Dim Gwastraff yn ennill Brwydr y Bandiau

Dim GwastraffFfynhonnell y llun, Eisteddfod/FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond ym mis Ionawr y cafodd Dim Gwastraff ei ffurfio

  • Cyhoeddwyd

Dim Gwastraff sydd wedi ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd.

Y tri arall oedd wedi cyrraedd y brig oedd Ifan Rhys, Tesni Hughes, a Seren.

Maes B a BBC Radio Cymru ar y cyd sy'n cynnal y gystadleuaeth yn flynyddol, ac roedd hi'n cymryd lle ar Lwyfan y Maes brynhawn Mercher.

Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr ariannol o £1,000, sesiwn recordio gyda BBC Radio Cymru a chyfle i berfformio ym Maes B ar nos Sadwrn olaf y Brifwyl.

Roedd y pedwar artist eisoes wedi recordio cân ar gyfer Radio Cymru, ac mae'r perfformiadau hynny i'w gweld yma.

Disgrifiad o’r llun,

Y beirniaid - Gwyn Rosser, Ifan Pritchard a Marged Sion - gyda'r cyflwynydd Ffion Emyr

Dim ond ym mis Ionawr y cafodd Dim Gwastraff ei ffurfio, pan ddaeth Liv Williams (llais), Toby King (gitâr), Sam Veale (bâs) ac Evan Davies (drymiau) at ei gilydd.

Maen nhw eisoes wedi chwarae llond llaw o gigs lleol yn y cymoedd, ac wedi perfformio yn FfiliFfest, Green Rooms a The Moon.

Mae aelodau'r band yn hoff iawn o gerddoriaeth Paramore, ac mae Dim Gwastraff yn diffinio eu hunain fel band 'pop pync'.

Yn y Tŷ Gwerin ddydd Mawrth fe enillodd Cadog gystadleuaeth Brwydr y Bandiau Gwerin.

Y tri arall oedd ar y rhestr fer honno oedd Elin a Carys, Rhys Llwyd Jones, a Rhiannon.