Nifer o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi ymddiswyddo.
Mae Julie James, Lesley Griffiths a Jeremy Miles wedi rhoi gorau i'w swyddi fore Mawrth, yn ogystal â'r Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw.
Daw hyn yn dilyn wythnosau o helbul gwleidyddol i Vaughan Gething, a gymerodd yr awenau oddi wrth Mark Drakeford ym mis Mawrth.
Mae Mr Gething wedi colli pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd, ac wedi cael ei gwestiynu dros gyfraniad i'w ymgyrch o £200,000 gan David Neal, dyn busnes a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.
Mae hefyd wedi wynebu cwestiynau ynghylch neges a gafodd ei rhyddhau i'r cyfryngau a ddangosodd iddo ddweud wrth weinidogion eraill yn 2020 ei fod yn dileu testunau o sgwrs grŵp - rhywbeth y gwadodd ei wneud mewn gwirionedd.
Mae ei benderfyniad i ddiswyddo gweinidog yn sgil hynny wedi ychwanegu at y ffraeo.
Gwadodd Hannah Blythyn mai hi oedd ffynhonnell y stori, ond dywedodd Mr Gething fod y dystiolaeth fod y negeseuon wedi dod o'i ffôn yn syml.
'Tristwch mawr'
Dywedodd Jeremy Miles, a heriodd Mr Gething am yr arweinyddiaeth yn gynharach yn y flwyddyn ac a oedd yn Ysgrifennydd dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, ar X: "Mae gwasanaethu yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn fraint aruthrol ac yn gyfrifoldeb difrifol.
"Gyda thristwch mawr y byddaf yn ymddiswyddo heddiw."
Dywedodd Lesley Griffiths, oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol y bu hi'n "fraint aruthrol i fod wedi gwasanaethu yn Llywodraeth Cymru mewn nifer o rolau gweinidogol dros y 14 mlynedd ddiwethaf".
"Fodd bynnag, o dan yr amgylchiadau presennol a heb fawr o dystiolaeth i awgrymu y bydd pethau’n gwella o dan eich arweinyddiaeth, rwy’n cyflwyno fy ymddiswyddiad o'r Cabinet. Rwy'n gwneud hynny â chalon drom iawn."
Roedd Julie James yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.
Meddai mewn llythyr ato: "Ni welaf unrhyw ffordd o gytuno ar gyllideb na sut y gallwn gyflawni ein huchelgeisiau deddfwriaethol."
Ychwanegodd: "Ni all hyn fod yr hyn yr oeddech ei eisiau ac mae'n rhaid ei fod wedi achosi llawer o boen i chi a'ch teulu ac rwy'n meddwl ei fod yn amlwg wedi achosi rhaniadau enfawr yn y grŵp ac wedi niweidio'r wlad a'r blaid, rwy'n meddwl ei fod hefyd bellach yn bygwth parhad y daith ddatganoli."
Dywedodd Mick Antoniw yn ei lythyr ymddiswyddiad: "Rhaid i mi eich hysbysu nad wyf yn credu y gallwch barhau fel prif weinidog.
"Mae angen llywodraeth hyderus a sefydlog ar Gymru. Nid wyf yn credu eich bod yn gallu cyflawni hynny.
"Rydych wedi colli pleidlais o hyder yn y Senedd. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n ystyried ei fod o bwysigrwydd cyfansoddiadol mawr.
“Rwy’n credu ei bod hi’n angenrheidiol nawr i chi ddewis rhoi’r wlad yn gyntaf ac ymddiswyddo fel prif weinidog er mwyn caniatáu etholiad ar gyfer prif weinidog newydd ac arweinydd Llafur Cymru.”
Dadansoddiad Vaughan Roderick - golygydd materion Cymreig
Mae disgyblaeth ac undod cyhoeddus wedi nodweddu grŵp Llafur Bae Caerdydd ers dyddiau cynnar datganoli.
Felly, mae'n arwydd o ba mor ddwfn yw'r hollt o fewn y blaid bod pedwar gweinidog wedi penderfynu datgan eu cwynion yn gyhoeddus.
Deallaf fod y pedwar wedi cysylltu â'r prif weinidog ddoe gan ofyn iddo ymddiswyddo. Mae'r ymddiswyddiadau heddiw yn awgrymu’n gryf bod Mr Gething wedi gwrthod.
Mae Mr Gething yn parhau i fwynhau cefnogaeth gref gan rai aelodau o'r Senedd ond, fel yn achos cwymp Boris Johnson, mae'n anodd iawn i arweinydd barhau yn ei swydd ar ôl colli hyder cyfran o'i gabinet.
Ymateb y gwrthbleidiau
Wrth ymateb, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd: “Mae cyfnod Vaughan Gething fel prif weinidog yn dod i ben, yn gwbl briodol.
“Ond ni all Llafur dwyllo pobol Cymru. Roedd y gweinidogion hyn, fel Jeremy Miles, yn eistedd yn ei gabinet, fe safasant wrth ei ochr, ac maent ar fai am fethiant llywodraethu yng Nghymru.
“Bydd Cymru yn cofio.”
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Vaughan Gething i ymddiswyddo.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Mae Vaughan Gething wedi arwain llywodraeth o anhrefn a rhoi ei hunan-les ei hun o flaen buddiannau pobol Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf