Cyngor Sir Benfro yn gostwng y dreth ar ail gartrefi ar ôl chwe mis
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr Sir Benfro wedi pleidleisio i leihau'r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi o 200% i 150%.
Does ond chwe mis ers i'r cyngor gyflwyno'r gyfradd uwch o 200%.
Daw'r newid er gwaethaf rhybuddion y byddai'n arwain at fwy o doriadau i wasanaethau'r cyngor a chodiad treth gyngor uwch i drethdalwyr yn y sir.
Daeth hi i'r amlwg fis diwethaf fod nifer yr ail dai sydd ar werth yn Sir Benfro wedi mwy na threblu ar ôl i'w treth cyngor gynyddu.
O dan reolau newydd, fe all cynghorau godi premiwm o hyd at 300% ar ben y lefel arferol i geisio mynd i'r afael â'r argyfwng tai.
Ddydd Iau, cafodd y gwelliant annibynnol gan y cynghorydd Huw Murphy i ostwng premiwm treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi o 200% i 150% ei gefnogi gan 30 pleidlais i 26.
Cafodd gwelliant blaenorol gan y Cynghorydd Ceidwadol Di Clements i ostwng y dreth o 200% i 100% ei wrthod.
Dywedodd y Cynghorydd Marc Tierney o Blaid Lafur ei fod yn "siomedig nad oedd pobl yn fodlon gwrando ar y realiti economaidd".
Byddai lleihau'r premiwm yn "benderfyniad gwael iawn", meddai.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jon Harvey wrth y cyfarfod nad oedd y data'n bodoli eto i asesu effaith y premiwm 200% ar ail gartrefi.
Dywedodd y byddai pob toriad o 50% yn y premiwm yn cyfateb i £2.6m mewn incwm a gollwyd.
Mae'r cyhoeddiad yn newyddion da yn ôl y grŵp hybu twristiaeth, Visit Pembrokeshire: “Ry'n ni'n croesawu penderfyniad Cyngor Sir Penfro heddiw i ostwng premiwm treth y cyngor ar ail gartrefi i 150%.
Bydd y premiwm treth cyngor newydd o 150% ar gyfer ail gartrefi yn dod i rym o 1 Ebrill 2025.
Mae busnesau yn Ninbych y Pysgod wedi croesawu’r gostyngiad ar bremiwm treth cyngor ar ail dai.
Mae Becky Munn a’i gŵr wedi rhedeg eu siop Cariads ers mis Medi.
Yn ôl Becky roedd y premiwm o 200% yn “eithriadol o uchel”.
“Ni wedi gweld cynnydd mewn ail dai sy’n mynd ar werth. Ni’n ardal dwristaidd ac mai’n rhan enfawr o'r economi leol,” meddai.
“Y lleiaf o dai sydd ar gael i bobl i ymweld â’r ardal, mae’n cymryd y cyfle i ffwrdd i wario yn yr ardal.”
Mae Becky yn byw yn Aberdaugleddau gyda’i theulu, hoffai fyw yn Ninbych y Pysgod i fod yn agosach i’w busnes, ond mae'n dweud nad yw tai yn yr ardal yn “fforddiadwy”.
Fel perchennog busnes a pherson lleol mai’n “gylch dieflig," meddai
“Yn amlwg fel busnes, y fwyaf o dwristiaid sy’n ymweld ag yn aros yn yr ardal 'y ni’n mynd i elwa. Ond fel person lleol sydd eisiau symud ei theulu o ogledd y sir i’r de, dyw e ddim yn fforddiadwy.”
John Mather yw perchennog siop The Nook.
Credai fod unrhyw bremiwm ar ail gartrefi yn “annheg”.
“Mae perchnogion ail dai yma drwy’r flwyddyn ac yn gwario mewn siopau a bwytai,” meddai.
Ychwanegodd: “Mae gennym ni dwristiaid sydd yma trwy gydol y tymor ond mae ‘na peaks and throughs.
"Mae perchnogion ail dai yn gwario yn y dre felly dwi’n meddwl bod unrhyw fath o bremiwm yn annheg.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror