Cerydd i weinidog am drydar am 'blant yn cael eu lladd'

Mick AntoniwFfynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Antoniw wedi cyfaddef bod y trydariad yn sarhaus ac yn amhriodol

  • Cyhoeddwyd

Bydd un o uwch wleidyddion Llywodraeth Cymru yn cael ei geryddu am drydar fod y "Torïaid mor hapus i weld pobl ac yn enwedig plant yn cael eu lladd a’u hanafu ar ein ffyrdd”.

Mae aelodau Pwyllgor Safonau’r Senedd yn dweud y dylai'r Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw gael ei geryddu gan Senedd Cymru am ymddygiad sy’n disgyn yn is na’r safonau disgwyliedig.

Ond wnaethon nhw ddim argymell y gosb fwy difrifol o waharddiad dros dro gan y sefydliad ym Mae Caerdydd.

Mae Mr Antoniw, prif gynghorydd cyfreithiol y llywodraeth Lafur, wedi cyfaddef bod ei sylwadau yn sarhaus ac yn amhriodol ac wedi eu dileu yn fuan ar ôl iddyn nhw gael eu cyhoeddi.

Ar 16 Medi y llynedd rhannodd Mr Antoniw neges ar ei gyfrif X: “Torïaid mor hapus i weld pobl ac yn enwedig plant yn cael eu lladd a'u hanafu ar ein ffyrdd. Cwbl anghyfrifol ond ddim yn syndod".

Gwnaethpwyd hynny yng nghyd-destun y ddadl am y terfyn cyflymder 20mya newydd a dadleuol ar ffyrdd cyfyngedig.

Cafodd y trydariad ei wneud mewn ymateb i un gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew R T Davies, oedd yn cynnwys llun o dudalen flaen papur newydd lle disgrifiwyd y terfyn cyflymder fel un “wallgof”.

Cwynodd cydweithiwr Torïaidd Mr Davies, Natasha Asghar AS, i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad fod y trydariad yn “hollol amhriodol, … hynod sarhaus a chwbl ddiangen” ac yn torri’r Cod Ymddygiad.

'Gosod esiampl wael iawn'

Mae Comisiynydd Safonau’r Senedd, Douglas Bain, yn nodi yn ei adroddiad fod “sylwadau sarhaus o’r math yna am nifer fawr o’r etholwyr, nid yn unig yn sarhaus, ond gallent ddwyn anfri ar y Senedd”.

“Wrth eu gwneud gosododd yr aelod, sy’n uwch wleidydd, esiampl wael iawn, gan ddangos diffyg crebwyll ac arweinyddiaeth."

Dywedodd y Pwyllgor Safonau ei fod yn "cytuno â barn y comisiynydd am y sylwadau a'u goblygiadau".

Dywedodd Mr Antoniw wrth y comisiynydd safonau ei fod, wrth ddefnyddio'r gair "hapus" yn bwriadu cyfleu bod y "Ceidwadwyr Cymreig yn gyffredinol (nid oedd wedi'i gyfeirio at unrhyw unigolyn) yn fodlon gwrthwynebu polisi oedd â'r nod o achub bywydau.

"Doeddwn i ddim yn defnyddio ‘hapus’ yn yr ystyr y byddai unrhyw un yn bersonol yn cael pleser o weld plant yn cael eu hanafu neu eu lladd ar ein ffyrdd," meddai.

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos ar ôl y trydariad, gofynnodd Andrew RT Davies i’r Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford, a oedd yn cytuno ei bod yn “iaith annerbyniol i’w defnyddio wrth geisio cymryd rhan mewn dadl ar bolisi y mae gennym anghytundeb yn ei gylch”.

Atebodd Mr Drakeford: "Tynnodd y cwnsler cyffredinol y neges i lawr ar unwaith ac mae wedi cydnabod ers hynny na fyddai wedi ei fynegi yn y modd hwnnw pe bai wedi bod mewn sefyllfa i roi ystyriaeth bellach iddo".

Ffynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Natasha Asghar fod y trydariad yn "sarhaus iawn"

Dywedodd y Pwyllgor Safonau fod "achos o dorri'r Cod Ymddygiad gan unrhyw Aelod o’r Senedd yn fater difrifol ym marn y pwyllgor. Mae enw da Senedd Cymru, a ffydd a hyder y cyhoedd yn y sefydliad, yn dibynnu ar allu'r aelodau i ddangos uniondeb ac arweiniad drwy eu gweithredoedd".

Ychwanegodd: "Mae defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn fwyfwy cyffredin ymhlith cynrychiolwyr etholedig ac yn ddull pwysig o gyfathrebu a dadlau.

"Fodd bynnag, mae hefyd yn cyflwyno heriau i'r aelodau, o ystyried natur y rhyngweithio a'r potensial i’w camddefnyddio.

"Dylai aelodau wneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn parhau i ymgorffori'r egwyddorion arweinyddiaeth wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol."

Bydd Aelod o'r Senedd Pontypridd yn wynebu'r cynnig o gerydd yn Senedd Cymru ddydd Mercher nesaf – cynnig sy’n annhebygol o gael ei wrthwynebu.