Pwy fydd yr ymgeiswyr i fod yn Brif Weinidog Cymru?

ymgeiswyr posib i fod yn brif weinidog nesaf Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Pwy fydd nesaf? (o'r chwith i'r dde) Huw Irranca-Davies, Eluned Morgan, Jeremy Miles, Hannah Blythyn, Mick Antoniw a Ken Skates

  • Cyhoeddwyd

Mae Vaughan Gething - sydd wedi cyhoeddi y bydd yn camu i lawr fel Prif Weinidog Cymru - wedi dweud ei fod yn disgwyl i olynydd fod yn y swydd "yn gynnar yn yr hydref".

Felly pwy yw'r ymgeiswyr sydd fwyaf tebygol o redeg am brif swydd Cymru?

Jeremy Miles

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd Jeremy Miles ei guro o drwch blewyn gan Mr Gething i rôl arweinydd Llafur Cymru ym mis Mawrth.

Cafodd Mr Miles, sy'n Aelod o'r Senedd dros Gastell-nedd, rôl cabinet gan Mr Gething fel ysgrifennydd yr economi, ynni a'r Gymraeg.

Ond ddydd Llun fe fethodd Mr Miles dro ar ôl tro â chefnogi Mr Gething mewn cyfweliad ag ITV Cymru.

Fore Mawrth, fe ddaeth yn un o bedwar aelod cabinet i gyhoeddi eu hymddiswyddiadau, gan annog y prif weinidog i roi'r gorau iddi.

Yn ystod gornest arweinyddiaeth Llafur Cymru yn y gwanwyn, sicrhaodd Mr Miles gefnogaeth 16 aelod o'r senedd Llafur - roedd gan Mr Gething gefnogaeth 10.

Ond enillodd Mr Gething gefnogaeth undeb llafur mwyaf Cymru, Unite.

Mae'n ymddangos mai Mr Miles yw'r ymgeisydd mwyaf tebygol o gymryd yr awenau fel prif weinidog, ond byddai cefnogwyr Mr Gething yn gwrthwynebu coroni syml ac yn hytrach yn gwthio am ornest arweinyddiaeth.

Ken Skates

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Ken Skates wedi gwasanaethu fel AS De Clwyd ers 2011.

Mae wedi dal nifer o rolau gweinidogol, gan gynnwys ei swydd bresennol fel ysgrifennydd cabinet dros ogledd Cymru a thrafnidiaeth.

Roedd disgwyl i’r cyn-newyddiadurwr, o Wrecsam, redeg o i fod yn brif weinidog yn 2018., ond yn y diwedd fe gefnogodd Mark Drakeford.

Fe gamodd Mr Skates i ffwrdd dros dro o gabinet Llywodraeth Cymru yn 2021 i gael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan honni y byddai’n dal i fod yn ei rôl pe bai rhannu swydd yn cael ei ganiatáu.

Mick Antoniw

Ffynhonnell y llun, Senedd

Mae Mick Antoniw ar ochr chwith y Blaid Lafur Gymreig, a gefnogodd Mr Miles dros Mr Gething i ddod yn brif weinidog.

Aeth Mr Antoniw ymlaen i wasanaethu yng nghabinet Mr Gething fel y cwnsler cyffredinol, ond roedd yn un arall o'r pedwar aelod cabinet a ymddiswyddodd fore Mawrth.

Beirniadodd yn flaenorol benderfyniad Mr Gething i dderbyn rhoddion tuag at ei ymgyrch arweinyddiaeth gan gwmni sy'n eiddo i ddyn a gafwyd yn euog o ddympio gwastraff yn anghyfreithlon.

Cafodd Mr Antoniw, sy'n Aelod o'r Senedd dros Bontypridd, ei geryddu'n ffurfiol am drydariad "sarhaus" am y Ceidwadwyr.

Hannah Blythyn

Ffynhonnell y llun, Senedd

Mae'r cyn-weinidog a gafodd ei diswyddo gan Vaughan Gething wedi datgan droeon na wnaeth hi ryddhau negeseuon i'r cyfryngau.

Cafodd Hannah Blythyn ei diswyddo ym mis Mai oherwydd honiadau mai hi oedd ffynhonnell stori am sgwrs grŵp ar-lein yn ystod cyfnod Covid.

Dywedodd AS Delyn na ddangoswyd unrhyw dystiolaeth iddi cyn ei diswyddo, ac ni ddywedwyd wrthi ei bod yn destun ymchwiliad.

Eluned Morgan

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Enw posib arall yw Eluned Morgan, a redodd i fod yn arweinydd Llafur Cymru yn 2018, ond safodd allan o'r ras diwethaf.

Mae Ms Morgan wedi gwasanaethu fel yr ysgrifennydd iechyd ers 2021, wedi ei phenodi gyntaf o dan Mark Drakeford ac yn parhau yn y swydd o dan Mr Gething.

Mae’r Aelod o'r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru hefyd yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi a chyn hynny roedd yn Aelod o Senedd Ewrop.

Fe gefnogodd hi Mr Gething i ddod yn brif weinidog yn y ras arweinyddiaeth ddiweddaraf ac fe wnaeth hi hefyd amddiffyn penderfyniad Mr Gething i ddiswyddo Hannah Blythyn.

Huw Irranca-Davies

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Huw Irranca-Davies yn gyn AS yn San Steffan a ddaeth yn aelod o'r senedd dros Ogwr yn 2016.

Mae wedi dal swyddi gweinidogol yn San Steffan a Bae Caerdydd, gan gynnwys ei rôl bresennol fel ysgrifennydd newid hinsawdd a materion gwledig.

Yn 2018, lansiodd gais i ddod yn arweinydd Llafur Cymru, ond collodd i Mark Drakeford.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd cyhoeddiad Mr Gething yn sbarduno gornest arall i arweinyddiaeth Llafur Cymru - yr ail mewn cyfnod o flwyddyn.

Dywedodd Mr Gething y byddai'n aros yn ei rôl fel prif weinidog nes bod y Senedd yn dewis olynydd, gan ychwanegu mai pwyllgor gwaith Llafur Cymru fyddai'n pennu rheolau ac amserlen yr ornest.

Yna bydd angen i'r Senedd "benderfynu a yw'n dymuno cefnogi'r person hwnnw", meddai ddydd Mawrth.

"Yn gynnar yn yr hydref fe fydd person newydd yn sefyll yma fel arweinydd Llafur Cymru, a bydd angen i'r lle hwn benderfynu a ddylid ethol y person hwnnw fel ymgeisydd i fod yn brif weinidog," meddai.

Ac fe fydd yn rhaid i Mr Gething ymddiswyddo'n ffurfiol i'r Brenin.