Gwynedd: Rheolau llymach ar ail gartrefi a llety gwyliau'n dod i rym
- Cyhoeddwyd
O ddydd Sul ymlaen, mae hi'n orfodol sicrhau caniatâd cynllunio cyn gallu troi tŷ yn ail gartref neu'n lety gwyliau mewn rhannau o Wynedd.
Mae'r penderfyniad wedi hollti barn yn y sir ac roedd bron i 4,000 o ymatebion i ymgynghoriad diweddar gan Gyngor Gwynedd.
Fydd y newidiadau ddim yn effeithio ar ardal Barc Cenedlaethol Eryri, sydd eisoes wedi dechrau proses ymgynghori debyg yno.
Yn ôl Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd: "Mae'n un arf arall i gynghorau lleol i geisio rheoli'r farchnad yma mewn ail dai a gosodiadau tymor byr.
"Mae gennym ni gynnydd sylweddol yn y math yna o dai sydd yn tynnu stoc tai allan o'r feddiannaeth parhaol lleol."
Fe gafodd awdurdodau lleol ar draws Cymru ragor o bwerau gan y llywodraeth i reoli nifer yr ail gartrefi yn Hydref 2022, a Gwynedd fydd y cyngor cyntaf i fanteisio ar y grymoedd hyn.
Roedd y cyngor wedi derbyn 3,902 ymateb i’r ymgynghoriad, gyda rhai yn disgrifio’r mesurau fel rhai “annheg” a hyd yn oed “anfoesol” ond eraill yn gefnogol iawn o'r newid.
Mae Megan Holyoak yn rhedeg bwyty yn Abersoch ac wedi'i geni a'i magu yn yr ardal.
Mae hi'n un o nifer sy'n gwrthwynebu cynlluniau Cyngor Gwynedd i gyflwyno mesurau erthygl 4.
Dywedodd : "Mae o'n drist, mae teulu a ffrindiau fi'n byw yma ac mae o jest yn neu popeth mwy anodd i gael tŷ... mae mam a dad wedi prynu tŷ ac wedi neud o fyny a gobeithio bo nhw'n gallu werthu fo, ond mae hyn yn rhoi stop i hynny.
Mae hi'n credu bod y newid wedi "devalueio y tai yn yr ardal i locals".
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd12 Medi 2023
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2024
Ychwanegodd Megan Holyoak: "'Dw i'n deall fod yna broblem yn yr ardal efo pobl ifanc yn trio cael tŷ, ond 'dw i ddim yn meddwl mai erthygl 4 ydi'r peth sydd am ddatrys hynny."
Gan fod Megan yn gweithio yn y maes lletygarwch, mae hi'n poeni y bydd cyflwyno erthygl 4 yn cael effaith negyddol ar y busnes.
"'Dw i wedi bod yn gweithio gyda lletygarwch ers 15 o flynyddoedd, ac mae pawb yn dod yma eleni ac yn deud eu bod nhw am werthu eu tŷ... mae'r holl trade yn yr haf yn mynd i fynd.
"Mae pobl fel fi sydd yn gweithio yma, fyddwn ni methu hel y pres, fyddwn ni methu fforddio i brynu tŷ yn yr ardal eniwe achos fydd na'm busnes i ni."
'Da ni isho i brisau tai ostwng'
Ond mae eraill yn gefnogol iawn i'r newid yma gan ddweud fod yna "argyfwng" o fewn y sector tai yng Ngwynedd.
Mared Llywelyn ydi cadeirydd cyngor tref Nefyn.
Mae hi'n byw ym Morfa Nefyn gyda'i theulu, ac yn dweud nad oes modd iddi brynu tŷ.
"Mae erthygl 4 wedi bod yn un anodd 'dw i'n meddwl yn gymuned.
"Mae 'na dipyn o densiwn, mae 'na gega a chasineb tuag at erthygl 4, ond yn bersonol - 'dw i'n falch bod Cyngor Gwynedd wedi cymryd y pwerau yma gan y Llywodraeth a manteisio arnyn nhw i reoleiddio'r broblem."
"Nid stopio lletya gwyliau ydi'r bwriad ond ei reoleiddio a 'dw i'n meddwl fod hynny'n ddigon teg.
"Mae pobl yn poeni fod prisiau tai yn mynd i ostwng... ond mi ydan ni isio i brisiau tai ostwng, mi yda ni'n gwybod fod y prisiau allan o reolaeth, mae'r prisiau yn wallgo' fel mae nhw, felly efallai fod hynny am fod yn anochel, ond yn amlwg 'dw i'n derbyn fod pobl yn bryderus amdano hefyd."
Mae Mared hefyd yn rhan o grŵp ymgyrchu Hawl i Fyw Adra.
Dywedodd : "Rydan ni fel Hawl i Fyw Adra yn poeni am y gymuned, os nad ydw i'n cael tŷ fy hun, iawn. Ond mi yda ni isio gwarchod ein hiaith ni ac mi yda ni isio gwarchod ein cymuned ni - dyna pham ein bod ni'n neud hyn ac yn codi llais."
Mae Rhys ap Gwilym yn uwch ddarlithydd mewn economeg ym Mhrifysgol Bangor ac yn dweud y bydd rhai yn elwa, ond nid pawb.
Dywedodd: "Mae'n bolisi newydd. 'Da ni heb weld unrhyw beth o'r fath yng Nghymru o'r blaen.
"Mae rhai pobl yn mynd i elwa o'r polisi yma, yn enwedig y rheini sydd yn edrych i brynu tŷ am y tro cyntaf.
"Ond mi fydd 'na bobl eraill ar eu colled; yn amlwg pobl sydd eisiau prynu tŷ fel ail gartre ond hefyd rheini sydd yn ceisio gwerthu eu tai nhw... efallai nawn nhw ffeindio bod llai o alw am y tŷ a felly gostyngiad yn y pris."
Ychwanegodd ei fod yn credu "bod e'n bwysig iawn bod Cyngor Gwynedd ac eraill yn adlewyrchu ymhen flwyddyn neu ddwy i weld beth mae'r effaith o'r polisi 'ma wedi bod."
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022
Yn ôl Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd mae "angen gwneud ein tai yn fwy fforddiadwy i'n pobl leol ni."
Dywedodd : "Mi yda ni'n ymwybodol bod hi'n anodd i bobl lleol brynu tŷ mewn rhai mannau oherwydd y farchnad tai gwyliau.
"Fe gafon ni tua pedair mil o ymatebion i'n ymgynghoriad ni, nifer fawr o'r rheiny, nid y cyfan, yn gwrthwynebu'n chwyrn iawn, ac mi rydan ni'n deall ei fod yn fater emosiynol iawn iawn."
Ychwanegodd : "Mi yda ni wedi edrych ymhellach, y tu hwnt i Gymru i weld a oes yna unrhyw dystiolaeth i gael o effaith andwyol ar brisiau tai, a dyda ni ddim yn gallu gweld hynny ar hyn o bryd.
"Felly 'dw i ddim yn credu fod yna sail i'r ofnau hynny a 'dw i'n gobeithio y bydd gweithrediad erthygl 4 yn dangos nad ydi o'n cael effaith andwyol ar y farchnad dai."
Dywedodd y bydd Cyngor Gwynedd yn mesur llwyddiant cyflwyno erthygl 4 ac yn barod i addasu pe bai angen.
Dywedodd : "Mae angen i ni gadw llygad ar y farchnad lleol i weld a oes yna unrhyw newidiadau sylweddol yn digwydd ac fe allwn ni addasu'n hymateb i hynny wrth i ni fynd yn ein blaenau."
Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol, Teleri Glyn Jones
Mae'n braf cael byw mewn tŷ haf - ond fel mae'r holl ganeuon am y pwnc yn awgrymu- mae o'n bwnc dadleuol tu hwnt (pwnc llosg, os hoffech chi)!
I'r rheini sy'n methu fforddio prynu tai yn eu cynefinoedd ac i'r Cymry sy'n cwffio i gadw'r iaith yn fyw, mae'n fater o gymuned a hunaniaeth. Ond gydag economi cefn gwlad Cymru mor ddibynnol ar dwristiaeth, mae mynd i'r afael â'r broblem yn gymhleth.
Yn y gorffennol mae 'na rai wedi cyuhddo Llywodraeth Lafur Cymru o laesu dwylo am y broblem o ddiffyg tai mewn ardaloedd gwledig.
Ond yn fwy diweddar mae mesurau newydd wedi dod i rym, gyda phremiwm treth cyngor ar ail gartrefi neu gartrefi gwag.
Rŵan, mae'r newidiadau yma i reolau cynllunio yn rhoi'r grym i gynghorau ymyrryd fwy byth.
Gwynedd yw'r cyngor cyntaf i weithredu'r newidiadau yma, ac mi fydd awdurdodau lleol eraill, nid dim ond yng Nghymru ond mewn ardaloedd twristiaeth ledled Prydain, yn cadw llygad barcud ar oblygiadau'r newidiadau.
A fydd o'n golygu bod mwy o gartrefi ar gael i bobl leol, neu a fydd o'n creu problemau newydd?