Joe Allen, seren Cymru ac Abertawe, yn ymddeol o bêl-droed

Disgrifiad,

Mae hi'n "teimlo fel yr amser iawn" i ymddeol, meddai Joe Allen

  • Cyhoeddwyd

Mae chwaraewr canol cae Cymru ac Abertawe, Joe Allen wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed yn 35 oed.

Mae cytundeb Allen gyda'r Elyrch yn dod i ben yn yr Haf, ac mae wedi penderfynu dod â'i yrfa i ben ar ôl chwarae dros 600 o gemau ar lefel clwb ac ennill 77 cap dros Gymru.

Mi oedd yn un o'r chwaraewyr mwyaf dylanwadol yn ystod y cyfnod mwyaf llwyddiannus yn hanes Cymru, gan chwarae yng Nghwpan y Byd ac yn yr Euros ddwyaith.

Fe ddechreuodd ei yrfa gydag Abertawe, cyn treulio cyfnodau gyda Lerpwl, Stoke City a Wrecsam ar fenthyg, cyn dychwelyd i Abertawe yn 2022.

Joe Allen yn chwarae dros Gymru yn erbyn Montenegro yn 2024Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Allen 77 cap dros Gymru

"Mi oedd yn benderfyniad anodd iawn wrth gwrs," meddai Allen.

"Mae'n rhywbeth, wrth gwrs, fi wedi meddwl am llawer, yn enwedig dros y pum neu chwe mis diwethaf.

"Ond penderfyniad dwi'n siŵr sy'n gywir. Mae'n teimlo fel yr amser iawn i wneud y penderfyniad yma."

Mi fydd ymddeoliad Allen yn dod fel siom i reolwr Cymru Craig Bellamy, ar ôl llwyddo i'w berswadio i ddychwelyd i'r garfan genedlaethol.

Mi oedd Allen yn wreiddiol wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ym mis Chwefror 2023, yn dilyn ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd 2022.

Mi oedd y gystadleuaeth yn Qatar yn un siomedig i Gymru, wrth iddyn nhw golli eu gemau'n erbyn Lloegr ac Iran, a chael gêm gyfartal yn erbyn yr Unol Daleithiau.

Ond mi oedd 'na amseroedd hapusach yn Euro 2016 pan lwyddodd Cymru i gyrraedd y rownd gynderfynol. Mi oedd 'na le yn rownd yr 16 olaf yn Euro 2020 hefyd.

Fe enillodd ei gap cyntaf yn 2009, ar ôl chwarae am y tro cyntaf i dîm cyntaf Abertawe pan yn 16 oed yn 2007.

Yn ei dymor llawn cyntaf yn y tîm fe chwaraeodd ran hollbwysig wrth i'r Elyrch ennill yr Adran Gyntaf, cyn ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr yn 2011.

Fe symudodd i Lerpwl am £15m yn 2012, wedyn ymunodd â Stoke City yn 2016, cyn dychwelyd i Abertawe yn 2022.