Byddin yr Iachawdwriaeth yn dathlu 150 mlynedd yng Nghymru

Criw yr SS IoleFfynhonnell y llun, Byddin yr Iachawdwriaeth
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith ymchwil wedi darganfod bodolaeth Llynges yr Iachawdwriaeth, yr SS Iole.

  • Cyhoeddwyd

Mae sŵn band pres Byddin yr Iachawdwriaeth yn canu carolau yn nodweddiadol o’r Nadolig.

Efallai bod yr elusen yn fwy enwog erbyn hyn am ddarparu llochesi i’r digartref, siopau elusennol neu fanciau bwyd ond yn y dyddiau cynnar roedd yna ‘filwyr’ yn lledaenu neges grefyddol.

Eleni mae’r mudiad yn dathlu 150 o flynyddoedd ers i’r ‘milwyr’ gyrraedd Cymru i sefydlu’u heglwysi yma.

Mae gwaith ymchwil gafodd ei wneud fel rhan o’r paratoadau ar gyfer y dathliadau wedi darganfod bodolaeth Llynges yr Iachawdwriaeth, am gyfnod, a hynny diolch i rodd gan deulu o Gaerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

“Dechreuodd stori Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru ar 15fed Tachwedd 1874, yn Gospel Hall at Stryd Biwt yn ardal y dociau,” meddai Steven Spencer

Daeth y wybodaeth i’r amlwg mewn llythyr oedd yn cael ei gadw yn archifdy’r sefydliad yng Nghanolfan Treftadaeth Ryngwladol Byddin yr Iachawdwriaeth yn Llundain.

“Dechreuodd stori Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru ar 15fed Tachwedd 1874, yn Gospel Hall at Stryd Biwt yn ardal y dociau,” meddai Steven Spencer, Cyfarwyddwr y Ganolfan Treftadaeth.

“Mae’r llythyr, at sylfaenydd Byddin yr Iachawdwriaeth, William Booth, wedi’i ysgrifennu gan ei fab, Bramwell, yn sôn am y rhodd gan y diwydiannwr, John Cory, sylfaenydd y cwmni Cory Brothers & Co” meddai.

“Roedd John Cory a’i frawd Richard yn Gristnogion ymroddedig, ac ar ôl dod yn ffrindiau gyda’n sylfaenwyr, William a Catherine Booth, fe benderfynodd roi llong yr SS Iole iddyn nhw, gan nad oedd o na’i wraig yn hoffi bod ar y môr.”

Ffynhonnell y llun, Byddin yr Iachawdwriaeth
Disgrifiad o’r llun,

Criw'r llynges yn noc Caerdydd ar ddiwrnod Nadolig

Roedd y teulu wedi gwneud eu ffortiwn yn y diwydiant glo gyda phyllau yng nghymoedd Rhondda, Ogwr a Glyn-nedd ac wedi buddsoddi yn adeiladau dociau’r Barri.

Dydy hi ddim yn ymddangos bod rhoi anrheg mor ddrud yn ei boeni rhyw lawer.

Mewn llythyr at Bramwell Booth, fe ysgrifennodd: “Mae hi’n amlwg mai Duw sy’n mynnu hyn.”

Ffynhonnell y llun, Byddin yr Iachawdwriaeth
Disgrifiad o’r llun,

Yr SS Iole

Nod William Booth wrth sefydlu’r llynges oedd lledaenu neges ei eglwys ymhellach a “gwneud i’r rheiny sy’n mynd ar y môr yr hyn mae’r Fyddin yn ei wneud ar y tir".

Yng nghofnodion y llong, fe ysgrifennodd y capten mai eu gwaith oedd “ymweld â phob tref bysgota a phorthladd ar hyd arfordir Cymru, Iwerddon, yr Alban a Lloegr, gan roi Beiblau a llyfrau da, a phregethu Crist".

Roedd symbol gwreiddiol Byddin yr Iachawdwriaeth, ‘S’, i’w weld ar bob un o’r tair hwyl yr Iole.

Fe dreuliodd y criw aeaf 1885 yn ymweld â phorthladdoedd Môr Udd yn ne Lloegr.

Ond byr iawn fu oes yr SS Iole.

Y llong yn suddo

Mewn stormydd difrifol ym mis Mehefin 1886 fe darodd y llong gefnen dywod ym Moryd Humber, ger Hull, ac fe suddodd.

Fe lwyddodd y criw i ddianc ar y bad achub. Roedd adroddiadau o’r cyfnod yn dweud “Hyd yn oed pan fo’r môr ar drai, dim ond rhyw ddwy droedfedd o gorn mwg y llong oedd i’w weld".

Dywed adroddiad arall bod un aelod o’r criw wedi dweud ei fod yn hapus "gan nad oedd wedi colli’r Iesu" er bod ei wely a’i ddillad yn gorwedd ar lawr yr Humber.

Wedi’r llongddrylliad, roedd Llynges yr Iachawdwriaeth heb long am saith mis.

Fe ddaeth cymorth unwaith yn rhagor gan John Cory pan gyflwynodd long arall 82 troedfedd, y Vestal, i’r mudiad.

Parhau â’r gwaith efengylu wnaeth y Capten Abbot Taylor a’i griw gan dreulio gaeaf 1887/1888 ar hyd arfordir de Cymru ac fe gynhaliodd wasanaeth ar fwrdd y llong yn nociau Caerdydd ddydd Nadolig.

Fe gafodd y Vestal ei tharo gan long arall ym mis Chwefror 1888, ac er gwaetha’r ymdrechion i’w thrwsio a recriwtio criw newydd, does dim cofnod pellach o Lynges yr Iachawdwriaeth ar ôl 1890.

Wedi hynny parhau i ehangu wnaeth Byddin yr Iachawdwriaeth gyda’r corfflu cyntaf yn symud o Stryd Biwt i adeilad Stuart Hall ar yr Aes.

Agorodd Corfflu Treganna yn 1875 cyn sefydlu Teml y Rhath yn 1877 a chorfflu Merthyr Tudful flwyddyn wedyn.

Yn 1886 agorwyd cartref Sblott, fel lloches i fenywod.

Ffynhonnell y llun, Byddin yr Iachawdwriaeth
Disgrifiad o’r llun,

Adroddiad am ymdrechion John Cory mewn papur newydd o 1891

Parhau wnaeth y cysylltiad hefyd rhwng John Cory a Byddin yr Iachawdwriaeth.

Mewn erthygl bapur newydd yn 1891 mae adroddiad am ymdrechion John Cory mewn achos am hawliau rhyddid crefyddol gan nodi ei fod "wedi brwydro’r achos cyntaf yn y wlad hon ynglŷn â hawl Byddin yr Iachawdwriaeth i bregethu’r efengyl ar strydoedd cyhoeddus" (South Wales Daily News, 7 Tachwedd 1891).

Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn nodi 150 o flynyddoedd yng Nghymru gydag ymgyrch ar y themâu “Dyma Gariad.”

Disgrifiad o’r llun,

“Ni’n ceisio helpu pobol mewn cyfnodau anodd yn eu bywydau,” meddai Kathryn Stowers

Mae’r Capten Kathryn Stowers, Swyddog Ecwmenaidd Cymru Byddin yr Iachawdwriaeth, yn dweud bod eu gwaith yn bwysicach nag erioed.

“Ni’n ceisio helpu pobl mewn cyfnodau anodd yn eu bywydau,” meddai, “roedden ni yno wedi trychinebau Senghennydd ac Aberfan.

“Pan mae pethau ofnadwy fel yna’n digwydd, dan ni’n mynd a jesd gweld beth sydd ei angen - weithiau mae paneidiau’n ddigon, ond dan ni’n glust i wrando ac i weithio trwy beth sydd wedi digwydd.”

Un o brif ganolfannau’r Fyddin ydi Tŷ Gobaith yng Nghaerdydd sy’n cynnig llety am gyfnod amhenodol i bobl sydd wedi bod yn ddigartref.

“Pwrpas Tŷ Gobaith yw darparu rhywle lle mae pobl yn dod i roi eu bywydau yn ôl at ei gilydd,” meddai, “ac mae 34 o ganolfannau dros y wlad gyda phethau fel banciau bwyd.

“Efallai bod yr eglwys yn 150 oed, ond ni’n ceisio ymateb i broblemau cyfoes, a’r nod ydi parhau i wneud hynny ymhell i’r dyfodol,” meddai.

Pynciau cysylltiedig