bedair ddechrau'r siwrne 3,200 milltir o Lanzarote i Antigua ym mis Ionawr, ac fe gyrhaeddon nhw ben y daith nos Iau, wythnos yn gynt na'r disgwyl.
Mae'r daith weid bod yn "hynod o heriol", dywedodd Sophie.
"Tasech chi wedi dweud wrtha' i bum mlynedd yn ôl y byddwn i'n sefyll yma yn Antigua ar ôl rhwyfo cefnfor, byddwn i wedi chwerthin," meddai.

Dywedodd Sophie wrth BBC Cymru cyn dechau'r her ei bod yn benderfynol o wneud y gorau o'i hamser ar ôl sylweddoli y gallai ei salwch gyfyngu ar ei bywyd.
"Rwy'n gobeithio y bydd yr her nid yn unig yn ysbrydoli pobl eraill sydd â ffibrosis systig i wthio ffiniau ond hefyd yn help i ail-ddychmygu'r dyfodol," ychwanegodd.
"Lle, gyda'r gofal a'r gefnogaeth gywir, y bydd pobl sydd â'r cyflwr yn gallu mynd ymlaen i gyflawni anturiaethau sydd tu hwnt i'w breuddwydion."

Roedd Sophie Pierce, ar un adeg, yn ofni na fyddai'n byw i weld ei phen-blwydd yn 30 oed
Dywedodd Janine Williams, 70, sydd hefyd wedi torri record byd o fod y person hynaf i rwyfo cefnfor, ei bod wedi bod yn "antur oes".
"Roedd pobl yn gofyn o hyd a oeddwn i'n poeni am rwyfo yn 70 oed, ond doeddwn i byth yn amau y gallwn i," dywedoddd, "dy'ch chi byth yn rhy hen."
Ymunodd dau aelod arall o'r tîm â nhw, Polly Zipperlen, 50 a Miyah Periam, 24, ac maen nhw wedi codi £20,000 i'w helusennau.
Dywedodd Miyah ei fod yn "anoddach nag y dychmygodd hi erioed" ac ychwanegodd Polly fod y cefnfor "wedi eu herio [nhw] ym mhob ffordd bosib".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr