Diwedd pennod wrth i ysgol leiaf Ynys Môn gau ar ôl 125 mlynedd

Y dorf yn gwylio'r cyngerdd
Disgrifiad o’r llun,

Cynulleidfa yn gwylio'r cyngerdd ffarwelio yr wythnos yma

  • Cyhoeddwyd

Yn dilyn bron i ganrif a chwarter o fod ar agor, mae ysgol leiaf Ynys Môn yn cau ei drysau i ddisgyblion am y tro olaf ddydd Gwener.

Yn gynharach yr wythnos hon daeth dros 100 o bobl i'r neuadd i gyngerdd ffarwelio gyda rhai o ddisgyblion a chyn-ddisgyblion Ysgol Gymuned Carreglefn yn perfformio.

Cafodd cynllun i gau'r ysgol gynradd, sydd ag ond naw o ddisgyblion, ei gefnogi yn gynharach eleni.

O fis Medi ymlaen, bydd disgyblion yr ysgol yn mynychu Ysgol Gymuned Llanfechell - sydd 2.2 milltir i ffwrdd.

Cyfle i rannu atgofion

Cafodd yr ysgol wledig ei hadeiladu nôl yn 1899, gan agor i ddisgyblion y flwyddyn ganlynol.

Mae nifer o bobl adnabyddus yn gyn-ddisgyblion gan gynnwys yr awdur William Owen a'r gwyddonydd Tom Parry Jones, dyfeisydd y prawf anadl.

I nodi'r bennod nesaf yn hanes yr ysgol, cafodd cyngerdd ffarwelio ei gynnal yr wythnos hon.

Roedd yn gyfle i rannu atgofion a gwylio doniau rhai o ddisgyblion a chyn-ddisgyblion yr ysgol wrth nodi diwedd ar bron i ganrif a chwarter o addysg yn y pentref.

Dau o ddisgyblion sydd ymhlith y rhai olaf i fynychu'r ysgol ydy Efan a Finley oedd yn rhan o'r cyngerdd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Efan a Finley ymhlith rhai o ddisgyblion olaf yr ysgol

Dywedodd Efan : "Dwi'n mwynhau mynd ar dripiau a chwarae tu allan yn yr ysgol... dwi'n drist iawn oherwydd mae hi wedi bod yn ysgol dda iawn i bawb.

"Mae'n drist ei bod yn gorfod cau. Mae Mam yn gweithio yma ac mae fy anti i wedi gweithio yma hefyd."

Wrth edrych at y dyfodol, dywedodd Efan: "Y peth na' i gofio fwyaf am ysgol Carreglefn ydy'r holl dripiau efo pawb."

Roedd Finley hefyd yn drist o weld yr ysgol yn cau, ond yn edrych ymlaen at fynd i ysgol newydd ym mis Medi: "Dwi'n drist iawn... y peth 'na i gofio am yr ysgol ydy'r holl ffrindiau a'r athrawon."

Ymhlith y rhai a oedd yn y cyngerdd yr oedd y cyn-ddisgybl Iwan Wyn Owen sy'n bianydd ac yn athro piano. Mae o yn ddiolchgar iawn am y cyfleoedd gafodd o yn yr ysgol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iwan Wyn Owen yn bianydd proffesiynol ac yn gyn-ddisgybl yr ysgol

"Mae gen i atgofion melys iawn o'r ysgol, ysgol fach, roedd tua 40 o blant yma pan oeddwn i yma a chymuned glos iawn yn y pentref," meddai.

"Mi oedd fy athro piano i yn rhoi gwersi yma, Mr Arwel Jones, sydd hefyd yn cymryd rhan yn y cyngerdd.

"Dyna un o'r rhesymau o'n i isio cael gwersi piano, drwy ei glywed o'n chwarae yn yr ysgol... hwnna oedd y rheswm 'nes i ddechrau."

Wrth baratoi i chwarae yn y cyngerdd, dywedodd Iwan fod hi'n braf bod yn ôl yn ei hen ysgol.

"Y rheswm am y cyngerdd ydy oherwydd bod yr ysgol yn cau, mae hynny yn drist mewn ffordd."

'Cadw'r neuadd gymuned i'r pentref'

Ond er fod y drws yn cau i ddisgyblion, gobaith pwyllgor y gymuned yw i gadw'r lle ar agor fel canolfan gymunedol.

Yn ôl Adrian Parry, cadeirydd y pwyllgor, mae'r gymuned yng Ngharreglefn yn un agos.

"Mi fasa ni wrth ein bodda yn cadw'r neuadd gymuned i'r pentref ei hun. Ar y funud mae'r capel wedi cau, does 'na ddim man cyfarfod yng Ngharreglefn ddim mwy.

"Mae angen neuadd i gadw'r pentref i fynd. Os ydan ni'n colli'r neuadd, mi ydan ni'n colli'r gymuned a'r pentref."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Adrian Parry, cadeirydd pwyllgor y gymuned, mae angen neuadd i gadw'r pentref

Eisoes, mae'r neuadd yn cael defnydd sylweddol yn ôl Mr Parry, ac mae'r pwyllgor yn gobeithio denu rhagor yno yn y dyfodol.

Dywedodd: "Mae 'na glwb gwnïo yma, mae 'na nosweithiau chwist, bingo a chlybiau eraill felly os ydan ni'n llwyddiannus i'w chadw hi yn y gymuned, mi fedrwn ni ei hagor i bob mathau o weithgareddau eraill.

"Hefyd, beth oedden ni methu 'neud pan oedd yr ysgol yn bodoli, oedd cynnal pethau yn y prynhawn, gan fod yr ysgol yn ei defnyddio yn y prynhawn.

"Mae'r gymuned wedi hel lot o bres i adeiladu'r neuadd, felly mae'n bwysig iawn bod ni'n ei chadw."

Yn ddiweddar cafodd diwrnod agored ei gynnal yn y neuadd i arddangos hen luniau a rhannu atgofion.

Dywedodd Adrian ei bod hi'n braf gweld dros 250 o bob yn ymweld yn ystod y dydd.

"Mi oedd un ddynes oedd yn ei nawdegau, ac yn gyn-ddisgybl yma, ac mi nath hi gyfarfod â'i ffrind oedd yn yr ysgol ac yntau yn ei nawdegau hefyd a heb weld ei gilydd ers ysgol."

Pynciau cysylltiedig