Dyn yn gwadu llofruddio 'tad balch, hael a charedig'

James BroganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed teulu James Brogan ei fod yn berson hael, gofalgar ac ystyriol oedd wrth ei fodd yn gwneud iddyn nhw chwerthin

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 20 oed o Gaerdydd wedi gwadu llofruddio dyn arall yn ardal Llaneirwg y ddinas.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn adroddiadau o drywanu yn Heol Trostre tua 16:00 ar 12 Tachwedd.

Cafwyd hyd i James Brogan, 43 oed ac o Laneirwg, ag anafiadau difrifol a bu farw'n ddiweddarach.

Mae Georgie Tannetta, o ardal Trowbridge y brifddinas, wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiadau o lofruddiaeth ac o fod ag arf yn ei feddiant.

Mae disgwyl i'r achos llawn yn ei erbyn ddechrau fis Mai nesaf.

'Byth yn cael ei anghofio'

Dywedodd teulu Mr Brogan ei fod yn fab, brawd, ewythr, cefnder "hael, gofalgar ac ystyriol" a "thad balch iawn tri o blant" na chaiff "fyth y cyfle i weld ei blant yn cael eu teuluoedd eu hunain a dod yn daid fel y dylid fod".

"Ni fyddan ni'n ei weld yn ymddangos wrth y drws yn dweud jôcs ac yn gwneud i chi chwerthin..."

Disgrifiad o’r llun,

Presenoldeb heddlu yn Heol Trostre, Llaneirwg mewn ymateb i adroddiadau o drywanu

Ychwanegodd y teulu eu bod oll "wedi torri" ac yn gobeithio gallu dod i delerau â'u colled, gan "ond cofio'r amseroedd da" yn ei gwmni maes o law.

"Bydd James Brogan byth yn cael ei anghofio gan ei anwyliaid, teulu a ffrindiau."