Kpakio, 18, yr enw newydd yng ngharfan Cymru

Mae Ronan Kpakio wedi ennill capiau i dimau ieuenctid Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae prif hyfforddwr Cymru, Craig Bellamy, wedi enwi Ronan Kpakio, chwaraewr yn ei arddegau o Gaerdydd, yn ei garfan ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Mae'r cefnwr dde Kpakio, a gafodd ei ben-blwydd yn 18 oed wythnos yma, wedi'i gynnwys am y tro cyntaf ar ôl bod yn ymarfer gyda Chymru yn Sbaen fis yma.
Dim ond chwe ymddangosiad i dîm cyntaf Adar Gleision sydd ganddo i'w enw.
Mae Bellamy hefyd yn croesawu Ethan Ampadu a Harry Wilson yn ôl i'w garfan ar gyfer gemau yn erbyn Liechtenstein yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Gwener, 6 Mehefin ac yn erbyn Gwlad Belg ym Mrwsel y dydd Llun canlynol.
Cafodd capten Leeds United, Ampadu, 24, a chwaraewr canol cae ymosodol Fulham, Wilson, 28, eu hanafu ar gyfer gemau agoriadol yr ymgyrch fis Mawrth.
Mae'r capten Aaron Ramsey yn absennol unwaith eto oherwydd anaf.

Bydd cael Ethan Ampadu a Harry Wilson yn ôl yn y garfan yn hwb mawr i Bellamy
Mae Cymru yn ail yng Ngrŵp J ar ôl dechrau eu hymgais i sicrhau lle yng Nghwpan y Byd 2026 gyda buddugoliaeth o 3-1 yn erbyn Kazakhstan a gêm gyfartal 1-1 yng Ngogledd Macedonia.
Gogledd Macedonia sydd ar frig Grŵp J o flaen Cymru ar wahaniaeth goliau, er nad yw'r ffefrynnau Gwlad Belg wedi dechrau eu hymgyrch eto.
Mae enillwyr y grwpiau yn sicrhau lle yng Nghwpan y Byd, tra bydd y pedwar lle sy'n weddill yn cael eu pennu gan gemau ail gyfle yn cynnwys y 12 tîm a ddaeth yn ail yn y grŵp a phedwar tîm o gyfnod Cynghrair y Cenhedloedd y llynedd.
Mae Cymru eisoes mewn sefyllfa dda i sicrhau lle yn y gemau ail gyfle - os bydd ei angen arnyn nhw - ar ôl bod ar frig eu grŵp Cynghrair y Cenhedloedd.
Carfan Cymru yn llawn
Golwyr: Karl Darlow, Danny Ward, Adam Davies
Amddiffynwyr: Neco Williams, Jay Dasilva, Connor Roberts, Ronan Kpakio, Ben Davies, Chris Mepham, Ben Cabango, Joe Rodon
Canol cae: Josh Sheehan, Charlie Crew, Ethan Ampadu, Jordan James, Ollie Cooper, Harry Wilson, David Brooks, Sorba Thomas
Blaenwyr: Liam Cullen, Nathan Broadhead, Lewis Koumas, Rabbi Matondo, Kieffer Moore, Mark Harris, Brennan Johnson, Daniel James
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai