'Ro'n i'n paratoi i farw - nawr rwy'n rhwyfo'r Iwerydd'
- Cyhoeddwyd
Cafodd Sophie Pierce ddiagnosis o ffeibrosis systig pan yn fabi bach, ond aeth ati o ddifri' i ymchwilio i'w chyflwr ymhellach pan oedd hi yn ei harddegau - yn ystod un o'i hymweliadau arferol â'r ysbyty.
"Chwiliais ar y we a darganfod mai dim ond hyd at ei 30au cynnar oedd disgwyl i berson â ffeibrosis systig fyw - roedd hynny'n sioc," meddai.
O sylweddoli y gallai farw'n gynnar oherwydd y cyflwr genetig, penderfynodd Sophie y byddai'n ceisio llenwi ei bywyd â chymaint o brofiadau â phosib.
"Os nad o'n i'n mynd i fod yma am yn hir iawn - ro'n i'n benderfynol o wneud y mwyaf o'r amser oedd gen i ar ôl," meddai.
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2019
Llwyddodd i ddringo Kilimanjaro - mynydd uchaf Affrica - a cherdded Clawdd Offa a Wal Hadrian.
Ond erbyn iddi gyrraedd canol ei 20au a chyda'i hysgyfaint yn dirywio, roedd Sophie'n cael tipyn o drafferth.
"Aeth pethau'n llawer anoddach, o'n i'n colli'n anadl er 'mod i'n cael mwy o driniaethau," meddai.
Ar ei gwaethaf disgynnodd lefel gweithrediad ysgyfaint Sophie i 55%.
"Ro'n ni'n cael ffisiotherapi am ddwy awr bob dydd, yn cymryd dros 30 o dabledi ac yn mynd i'r ysbyty bob mis - ond roedd fy nghorff yn dal i ddioddef."
Fe newidiodd pethau bum mlynedd yn ôl pan gafodd Sophie wahoddiad gan Ganolfan Ffeibrosis Systig Oedolion Cymru Gyfan i gymryd rhan mewn treial clinigol o gyffur newydd.
Fe dderbyniodd Sophie y cynnig heb feddwl ddwywaith.
"Ffonies i'r ysbyty ac roeddwn i'n ffodus iawn i gael y lle olaf ar y treial," meddai.
Er nad oedd hi'n gwybod a oedd hi wedi derbyn y cyffur neu blasebo - dywedodd Sophie iddi sylwi gwahaniaeth yn syth.
"Ar y ffordd adref - dwi'n cofio teimlo rhywbeth yn newid yn fy mrest ond tybies i mai dychmygu oeddwn i.
"Ond [yna] treuliais y 24 awr nesaf yn pesychu allan yr hyn oedd yn teimlo fel 27 mlynedd o fwcws o'n ysgyfaint.
"Roedd e'n erchyll... ond y gwir yw, prin ydw i wedi pesychu ers hynny!"
Ar ôl derbyn y cyffur newydd fe gynyddodd gweithrediad ei hysgyfaint o 55% i 71% a sefydlogodd ei hiechyd, gan olygu llai o ymweliadau i'r ysbyty.
O ganlyniad - a hithau yn rhwyfwr brwd, penderfynodd Sophie ymgymryd â'i her fwyaf eto - i fod yn y person cyntaf â ffeibrosis systig i hwylio cefnfor.
Paratoi ers tair blynedd
Ganol mis Ionawr bydd Sophie, 32, a thair menyw arall o Sir Benfro yn ceisio rhwyfo 3,200 o filltiroedd o Lanzarote i Antigua.
Mae'r her, fydd yn para hyd at 60 o ddiwrnodau, yn codi arian ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig a gwasanaethau hosbis.
Ond mae'r tîm wedi bod yn paratoi ers tair blynedd, gan wario degau o filoedd o bunnau yn prynu cwch ac yna ei addasu ar gyfer Sophie.
Mae hyn yn cynnwys gosod oergell arbennig ynddo i gadw meddyginiaethau ar y tymheredd cywir - mewn cwch sy'n dibynnu, i raddau helaeth, ar bŵer yr haul.
Mae tîm o arbenigwyr hefyd wedi addasu nebiwleiddwyr Sophie (sy'n caniatáu iddi anadlu meddygaeth) i sicrhau eu bod nhw'n gwrthsefyll dŵr y môr.
Ynghyd â threulio oriau ar y dŵr yn hyfforddi, mae Sophie wedi gorfod gwneud paratoadau penodol ei hun.
Ddechrau mis Rhagfyr fe dreuliodd hi bythefnos yng Nghanolfan Ffeibrosis Systig Oedolion Cymru Gyfan yn cael ffisiotherapi, meddyginiaethau gwrthfiotig a chyfres o brofion i sicrhau bod ei hysgyfaint mor iach â phosib cyn gadael.
Ond mae yna risg y gallai Sophie gael ei chymryd yn wael ar y cwch, fydd ar ei bwynt pellaf, 1,000 o filltiroedd o'r tir.
'Ein cymdogion agosaf fydd gofodwyr'
Mae Polly Zipperlen, nyrs sy'n gyd-aelod o'r criw, wedi cael hyfforddiant arbenigol gan y tîm Ffeibrosis Systig ar sut i ymateb petai hynny'n digwydd.
"Mi fydd yna adeg pan ein cymdogion agosaf fydd y gofodwyr ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol - 250 milltir i fyny," meddai.
"Fe fydd cyfathrebu rhwng y tîm yn hollbwysig.
"Sophie yw'r arbenigwr ar ei hiechyd ei hun a mater i Sophie fydd dweud nad ydy hi'n teimlo'n dda - 'mae angen i mi newid, gwneud llai o rwyfo, cymryd mwy o fwyd neu feddyginiaethau'.
"Ond fe fydd gennym gysylltiad â chriw ar dir hefyd allwn ni eu ffonio 24/7 os ydyn ni mewn trafferthion."
Beth yw Ffeibrosis Systig?
Ffeibrosis Systig yw'r cyflwr genetig mwyaf cyffredin sy'n peryglu bywyd yn y DU.
Mae'n effeithio ar allu celloedd i gludo halen a dŵr a all achosi mwcws gludiog i gronni.
Gall effeithio ar sawl organ ond yn enwedig ar yr ysgyfaint a'r system dreulio.
Mae symptomau fel arfer yn ymddangos yn ystod plentyndod a gallant amrywio.
Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn ôl arbenigwyr, mae yna "drawsnewidiad" wedi bod mewn triniaethau a'r rhagolygon i lawer o gleifion.
Yn ôl Dr Jamie Duckers meddyg ymgynghorol yng Nghanolfan Ffeibrosis Systig Oedolion Cymru Gyfan, "yn y 1930au roedden nhw'n arfer dweud bod person â'r cyflwr wedi ei eni eisoes yn marw - ac yn aml byddai plant yn marw pan oedden nhw'n flwydd neu ddwy oed".
"Ond mae'r data diweddaraf yn awgrymu os ydych chi'n cael eich geni nawr gyda ffibrosis systig yn y DU mae disgwyl i hanner fyw i o leiaf 64 oed.
"Trwy fod ar y treial [ar gyfer y cyffur newydd] roedd gan Sophie fynediad cynnar [iddo], ond mae'r mathau yma o feddyginiaethau bellach ar gael ar gyfer 85-90% o gleifion yn y DU sy'n byw gyda'r cyflwr.
"Mae'n enghraifft wirioneddol o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy ymchwil."