Dyn yn y llys mewn cysylltiad â thân difrifol ar stad ddiwydiannol

Adfeilion yr adeilad gafodd ei ddinistrio yn y tânFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd adeilad ei ddinistrio yn llwyr yn y tân ym mis Ionawr 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys mewn cysylltiad â thân difrifol mewn warws ar stad ddiwydiannol yn y de.

Cafodd adeilad ar Stad Ddiwydiannol Pen-y-bont - oedd yn eiddo i gwmni Owens Group - ei ddinistrio yn llwyr yn y tân ym mis Ionawr 2024.

Fe wnaeth Ieuan Jones, 26 oed o Ben-y-bont, ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth, wedi ei gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Mewn gwrandawiad byr, cafodd wybod y byddai'r achos yn cael ei drosglwyddo i Lys y Goron Caerdydd.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol tan y gwrandawiad nesaf ar 19 Mai.

Pynciau cysylltiedig