Person wedi marw wedi tân mewn tŷ yng Nghonwy

Roedd Ffordd Bangor ar gau am gyfnod wedi'r digwyddiad brynhawn Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân yn ymchwilio ar ôl i berson farw mewn tân yn nhref Conwy ddydd Mercher.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Bangor am 15:41 yn dilyn adroddiadau o dân mewn eiddo yno.
Fe wnaeth swyddogion ddod o hyd i berson yn yr adeilad, a daeth cadarnhad yn ddiweddarach ei fod wedi marw.
Mae Heddlu'r Gogledd a Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd wedi lansio ymchwiliad i achos y digwyddiad.